Gorfodi

Cyhoeddwyd: 2 Tachwedd 2023

Yn unol â'r Siarter, mae’n rhaid i Ofcom fynnu bod y BBC yn cydymffurfio â gofynion penodedig. Mae’r rhain yn cynnwys gofynion o ran cystadleuaeth, safonau cynnwys mewn perthynas â rhaglenni'r BBC a gofynion eraill a nodir yn y Cytundeb.

Efallai y bydd Ofcom yn ystyried cwynion mewn perthynas â chydymffurfiad y BBC â’r gofynion hyn, ac yn cynnal ymchwiliadau lle y bo’n ystyried bod hynny’n briodol. Hefyd, efallai y byddwn yn rhoi sancsiynau penodol ar y BBC os na fydd yn cydymffurfio â’r gofynion hyn.

Yn unol â’r Cytundeb, mae’n ofynnol arnom i bennu gweithdrefnau ar gyfer delio â chwynion ac ymchwiliadau.

Gweithdrefnau ar gyfer delio ag ymchwiliadau a sancsiynau yng nghyswllt safonau cynnwys y BBC

Mae’r ddogfen hon yn nodi’r gweithdrefnau y bydd Ofcom fel arfer yn eu dilyn pan fydd yn delio â chwynion am raglenni teledu, radio ac ar-alwad y BBC, a sut byddwn yn cynnal ymchwiliadau a sancsiynau.

Gweithdrefnau ar gyfer gorfodi gofynion yng Nghytundeb y BBC a chydymffurfiad â chamau gorfodi Ofcom (PDF, 234.2 KB)

Mae'r ddogfen hon yn egluro ein gweithdrefnau ar gyfer ymchwilio i achosion (i) lle mae’r BBC yn torri ystod o ofynion a nodir yng Nghytundeb y BBC, a (ii) lle mae’r BBC yn methu cydymffurfio â chamau gorfodi.

Gweithdrefnau ar gyfer gorfodi gofynion cystadleuaeth y BBC

Mae'r ddogfen hon yn egluro sut mae Ofcom yn gorfodi cydymffurfiaeth gyda gofynion cystadleuaeth y BBC.

Yn unol â'r Siarter, mae’n rhaid i Ofcom fynnu bod y BBC yn cydymffurfio â gofynion penodedig. Mae’r rhain yn cynnwys safonau cynnwys mewn perthynas â rhaglenni'r BBC, gofynion o ran cystadleuaeth a gofynion eraill a nodir yn y Cytundeb.

Mae'r dudalen hon yn dwyn ynghyd ymgynghoriadau, datganiadau rheoleiddio, datganiadau i’r wasg a gwybodaeth ddefnyddiol arall sy’n ymwneud ag Ofcom a’r BBC. Mae’n delio â'r cyfnod rhwng mis Medi 2016, pan gyhoeddwyd y Siarter a'r Cytundeb drafft, a 3 Ebrill 2017 pan fydd y gwaith rheoleiddio yn cychwyn.

Datganiad: Gweithdrefnau ar gyfer delio ag ymchwiliadau a sancsiynau yng nghyswllt safonau cynnwys y BBC. Mae’r ddogfen hon yn nodi’r gweithdrefnau y bydd Ofcom fel arfer yn eu dilyn pan fydd yn delio â chwynion am raglenni teledu, radio ac ar-alwad y BBC, a sut bydd yn cynnal ymchwiliadau a sancsiynau.

Datganiad: Gweithdrefnau ar gyfer gorfodi gofynion yng Nghytundeb y BBC a chydymffurfiad â chamau gorfodi Ofcom. Mae'r ddogfen hon yn egluro ein gweithdrefnau ar gyfer ymchwilio i achosion (i) lle mae’r BBC yn torri ystod o ofynion a nodir yng Nghytundeb y BBC, a (ii) lle mae’r BBC yn methu cydymffurfio â chamau gorfodi.

Datganiad: Gweithdrefnau ar gyfer gorfodi gofynion cystadleuaeth y BBC.  Rydym wedi ymgynghori ar y gweithdrefnau y byddem yn disgwyl eu dilyn wrth inni orfodi’r gofynion cystadleuaeth hyn, gan gynnwys sut y byddem yn disgwyl delio â chwynion, cynnal ymchwiliadau a gosod sancsiynau. Byddwn yn cyhoeddi ein gweithdrefnau terfynol yn fuan.

Yn ôl i'r brig