Ym mis Gorffennaf gwnaethom agor ymchwiliadau i GB News a Greatest Hits Radio ynghylch eu priod ymgyrchoedd 'Don’t Kill Cash' a 'Face the Family'. Mae’r erthygl hon wedi’i diweddaru i adlewyrchu’r ffaith ein bod bellach wedi agor pum ymchwiliad pellach i’r sianel mewn perthynas â’r ymgyrch hon.
Mae Rheol 5.4 o God Darlledu Ofcom yn ei gwneud yn ofynnol i bob darlledwr sicrhau bod eu rhaglenni - beth bynnag fo'u genre - yn gwahardd pob mynegiad o safbwyntiau a barn y person sy'n darparu'r gwasanaeth ar faterion gwleidyddol a diwydiannol dadleuol neu bolisi cyhoeddus cyfredol. Mae hyn yn adlewyrchu'r gofynion statudol yn Neddf Cyfathrebiadau 2003 fel y'u pennwyd gan Senedd y DU.
Esbonia arweiniad Ofcom mai'r trwyddedai, swyddogion y cwmni a phersonau sydd â chyfrifoldeb golygyddol am y gwasanaeth yw'r "person sy'n darparu'r gwasanaeth" - yn hytrach na'r cyflwynwyr unigol neu'r gwesteion sy'n ymddangos yn rhaglenni'r darlledwr.
Nid yw ein hymchwiliad am gwestiynu rhinweddau'r ymgyrch ei hun.
Diweddariad ar ymchwiliadau newydd, Dydd Llun 25 Medi 2023
Heddiw, rydym wedi lansio pum ymchwiliad pellach ynghylch yr ymgyrch "Don’t Kill Cash" ar GB News. Y rhaglenni ychwanegol rydym yn ymchwilio iddynt, o dan yr un rheolau â’r rhai a nodir uchod, yw:
- Breakfast with Eamonn and Isabel, GB News, 6 Gorff 23
- Patrick Christys, GB News, 6 Gorff 23
- Britain’s Newsroom, GB News, 11 Gorff 23
- Britain’s Newsroom, GB News, 5 Gorff 23
- The Live Desk, GB News, 17 Awst 23
Rydym hefyd wedi agor pedwar ymchwiliad i'r rhaglenni a ganlyn ar Greatest Hits Radio sy'n darlledu'r ymgyrch 'Face the Family':
- Newyddion, Greatest Hits Radio, 13 Ebr 23 – Mae'r ymchwiliad hwn yn disodli'r hyn a gyhoeddwyd yn flaenorol ym Mwletin Darlledu 478 a gyfeiriodd at ‘Ken Bruce, Greatest Hits Radio, 13 Ebrill 2023’.
- Newyddion, Greatest Hits Radio, 14 Ebr 23
- Newyddion, Greatest Hits Radio, 17 Ebr 23
- Newyddion, Greatest Hits Radio, 21 Ebr 23