A close-up photo of a camera lens

Ymchwiliadau newydd i GB News a Talk TV

Cyhoeddwyd: 1 Awst 2023
Diweddarwyd diwethaf: 1 Awst 2023

Heddiw, rydym yn agor dau ymchwiliad safonau darlledu newydd.

Bydd y cyntaf yn archwilio a wnaeth pennod o State of the Nation ar GB News a ddarlledwyd ar 9 Mai, gydymffurfio â'n rheolau.

Cawsom 40 o gwynion am y rhaglen hon, a gyflwynwyd gan Jacob Rees-Mogg AS, a fu'n ymdrin â stori newyddion cyfredol am reithfarn treial sifil yn ymwneud â chyn-Arlywydd UDA Donald Trump. Bydd ein hymchwiliad yn edrych ar gydymffurfiad y rhaglen â'n rheolau sy'n atal gwleidyddion rhag gweithredu fel darllenwyr newyddion mewn unrhyw raglenni newyddion, oni bai bod cyfiawnhad golygyddol dros hynny

Bydd yr ail yn ymchwilio i weld a wnaeth sioe ar Talk TV, a gyflwynwyd gan Alex Salmond ar 2 Ebrill, dorri ein rheolau sy'n ei gwneud yn ofynnol i newyddion a materion cyfoes gael eu cyflwyno gyda didueddrwydd dyladwy.

Cawsom ddwy gŵyn am y rhaglen hon, yn benodol mewn perthynas â thrafodaeth ar yr SNP.

Mae ein hymchwiliad i Saturday Morning with Esther and Philip a ddarlledwyd ar GB News ar 11 Mawrth 2023, yn mynd rhagddo. Mae hyn hefyd yn berthnasol i'n rheolau a amlinellir uchod.

Rydym am wybod beth mae pobl yn ei feddwl am wleidyddion yn cyflwyno rhaglenni

Mae gwylwyr a gwrandawyr wrth wraidd yr hyn a wnawn. Felly, er mwyn sicrhau bod ein rheolau darlledu'n parhau i fod yn berthnasol ac yn effeithiol, mae'n bwysig i ni ddeall o lygad y ffynnon beth mae pobl yn ei feddwl ac yn ei deimlo am y cynnwys teledu a radio maen nhw'n ei ddefnyddio, a sut y gallai safbwyntiau newid dros amser. Felly, rydym yn cynnal ymchwil reolaidd i sut mae cynulleidfaoedd yn teimlo am wahanol fathau o gynnwys y gallent ddod ar eu traws ar y teledu a'r radio.

Cyflwynwyd y rheolau ynghylch gwleidyddion yn cyflwyno rhaglenni am y tro cyntaf yn 2005. O ystyried y cynnydd yn nifer y rhaglenni materion cyfoes a gyflwynir gan wleidyddion cyfredol a diddordeb cyhoeddus diweddar yn y mater hwn, rydym yn cynnal ymchwil newydd i fesur agweddau'r gynulleidfa tuag at y rhaglenni hyn ar hyn o bryd. Caiff hyn ei wneud gan asiantaeth ymchwil arbenigol a'n nod yw cyhoeddi'r canfyddiadau yn ddiweddarach eleni.

Yn ôl i'r brig