Gweithdrefnau newydd ar gyfer delio â chwynion am safonau cynnwys, ymchwiliadau a sancsiynau ar gyfer rhaglenni’r BBC

Cyhoeddwyd: 23 Ionawr 2017
Ymgynghori yn cau: 6 Mawrth 2017
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)

Dan Gytundeb a Siarter newydd y BBC, rhaid i wasanaethau darlledu a rhaglenni ar alwad y BBC yn y DU[1] gydymffurfio â Chod Darlledu Ofcom (“y Cod”) a rhaid i Ofcom sicrhau safonau cynnwys ar gyfer y BBC.

Pan fydd Ofcom yn cael cwyn neu’n penderfynu ymchwilio i weld a yw’r BBC wedi torri'r Cod, byddwn yn dilyn ein gweithdrefnau cyhoeddedig. Ar ôl ymgynghori, mae’r ddogfen hon yn nodi’r gweithdrefnau terfynol y bydd Ofcom fel arfer yn eu dilyn ar gyfer gwasanaethau darlledu a rhaglenni ar alwad y BBC yn y DU a ariennir gan ffi'r drwydded wrth:

  • ystyried ac ymchwilio i faterion sy’n ymwneud â safonau cynnwys o dan y Cod;
  • ystyried a dyfarnu ynghylch cwynion am Degwch a Phreifatrwydd o dan y Cod; ac
  • ystyried rhoi sancsiynau am dorri’r Cod.

Bydd y gweithdrefnau hyn yn dod i rym pan fydd Ofcom yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb dros reoleiddio’r BBC ar y Dyddiad Dod i Rym sy’n cael ei nodi yn y Siarter, sef 3 Ebrill 2017.

1) Fel BBC iPlayer ac iPlayer Kids (rhaglenni clyweledol a sain).

Gweithdrefnau newydd ar gyfer delio â chwynion am safonau cynnwys, ymchwiliadau a sancsiynau ar gyfer rhaglenni’r BBC

Ymatebion

Manylion cyswllt

Cyfeiriad
James King
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA
Tel: 020 7981 3291
Yn ôl i'r brig