Perfformiad

Cyhoeddwyd: 4 Mawrth 2024

Rhan o waith Ofcom yw dwyn y BBC i gyfrif mewn perthynas â'i hallbwn a’i gwasanaethau, gan ddefnyddio'r dulliau rheoleiddio amrywiol sydd ar gael i ni.

Mae’r adnoddau hyn yn cynnwys:

  • pennu amodau rheoleiddio y mae modd eu gorfodi ar wasanaethau cyhoeddus y BBC yn y DU yn unol â thrwydded gweithredu'r BBC;
  • fframwaith mesur perfformiad newydd i asesu cydymffurfiad â’r amodau rheoleiddiol ac i archwilio perfformiad ehangach y BBC;
  • adroddiad blynyddol ar y mesurau perfformiad hyn a chydymffurfiad y BBC â'r amodau rheoleiddiol; ac
  • ac o leiaf dau adolygiad manwl o berfformiad y BBC yn ystod cyfnod y Siarter. Gallwn ni hefyd gynnal adolygiad ad hoc pan fyddwn yn teimlo bod hynny’n briodol.

Adolygiad o sut rydym yn rheoleiddio'r BBC

Wrth i ni ddod at hanner ffordd drwy gyfnod Siarter presennol y BBC, rydym wedi bod yn adolygu perfformiad y BBC a sut byddwn yn ei rheoleiddio yn y dyfodol. 

A ninnau wedi ymgynghori'n helaeth, rydym wedi cyhoeddi Trwydded Weithredu newydd wedi'i foderneiddio (PDF, 357.0 KB) ar gyfer y BBC. Mae'r ddrwydded, a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2023, wedi'i dylunio i ddal y BBC i gyfrif yn gadarn ar gyflwyno ei chylch gwaith, ac ar yr un pryd ei galluogi i adddasu ac arloesi yn y ffordd y mae'n darparu cynnwys i wylwyr a gwrandawyr, y mae eu harferion yn newid yn sylweddol.

I gael mwy o wybodaeth, darllenwch ein datganiad. Mae'r fersiwn  diweddaraf o'r drwydded ar gael ar ein tudalen Fframwaith Gweithredu'r BBC.

Fframwaith Mesur Perfformiad

Mae'r Fframwaith Mesur Perfformiad (PDF, 182.8 KB) (“FfMP”) yn disgrifio'r mesurau a'r metrigau a ddefnyddiwn i fonitro ac asesu perfformiad y BBC o ran hyrwyddo ei Dibenion Cyhoeddus a chyflawni ei Chenhadaeth. Bu i ni ddiweddaru'r FfMP ar 18 Gorffennaf 2023 gan ddilyn ymgynghoriad.

Rydym wedi cyhoeddi ein pedwerydd adroddiad blynyddol ar y BBC, ar gyfer y cyfnod o fis Ebrill 2020 i fis Mawrth 2021.

Eleni, mae'r adroddiad hwn yn edrych yn ôl ar sut mae'r BBC wedi perfformio ers dechrau'r cyfnod Siarter yn 2017.

Rydym yn cynnal adolygiad (PDF, 333.6 KB) i archwilio pam y mae'r BBC yn ei chael hi'n anodd diwallu anghenion rhai cynulleidfaoedd. Ers ymgymryd â rheoleiddio'r BBC, rydym wedi bod yn arbennig o bryderus bod cynulleidfaoedd yn yr hyn a elwir yn draddodiadol yn grwpiau D ac E yn parhau i fod yn llai bodlon.

Cyfeirir at bobl o grwpiau D ac E yn aml fel rhai sydd â statws economaidd gymdeithasol is neu o fod o gefndiroedd dosbarth gweithiol. Maent yn fwy tebygol o fod yn hŷn, yn ddi-waith, ag anabledd neu wedi ymddeol gyda phensiwn gwladol yn unig. Mae'r grwpiau hyn yn amrywiol iawn ac yn ffurfio bron i chwarter o boblogaeth y DU.

Bydd yr adolygiad hwn yn defnyddio amrywiaeth o dechnegau ymchwil a dadansoddeg i ymchwilio'n fwy manwl i'w hagweddau a'u harferion, a pha gynnwys sy'n apelio at y cynulleidfaoedd hyn er mwyn deall eu perthynas â'r BBC a'i gwasanaethau ymhellach.

Yn ogystal â siarad â chynulleidfaoedd, byddwn yn ymgysylltu â'r diwydiant a phartïon eraill sydd â diddordeb trwy gydol cyfnod ein hadolygiad.

Mae'r adolygiad hwn yn ffurfio un ran o'n gwaith craffu rheoleiddiol parhaus ar y BBC. Bydd ein canfyddiadau'n cyfeirio ein hasesiad blynyddol nesaf o berfformiad y BBC, sydd i'w gyhoeddi yn hydref 2023.

Gwybodaeth gyswllt

Adolygiad o Gynulleidfaoedd y BBC
Ofcom
125 Princes Street
Caeredin
EH2 4AD

E-bost: bbcaudiencesreview@ofcom.org.uk

Llythyr cymeradwyo Ofcom

Mae'r llythyr hwn yn cadarnhau cymeradwyaeth Ofcom o'r Cod Ymarfer ar gyfer Cynrychiolaeth, Portread ac Amrywiaeth Comisiynu'r BBC , yn unol â'r anghenion a nodwyd yn Nhrwydded Gweithredu'r BBC.

Y drwydded weithredu ar gyfer Gwasanaethau Cyhoeddus y BBC yn y DU (4 Mawrth 2024) (PDF, 426.2 KB)

Yn unol â gofynion Siarter Frenhinol y BBC, mae Ofcom wedi datblygu ‘Fframwaith Gweithredu’ ar gyfer y BBC, sy’n cynnwys rheoleiddio perfformiad y BBC, ei gydymffurfiad â safonau cynnwys a’i effaith ar gystadleuaeth.

Gwasanaethau’r BBC: cynulleidfaoedd yng Nghymru (PDF, 263.7 KB)

Mae hon yn ddogfen ar wahân sydd ar gael ar gyfer cynulleidfaoedd yng Nghymru sy’n nodi’r amodau rheoleiddio sy’n berthnasol i wasanaethau’r BBC yng Nghymru yn benodol.

Mae'r dogfennau isod ar gael yn Saesneg yn unig.

BBC services: Audiences in England (PDF, 266.6 KB).

Mae hon yn ddogfen ar wahân sydd ar gael ar gyfer cynulleidfaoedd yn Lloegr sy’n nodi’r amodau rheoleiddio sy’n berthnasol i wasanaethau’r BBC yn Lloegr yn benodol.

BBC services: Audiences in Scotland (PDF, 320.6 KB).

Mae hon yn ddogfen ar wahân sydd ar gael ar gyfer cynulleidfaoedd yn yr Alban sy’n nodi’r amodau rheoleiddio sy’n berthnasol i wasanaethau’r BBC yn yr Alban yn benodol.

BBC services: Audiences in Northern Ireland (PDF, 285.6 KB).

Mae hon yn ddogfen ar wahân sydd ar gael ar gyfer cynulleidfaoedd yng Ngogledd Iwerddon sy’n nodi’r amodau rheoleiddio sy’n berthnasol i wasanaethau’r BBC yng Ngogledd Iwerddon yn benodol.

Ym mis Ebrill 2023, mae'r BBC yn bwriadu cyfuno BBC News yn y DU a World News, mewn un sianel deledu o'r enw BBC News.

Mae Ofcom wedi cyhoeddi crynodeb o'n rôl (PDF, 142.9 KB) mewn perthynas â newidiadau arfaethedig y BBC.

Datganiad: Newyddion plant y BBC a rhaglenni gwreiddiol sy’n cael eu darlledu am y tro cyntaf yn y DU

Mae'r datganiad hwn yn egluro safbwyntiau terfynol Ofcom ynghylch cais gan y BBC i wneud newidiadau i’w Drwydded Weithredu o ran rhaglenni newyddion a rhaglenni gwreiddiol sy’n cael eu darlledu am y tro cyntaf yn y DU i blant.

Diffiniad cerddoriaeth newydd ar Radio 1 a Radio 2

Mae’r amrywiad trwydded hwn yn diiweddaru diffiniad Cerddoriaeth Newydd i asesu cydymffurfiaeth Radio 1 a Radio 2 gyda’u hanghenion priodol ac yn addasu'r rhwymedigaeth cerddoriaeth newydd cysylltiedig ar gyfer Radio 1.

Dal y BBC i gyfrif am gyflawni ei chenhadaeth a'i dibenion cyhoeddus

Mae'r Datganiad hwn yn cyflwyno ein trwydded weithredu gyntaf ar gyfer y BBC a'n fframwaith perfformiad, yn ogystal â'r prosesau ar gyfer gosod a diwygio'r rhain yn y dyfodol.

Mae'r BBC wedi gofyn am ohirio'r amodau newyddion ar gyfer rhai o orsafoedd Radio'r BBC a CBBC dros dro yn ystod y Nadolig. Bydd hyn yn effeithio ar y gwasanaethau a ganlyn (am fanylion llawn yr amodau perthnasol, cyfeiriwch at Drwydded Weithredu'r BBC):

  • BBC Radio 1 a BBC Radio 1Xtra ar 24, 29, 30 a 31 Rhagfyr 2021 (amodau 2.8.1 a 2.91)
  • BBC 6 Music yn yr wythnos sy'n dechrau 27 Rhagfyr 2021 (amod 2.14)
  • BBC Asian Network o 25 Rhagfyr 2021 i 3 Ionawr 2022 (amod 2.15)
  • BBC Radio Scotland rhwng 25 a 28 Rhagfyr 2021, a 1 – 4 Ionawr 2022 (amod 2.82.1)
  • BBC Radio Wales, BBC Radio Cymru, BBC Radio Foyle yn yr wythnos sy'n dechrau 27 Rhagfyr 2021 (amodau 2.88.1, 2.89.1, a 2.95.2)
  • BBC Radio Ulster yn yr wythnosau sy'n dechrau 20 a 27 Rhagfyr 2021 (amod 2.95.1)
  • CBBC rhwng 18 Rhagfyr 2021 a 3 Ionawr 2022 (amod 2.6.1)

Rhagwelodd Trwydded Weithredu'r BBC yr angen am y fath newidiadau (fel a amlinellir yn amod 2.16, tudalen 13 ac amod 2.97, tudalen 32). Mae Ofcom wedi derbyn y cais gan y BBC, ar y sail:

  • bod yr ymagwedd hon yn cydweddu â blynyddoedd blaenorol;
  • y bydd Newyddion Ar-lein y BBC yn parhau i gynnig diweddariadau i ddefnyddwyr ar unrhyw storïau allweddol newydd dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd;
  • bod arferion a phatrymau gwrando cynulleidfaoedd dros gyfnod y Nadolig yn wahanol i weddill y flwyddyn;
  • gyda Senedd y DU ar wyliau a llawer o sefydliadau mawrion ar gau naill ai'n gyfan gwbl neu'n rhannol, bod yr agenda newyddion yn gyffredinol yn dawelach; a'i fod yn
  • galluogi'r BBC i wneud y defnydd optimaidd o staff, gan gynnwys yng ngoleuni effaith Covid-19.

Nid yw Trwydded Weithredu'r BBC yn rhagweld gohirio amod newyddion CBBC dros dro. Byddwn yn ystyried a yw amrywiad trwydded i newid hyn yn briodol. Eleni, rydym o'r farn bod yr amrywiadau i amserlen CBBC yn rhesymol, gan gynnwys gan:

  • fod yr ymagwedd hon yn cydweddu â blynyddoedd blaenorol;
  • y bydd gwefan Newsround yn parhau'n weithredol yn ystod cyfnod y Nadolig (ac eithrio Dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan); a'i fod yn
  • galluogi'r BBC i wneud y defnydd optimaidd o staff, gan gynnwys yng ngoleuni effaith Covid-19.

Rydyn ni wedi cyhoeddi ein hadolygiad ar newyddion a materion cyfoes y BBC ar draws teledu, radio ac ar-lein.

Mae Ofcom wedi cael y gwaith o ddal y BBC i gyfrif yng nghyswllt ei gynnyrch a’i wasanaethau, gan ddefnyddio'r dulliau rheoleiddio amrywiol sydd ar gael i ni.

Mae'r dudalen hon yn dwyn ynghyd ymgynghoriadau, datganiadau rheoleiddio, datganiadau i’r wasg a gwybodaeth ddefnyddiol arall sy’n ymwneud ag Ofcom a’r BBC. Mae’n delio â'r cyfnod rhwng mis Medi 2016, pan gyhoeddwyd y Siarter a'r Cytundeb drafft, a 3 Ebrill 2017 pan fydd y gwaith rheoleiddio yn cychwyn.

DatganiadDal y BBC i gyfrif am gyflawni ei genhadaeth a’i ddibenion cyhoeddus. Yn yr ymgynghoriad hwn:

  • Rydym yn nodi ein Trwydded Weithredu arfaethedig ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus y BBC yn y DU. Mae’n cynnwys drafft o’r amodau rheoleiddiol y mae Ofcom yn eu hystyried yn briodol er mwyn ei gwneud yn ofynnol i’r BBC gyflawni ei genhadaeth a hyrwyddo ei ddibenion cyhoeddus; sef sicrhau darpariaeth sy’n cynnwys allbwn a gwasanaethau unigryw; a sicrhau bod yr holl gynulleidfaoedd yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cael gwasanaeth da; a
  • set ddrafft o fesurau perfformiad newydd, a fydd yn ein galluogi ni i asesu sut mae'r BBC yn cyflawni ei genhadaeth a'i ddibenion.

Mae’r ymgynghoriad hefyd yn cynnwys drafft o ddwy ddogfen weithdrefnol a fydd yn rhan o'r Fframwaith Gweithredu:

  • sut bydd Ofcom yn pennu ac yn gweinyddu trefn y drwydded weithredu, a’r gweithdrefnau i'w dilyn, gan gynnwys y gweithdrefnau ar gyfer pennu’r amodau rheoleiddio mewn trwydded weithredu, a'r ystyriaethau y bydd Ofcom yn rhoi sylw iddynt wrth bennu amodau rheoleiddio;
  • sut bydd Ofcom yn pennu mesurau perfformiad a’r gweithdrefnau i'w dilyn.

Ymchwil: Ymchwil Ofcom i natur unigryw’r BBC. Mae’r ddogfen hon yn grynodeb gweithredol o’r ymchwil ansoddol i’r farchnad rydym wedi’i gynnal ynghylch disgwyliadau pobl o’r BBC ledled y DU, yn enwedig mewn perthynas â’i natur unigryw.

Yn ôl i'r brig