Mae ymchwiliad gan Ofcom wedi canfod heddiw bod rhaglen Mark Steyn, a gafodd ei darlledu am y tro cyntaf ar GB News ar 4 Hydref 2022, wedi torri ein rheolau darlledu.
Roedd y rhaglen yn cynnwys cyfweliad rhwng y cyflwynydd, Mark Steyn, a gwestai, Dr Naomi Wolf. Yn ystod y cyfweliad, gwnaeth Naomi Wolf honiadau difrifol am y brechlyn Covid-19, gan gynnwys bod ei gyflwyno’n gyfystyr â throsedd a ragfwriadwyd – “llofruddio torfol” – ac y gellid ei gymharu â gweithredoedd “meddygon yn yr Almaen cyn cyfnod y Natsïaid”. Derbyniodd Ofcom 422 o gwynion a oedd yn honni bod y sylwadau hyn yn “beryglus” ac yn cynnwys “gwybodaeth anghywir” a oedd yn “ddiwrthwynebiad”.
Mae’n bwysig pwysleisio, yn unol â’r hawl i ryddid mynegiant – bod darlledwyr yn rhydd i ddarlledu rhaglenni sy’n cynnwys safbwyntiau dadleuol a heriol, gan gynnwys am frechlynnau Covid-19 neu ddamcaniaethau cynllwyn. Fodd bynnag, ochr yn ochr â’r rhyddid golygyddol hwn, mae’r Cod Darlledu yn gosod gofyniad clir, os oes gan gynnwys o’r fath y potensial i fod yn niweidiol, rhaid i’r darlledwr sicrhau bod ei gynulleidfa’n cael ei diogelu’n ddigonol.
Daeth ein hymchwiliad i’r casgliad bod GB News wedi methu â bodloni’r gofyniad hwn drwy ganiatáu i Naomi Wolf hyrwyddo damcaniaeth cynllwyn difrifol heb her na chyd-destun – er enghraifft drwy gyfraniadau eraill yn y rhaglen neu gan y cyflwynydd, yr oedd yn ymddangos ei fod yn cefnogi llawer o’i sylwadau. Nid oedd unrhyw graffu ychwaith ar y dystiolaeth yr oedd yn honni ei bod ganddi i gefnogi ei honiadau.
Fe wnaethom hefyd ystyried bod y rhaglen wedi cyflwyno Naomi Wolf fel unigolyn o awdurdod, gyda gwybodaeth ac arbenigedd penodol o ran diogelwch brechlynnau Covid-19. Credwn y byddai hyn wedi rhoi hygrededd i’w honiadau a aeth heb eu herio. Yr hyn a oedd yn peri pryder arbennig oedd ei honiad sylweddol a brawychus bod “llofruddio torfol” yn digwydd drwy gyflwyno brechiadau Covid-19, ac ailadroddwyd hyn dair gwaith ganddi.
Cawsom fod y sylwadau a wnaed gan Naomi Wolf â photensial i effeithio ar benderfyniadau gwylwyr am eu hiechyd ac felly eu bod o bosibl yn niweidiol. Gan nad oedd GB News wedi cymryd camau digonol i ddiogelu gwylwyr rhag y cynnwys hwn a allai fod yn niweidiol, rydym wedi canfod bod y sianel wedi torri Rheol 2.1 y Cod Darlledu.
Dyma’r ail achos sylweddol o dorri’r Cod a gofnodwyd yn erbyn GB News. Yng ngoleuni hyn, rydym yn gofyn i GB News fynychu cyfarfod gydag Ofcom i drafod ei hagwedd at gydymffurfio.
Gallwch ddarllen ein datganiad yn llawn (PDF, 409.1 KB).
Ymddangosodd Naomi Wolf hefyd ar raglen Mark Steyn y diwrnod canlynol, a gwnaeth honiadau pellach am frechlynnau Covid-19. Cafodd ei sylwadau eu rhoi yn eu cyd-destun gan safbwyntiau eraill a fynegwyd yn ystod y rhaglen, ac roedd baner a ddarlledwyd gydol y segment yn hysbysu’r gwylwyr bod Naomi Wolf wedi “wynebu beirniadaeth eang yng nghyswllt ymchwil Covid”. O ystyried hyn, ni fyddwn yn mynd ar drywydd y cwynion hyn ymhellach.
Covid, cydymffurfio a rhyddid mynegiant
Ers mis Mawrth 2020, mae Ofcom wedi derbyn dros 26,000 o gwynion am ddarpariaeth teledu a radio yn ymwneud â phandemig Covid-19. Gan adlewyrchu’r pwysau a roddwn ar yr hawl i ryddid mynegiant, nid oedd y mwyafrif helaeth o’r cwynion hyn yn codi materion dan ein rheolau.
Rydym wedi agor 11 ymchwiliad ffurfiol lle cododd y cynnwys bryderon difrifol. O’r achosion hyn, rydym wedi canfod bod naw rhaglen wedi torri ein rheolau, cafwyd nad oedd un wedi torri’r rheolau, ac mae un ymchwiliad yn dal i fynd rhagddo. Rhagor o wybodaeth am ein gwaith ar safonau darlledu yn ystod pandemig Covid-19.
Hyd yma, derbyniwyd cyfanswm o 4,560 o gwynion am GB News, sy’n cynrychioli 1.6% o’r holl gwynion darlledu a wnaed i ni yn ystod y cyfnod hwn. O’r rhain, roedd 1,670 yn ymwneud â phandemig Covid-19.
Ar ôl asesu gofalus, nid fwriwyd ymlaen â mwyafrif helaeth y cwynion a wnaed yn erbyn GB News.
Rydym wedi lansio pedwar ymchwiliad i’r sianel, a dyma’r ail achos o dorri ein rheolau darlledu a gofnodwyd yn erbyn GB News ers iddi gael ei lansio ym mis Mehefin 2021.
Roedd pennod gynharach o raglen Mark Steyn wedi torri ein rheolau drwy gyflwyno dehongliad sylweddol gamarweiniol o ddata swyddogol heb ddigon o her na chyd-destun, gan achosi risg o niwed i wylwyr. Daeth ein hymchwiliad i Talking Pints with Nigel Farage (23 Awst 2021) – yn ymwneud ag iaith anweddus – i’r casgliad nad oedd y rhaglen yn torri ein rheolau. Ar hyn o bryd, rydym yn ymchwilio i weld a oedd Saturday Morning with Esther and Philip a ddarlledwyd ar 11 Mawrth 2023 wedi torri ein rheolau sy’n mynnu bod newyddion a materion cyfoes yn cael eu cyflwyno gyda didueddrwydd dyladwy.