Mae’r Siarter a'r Cytundeb yn rhoi dyletswydd ar Ofcom i ystyried effeithiau gweithgareddau’r BBC ar gystadleuaeth deg ac effeithiol.
Fel sefydliad mawr sy’n cael arian cyhoeddus, yn anochel mae’r BBC yn effeithio ar gystadleuaeth yn y farchnad cyfryngau ehangach. Gall gael effaith gadarnhaol drwy gynyddu'r dewis neu hybu arloesed ar draws y sector, er enghraifft. Ond wrth gyflawni ei amcanion, gall y BBC hefyd niweidio gallu cwmnïau eraill i gystadlu’n effeithiol.
Swyddogaeth Ofcom yw asesu effaith gweithgareddau’r BBC ar gystadleuaeth. Rydym wedi datblygu rheolau sy’n berthnasol i wahanol elfennau o weithgarwch y BBC a allai arwain at bryderon yng nghyswllt cystadleuaeth, yn ogystal â chanllawiau i egluro pa adnoddau y byddwn yn eu defnyddio i ddiogelu cystadleuaeth deg ac effeithiol yn y meysydd y mae’r BBC yn gweithredu ynddynt.
Adolygiad o sut rydym ni'n rheoleiddio'r BBC
Wrth i ni ddod at ganol cyfnod Siarter presennol y BBC, rydym wedi bod yn adolygu perfformiad y BBC a'n gwaith yn ei reoleiddio yn y dyfodol.
Rydym hefyd wedi cyhoeddi canfyddiadau ein hadolygiad o'r rhyngweithio rhwng BBC Studios a Gwasanaeth Cyhoeddus y BBC. Yn yr adolygiad hwn, gwnaethom geisio deall yn well sut mae'r BBC wedi dilyn y rheolau rydym wedi pennu i'w weithgareddau masnachol ac os ydy ein gwaith rheoleiddio yn parhau'n effeithiol.
Polisi ac Arweiniad
Adolygiad o’r ffordd rydym yn rheoleiddio’r BBC
Wrth i ni nesáu at ganol cyfnod Siarter presennol y BBC, rydym wedi bod yn adolygu perfformiad y BBC a’n gwaith o’i reoleiddio yn y dyfodol.
Ym mis Hydref, fe wnaethom hefyd gyhoeddi adolygiad o’r rhyngweithio rhwng BBC Studios a Gwasanaethau Cyhoeddus y BBC. Yn yr adolygiad hwn, roeddem wedi ceisio deall yn well sut mae’r BBC wedi dilyn y rheolau rydym yn eu defnyddio ar gyfer ei weithgareddau masnachol, ac a yw ein gwaith rheoleiddio yn dal yn effeithiol.
Ym mis Tachwedd 2022,fe wnaethom ni gyhoeddi ymgynghoriad ar sut mae Ofcom yn rheoleiddio effaith y BBC ar gystadleuaeth (PDF, 819.0 KB). Roedd yr ymgynghoriad yn nodi cynigion i newid ein canllawiau ynghylch sut mae effaith ar gystadleuaeth o ganlyniad i’r newidiadau arfaethedig i wasanaetha cyhoeddus y BBC yn cael ei hasesu, ac i osod gofyniad ar y BBC i gyhoeddi newidiadau arfaethedig i’w wasanaethau cyhoeddus.
Yn dilyn ymgynghoriad, rydym wedi penderfynu gosod gofyniad newydd (PDF, 684.9 KB) ar y BBC i gyhoeddi newidiadau i’w wasanaethau cyhoeddus sy’n debygol o fod yn destun asesiad perthnasedd gan y BBC. Bwriad hyn yw annog y BBC i fod yn fwy tryloyw gyda rhanddeiliaid am ei gynlluniau, ac i fod yn fwy cyson ynghylch sut mae’n gwneud y rhain yn gyhoeddus. Rydym hefyd wedi gwneud rhai mân newidiadau i’r gofynion masnachu a gwahanu.
Polisi a chanllawiau
Rydym wedi datblygu rheolau sy’n berthnasol i wahanol elfennau o weithgarwch y BBC a allai arwain at bryderon yng nghyswllt cystadleuaeth, yn ogystal â chanllawiau i egluro pa adnoddau y byddwn yn eu defnyddio i ddiogelu cystadleuaeth deg ac effeithiol yn y meysydd y mae’r BBC yn gweithredu ynddynt.
Trosolwg cyffredinol o'n dull o reoleiddio cystadleuaeth y BBC (PDF, 139.2 KB)
Y ffordd y byddem yn gorfodi’r gofynion cystadleuaeth hyn
Asesu effaith gweithgareddau gwasanaeth cyhoeddus y BBC
Pan fydd y BBC yn cynnig newid yn ei weithgareddau gwasanaethau cyhoeddus, bydd Ofcom yn asesu a yw gwerth cyhoeddus y newid yn cyfiawnhau unrhyw effeithiau niweidiol ar gystadleuaeth deg ac effeithiol.
Canllawiau: Y ffordd rydym yn asesu effaith y newidiadau arfaethedig i weithgareddau gwasanaeth cyhoeddus y BBC (PDF, 660.0 KB)
Gallwn hefyd asesu a ydy un o weithgareddau gwasanaeth cyhoeddus presennol y BBC yn cael effaith niweidiol sylweddol ar gystadleuaeth deg ac effeithiol. Mae hyn yn cynnwys asesu a yw gwerth cyhoeddus y gwasanaeth yn cyfiawnhau unrhyw effeithiau niweidiol ar gystadleuaeth deg ac effeithiol.
Comisiynu ar gyfer Gwasanaethau Cyhoeddus y BBC
Dros oes y Siarter, mae’n rhaid i’r BBC gomisiynu mwy o raglenni, gan sicrhau bod y broses gystadleuol mae’n ei dilyn yn deg, yn rhesymol, yn dryloyw ac nad yw’n gwahaniaethu.
Rôl Ofcom yw gorfodi’r gofynion hyn, monitro cydymffurfiad y BBC ac - os oes angen - gosod gofynion ychwanegol i ddiogelu cystadleuaeth deg ac effeithiol.
Ym mis Chwefror 2019, fe wnaethom benderfynu nad oedd angen unrhyw reoleiddio ychwanegol yn y maes hwn.
Dosbarthu gwasanaethau cyhoeddus y BBC
Rydym yn gallu ystyried cwynion penodol o safbwynt cystadleuaeth am y ffordd mae’r BBC yn dosbarthu ei wasanaethau cyhoeddus. Wrth asesu pryderon, byddwn yn ystyried yr angen i’r BBC gyflawni ei Genhadaeth a’i Ddibenion Cyhoeddus.
Dosbarthu gwasanaethau cyhoeddus y BBC: Gofynion a Chanllawiau Ofcom (PDF, 159.7 KB)
Delio â chwynion nad ydynt yn rhai golygyddol am y BBC
O dan Gytundeb y BBC, mae Ofcom wedi penderfynu:
- y ffurf a’r cyfnodau y mae’n rhaid i’r BBC adrodd arnynt i Ofcom mewn perthynas â chwynion perthnasol a dderbynnir am faterion nad ydynt yn rhai golygyddol (cystadleuol a materion rheoleiddio eraill); a
- ar ba ffurf ac ar ba adegau y mae’n rhaid i’r BBC gyhoeddi gwybodaeth am weithrediad ac effeithiolrwydd ei weithdrefnau delio â chwynion ar gyfer cwynion nad ydynt yn rhai golygyddol (cystadlu a rheoleiddio eraill).
Asesiadau
Rydym wedi adolygu’r asesiad perthnasedd a ddarparwyd i ni gan y BBC ar 30 Gorffennaf 2024 am y datblygiadau Cam 2 arfaethedig i BBC Bitesize. Penderfynwyd nad oedd angen i'r BBC gynnal Prawf Budd y Cyhoedd (PIT) ar gyfer y cynigion hyn.
Rydym wedi adolygu’r asesiad perthnasedd a ddarparwyd i ni gan y BBC ar 13 Mai 2024 mewn perthynas â’i gynigion i lansio ffrydiau cerddoriaeth newydd ar BBC Sounds.
Adolygiad o asesiad perthnasedd y BBC o’r ffrydiau newydd arfaethedig ar BBC Sounds
Review of the BBC's materiality assessment of proposed new streams on BBC Sounds
Fe wnaethom adolygu’r asesiad perthnasedd (MA) a ddarparwyd gan y BBC ar 2 Chwefror 2023 mewn perthynas â’i newidiadau arfaethedig i BBC Sounds. Penderfynasom beidio â mynnu bod y BBC yn cynnal Prawf Budd y Cyhoedd (PIT) ar gyfer y cynigion hyn.
Adolygiad o asesiad perthnasedd y BBC o’r newidiadau arfaethedig ar BBC Sounds(PDF, 257.1 KB)
Roedd y BBC wedi ymgynghori ac wedi cynnal prawf budd y cyhoedd (PIT) ar ei gynlluniau i gynyddu faint o gynnwys archif sydd ar BBC iPlayer. Roedd Bwrdd y BBC o’r farn nad oedd y newid arfaethedig yn sylweddol.
Fel sy’n ofynnol o dan Siarter a Chytundeb y BBC, cynhaliodd Ofcom asesiad o’r newid arfaethedig i bennu ei berthnasedd. Yn dilyn ymgynghoriad ar ein safbwynt cychwynnol nad oedd y newid yn berthnasol, fe wnaethom gyhoeddi datganiad yn dod i’r casgliad y gallai’r BBC fwrw ymlaen â’i gynnig.
Datganiad: Adolygiad o’r cynnydd arfaethedig yn y cynnwys archif ar BBC iPlayer (PDF, 370.3 KB)
Ymgynghoriad: Adolygiad o’r cynnydd arfaethedig yn y cynnwys archif ar BBC iPlayer(PDF, 365.6 KB)
Fe wnaethom adolygu’r asesiad perthnasedd a ddarparwyd gan y BBC ar 27 Medi 2022, mewn perthynas â’i gynigion ar gyfer darparu newyddion ar-lein lleol yn Lloegr. Penderfynasom beidio â mynnu bod y BBC yn cynnal prawf budd y cyhoedd (PIT) ar gyfer y cynigion hyn.
Cyhoeddodd Ofcom lythyr i’r BBC ynghylch treialon a oedd yn cael eu cynnal ar BBC Sounds.
Roeddem yn cytuno â phenderfyniad y BBC nad oedd y treialon a oedd yn cael eu cynnal ar BBC Sounds yn newid sylweddol. Roeddem o’r farn bod graddfa gymharol fach y newidiadau, a’r ffaith eu bod am gyfnod cyfyngedig, yn golygu eu bod yn annhebygol o gael effaith ar gymhellion cystadleuwyr i fuddsoddi a chystadlu yn y farchnad. Felly, nid oeddem yn mynnu bod y BBC yn cynnal prawf budd y cyhoedd.
Llythyr mewn ymateb i asesiad perthnasedd y BBC o dreialon BBC Sounds (PDF, 154.6 KB)
Ofcom has published a letter to the BBC and Radiocentre (PDF, 174.8 KB) concerning BBC Radio 1’s Relax stream.
When the BBC plans to make any changes to its public service activities, it is first required to consider whether this represents a ‘material’ change. The launch of a new public service, or where a change may have a significant adverse impact on fair and effective competition, is considered material.
In this case, we agree with the BBC’s determination that the proposed Radio 1 Relax stream does not constitute a material change. We consider that the impact on competitors’ services is likely to be low, particularly given that the uptake of the Radio 1 Relax stream has been modest and that we do not consider it is likely to grow substantially in the future. We will not, therefore, require the BBC to conduct a public interest test.
Mae Ofcom wedi cyhoeddi llythyr i'r BBC ynghylch ffrwd cerddoriaeth ddawns BBC Radio 1.
Pan mae'r BBC yn cynllunio gwneud unrhyw newidiadau i'w weithgareddau gwasanaeth cyhoeddus, mae angen iddo yn gyntaf i ystyried ydy hyn yn cynrychioli newid 'sylweddol'. Mae lawns gwasanaeth cyhoeddus newydd, neu lle mae'r newid yn gallu cael effaith ddifrifol ar gystadleuaeth deg ac effeithiol, yn cael ei ystyried yn sylweddol.
Yn yr achos hwn, rydyn ni'h cytuno gyda phenderfyniad Bwrdd y BBC nad yw'r ffrwd dawns Radio 1 yn golygu bod newid sylweddol. Bydd effaith y ffrwd ar wasanaethau cystadleuwyr yn debygol o fod yn isel, yn enwedig gan mai ar-lein yn unig y bydd ar gael, ac ni fydd yn cynnwys unrhyw gynnwys newydd neu unigryw. Ni fyddwn, felly, yn ei gwneud yn ofynnol i'r BBC i gynnal prawf lles y cyhoedd a bydd modd iddo lansio'r gwasanaeth ar BBC Sounds yn gynnar ym mis Hydref.
Fodd bynnag, mae BBC Sounds yn rhan hanfodol o gynnig clywedol y BBC ac mae cynlluniau ar gyfer gwneud newidiadau pellach iddo wedi cael eu mynegi gan y BBC. Rydyn ni felly'n ystyried mai dyma'r amser cywir i ystyried ei le yn y farchnad.
Rydyn ni'n bwriadu, drwy broses cyhoeddus, i ofyn am dystiolaeth gan bartïon sydd â diddordeb neu sy'n debygol o gael eu heffeithio gan effaith gystadleuol BBC Sounds. Fel rhan o'r broses hon, byddwn ni hefyd yn ceisio deall strategaeth y BBC ar gyfer dyfodol Sounds. Rydyn ni'n disgwyl cwblhau'r gwaith hwn erbyn diwedd 2020.
Mae'r ddogfen isod ar gael yn Saesneg yn unig.
Materiality assessment of BBC Radio 1’s Dance stream (PDF, 255.0 KB)
Asesiadau cystadleuaeth
Mae ein rôl yn cynnwys ystyried a yw newid arfaethedig gan y BBC yn berthnasol ac, os felly, penderfynu a all fwrw ymlaen.
Wrth wneud ein penderfyniad, efallai y byddwn yn cynnal asesiad cystadleuaeth(BCA). Mae hyn yn gofyn i ni benderfynu a yw gwerth cyhoeddus y newid arfaethedig yn cyfiawnhau unrhyw effaith negyddol ar gystadleuaeth deg ac effeithiol.
Isod fe welwch wybodaeth am asesiadau cystadleuaeth diweddar.
Mae’r BBC wedi cynnig ymestyn nifer yr oriau Cymraeg gwreiddiol sy’n cael eu cynnig gan BBC Radio Cymru 2 er mwyn iddo ddod yn Wasanaeth Cyhoeddus newydd yn y DU. Fel sy’n ofynnol o dan Siarter a Chytundeb y BBC, fe wnaethom gynnal asesiad cystadleuaeth byrrach o’r cynigion hyn. Mae’r datganiad hwn yn egluro ein penderfyniad terfynol y caiff y BBC fwrw ymlaen â’i gynnig a’n penderfyniad i osod amodau’r Drwydded Weithredu ar y gwasanaeth.
Cyhoeddodd y BBC gynnig i lansio BBC Three fel sianel deledu ym mis Ionawr 2022. Mae wedi ymgymryd â phrawf lles y cyhoedd, ac mae Bwrdd y BBC wedi dod i'r casgliad bod y cynnig yn pasio'r prawf lles y cyhoedd.
Ar 8 Gorffennaf 2021 bu i ni gyhoeddi 'gwahoddiad i roi sylwadau' fel dechrau i'n hasesiad o'r cynnig gan y BBC. Rydym yn awr wedi ysgrifennu at y BBC i amlinellu'r casgliad o'n hasesiad cychwynnol a'r camau nesaf y byddwn yn eu cymryd.
Mae'r cynnwys isod ar gael yn Saesneg yn unig.
BBC iPlayer Competition Assessment: Consultation on Ofcom’s provisional determination (PDF, 1.5 MB)
BBC iPlayer Competition Assessment: Final determination (PDF, 813.3 KB)
Rydyn ni wedi penderfynu fod y BBC yn gallu bwrw ymlaen gyda'i newidiadau arfaethedig i BBC iPlayer yn unol â chanllawiau ac amodau penodol.
Adolygiad o Asesiad y BBC o sylwedd y Newid Arfaethedig i'r iPlayer (PDF, 297.8 KB)
Mae’r BBC wedi cynnig nifer o newidiadau i BBC iPlayer ac mae wedi darparu ei gynlluniau i Ofcom eu hystyried.
Er mwyn diogelu cystadleuaeth deg ac effeithiol yn y sector teledu neu’r cyfryngau, mae Ofcom yn archwilio a yw’r newidiadau y mae’r BBC yn bwriadu eu gwneud i’w wasanaethau teledu, radio ac ar-lein, sy’n cael eu hariannu gan ffi’r drwydded, yn ddigon sylweddol i graffu arnynt yn fanwl.
Mae Ofcom wedi penderfynu bod newidiadau arfaethedig y BBC i’r iPlayer yn sylweddol ac y dylai’r BBC gynnal ‘prawf lles y cyhoedd’ er mwyn asesu eu gwerth a’u heffaith bosib ar gystadleuwyr yn briodol.
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Ofcom review of proposed BBC Scotland television channel
Mae'r datganiad hwn yn cyflwyno ein penderfyniad terfynol i gymeradwyo lawns sianel deledu'r BBC ar gyfer cynulleidfaoedd yn yr Alban.
Gwaith arall yn ymwneud â chystadleuaeth
Mae'r cynnwys isod ar gael yn Saesneg yn unig
Ym mis Medi 2018, gofynnodd Wireless i Ofcom i gynnal Adolygiad Cystadleuaeth y BBC ynghylch sut mae BBC Radio yn cael hawliau chwaraeon. Gwnaethon ni adolygu cyflwyniad Wireless yn erbyn ein canllawiau cyhoeddiedig, sy'n egluro sail lansio adolygiad o'r fath. Gwnaethon ni benderfynu nad oedd hi'n addas agor adolygiad cystadleuaeth ar yr adeg yma. Byddwn yn parhau i gadw llygad ar y sector radio chwaraeon a chaffael hawliau chwaraeon gan 'BBC Radio and Wireless.'
Mae'r BBC wedi cyhoeddi ei fod yn bwriadu lansio estyniadau DAB+ newydd ar gyfer BBC Radio 1, BBC Radio 2 a BBC Radio 3, a fydd hefyd ar gael ar BBC Sounds. Cyhoeddodd hefyd ei gynlluniau i ymestyn oriau darlledu BBC Radio 5 Sports Extra. Mae'r ddogfen hon yn darparu gwybodaeth am y prosesau rheoleiddio ar gyfer y newidiadau hyn.