Mae'r ddogfen hon yn egluro penderfyniadau terfynol Ofcom yn dilyn cais gan y BBC i newid ei Drwydded Weithredu er mwyn iddo allu cyflawni ei ymrwymiadau newyddion a chynnwys newydd i blant drwy gynyddu ei ddarpariaeth ar-lein. Mae hyn yn dilyn ymgynghoriad a gyhoeddwyd gennyn ni ym mis Tachwedd 2019 yn nodi ein safbwyntiau cychwynnol.
Mae ein hymchwil yn dangos bod plant yn gwylio mwy o gynnwys ar-lein, tra bod cyrhaeddiad teledu llinol, ar set deledu yn parhau i ostwng ymysg plant. Mae'r dystiolaeth hefyd yn dangos bod y tueddiadau hyn wedi parhau yn ystod pandemig Covid-19. O ystyried y newidiadau hyn mewn arferion cyfryngau plant, mae'n gwneud synnwyr i'r BBC ddarparu mwy o gynnwys ar-lein. Dylai hyn helpu'r BBC i ymgysylltu'n well gyda'i gynulleidfaoedd ieuengaf, sy'n hanfodol ar gyfer ei lwyddiant yn y dyfodol.
Mae'r BBC yn cydnabod hyn ac yn 2019 cyflwynodd gais i Ofcom ynghylch sut gallai ymgysylltu'n well gyda phlant drwy ei wasanaethau ar-lein. I allu bwrw ymlaen gyda'r cynlluniau hyn, gofynnodd y BBC am newidiadau i'r Drwydded Weithredu. Penderfynom ni dderbyn cais y BBC am newidiadau ond gyda mesurau diogelu pwysig ychwnaegol.
Nodwn ein bod ni wedi bwriadu gwneud ein penderfyniad yn gynharach yn y flwyddyn er mwyn i’r newidiadau allu dod i rym erbyn 1 Ebrill 2020, dechrau ein cyfnod adrodd 2020/21 i’r BBC. Ond, gwnaeth Ofcom benderfynu gohirio gwneud unrhyw benderfyniadau ymgynghoriadau nad oeddent yn hanfodol ar ddechrau’r cyfnod cyfyngiadau symud. Ar wahân, cyhoeddodd yn BBC ei fwriad o gadw ei amserlen newyddion plant presennol trwy ddechrau’r cyfnod clo.
Dogfennau cysylltiedig
Ymatebion
Manylion cyswllt
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London
SE1 9HA