Yr wythnos hon mae Ofcom yn lansio'r arwerthiant sbectrwm diweddaraf, a fydd yn arwain at well gwasanaethau symudol a gwell mynediad at dechnoleg 5G.
Bydd yr arwerthiant yn cynyddu cyfanswm y sbectrwm sydd ar gael ar gyfer technoleg symudol yn y DU bron i un rhan o bump, gan ddod â gwasanaethau gwell a chyflymach i bobl a busnesau.
Allwch chi ddim weld na theimlo sbectrwm radio. Ond mae angen sbectrwm ar unrhyw ddyfais sy'n cyfathrebu'n ddi-wifr – fel setiau teledu, ffobiau allwedd car, monitorau babanod, meicroffonau di-wifr a lloerennau. Mae ffonau symudol yn defnyddio sbectrwm i gysylltu â mast lleol er mwyn i bobl wneud galwadau a chael mynediad i'r rhyngrwyd.
Dim ond maint cyfyngedig o sbectrwm sydd ar gael, felly mae angen ei reoli'n ofalus. Defnyddir rhai bandiau sbectrwm at ddibenion gwahanol hefyd. Er enghraifft, mae cwmnïau symudol yn defnyddio gwahanol rannau o'r sbectrwm i gwmnïau teledu. Felly, mae angen ei reoli i atal gwasanaethau rhag ymyrryd ac achosi aflonyddwch i bobl a busnesau.
Bydd yr arwerthiant hwn yn cynnwys cwmnïau sy'n gwneud cais am sbectrwm mewn dau fand amledd gwahanol.
Y band 700 MHz. Rydym yn rhyddhau 80 MHz o sbectrwm yn y band 700 MHz, gan ddilyn rhaglen bedair blynedd i glirio’r band o’i ddefnyddiau presennol, sef teledu daearol digidol a meicroffonau di-wifr. Mae'r tonnau awyr hyn yn ddelfrydol ar gyfer darparu gwasanaeth symudol o ansawdd da, dan do ac ar draws ardaloedd eang iawn – gan gynnwys y cefn gwlad. Bydd rhyddhau'r tonnau awyr hyn hefyd yn rhoi hwb i gapasiti rhwydweithiau symudol heddiw – gan gynnig gwasanaeth mwy dibynadwy i gwsmeriaid.
Y band 3.6-3.8 GHz. Rydym yn rhyddhau 120 MHz o sbectrwm yn y band 3.6-3.8 GHz. Mae'r tonnau awyr hyn yn rhan o'r band craidd ar gyfer 5G ac yn gallu cludo llawer o gysylltiadau sy'n llyncu data. Mae pob un o'r pedwar gweithredwr gwasanaethau symudol mwyaf wedi lansio 5G yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a bydd rhyddhau'r tonnau awyr hyn yn helpu i gynyddu capasiti ac ansawdd gwasanaethau data symudol.
Bydd pedwar cwmni’n bidio yn yr arwerthiant: EE Limited; Hutchison 3G UK Limited; Telefónica UK Limited a Vodafone Limited.
Sut fydd yr arwerthiant yn gweithio?
Bydd dau gam bidio i'r arwerthiant.
Y prif un, sef y prif gam, sy'n dod yn gyntaf ac yn digwydd dros nifer o rowndiau. Ym mhob rownd, mae prisiau'n codi gyda bidiau, ac mae'r bidiau’n pennu faint o sbectrwm y mae pob parti yn ei gaffael. Mae'r prif gam yn dechrau gyda'r holl sbectrwm yn cael ei ddarparu am bris wrth gefn, neu isafswm pris. Mae un pris wrth gefn am bob cyfran, neu lot, o sbectrwm 700 MHz; a phris arall am bob lot 3.6 GHz.
Y pris wrth gefn ar gyfer pob lot unigol o amledd 700 MHz yw £1m, ac mae pedair lot o sbectrwm (pob un o 5 MHz). Y gronfa wrth gefn ar gyfer pob lot o amledd 700 MHz cyfatebol yw £100m ac mae chwe lot o sbectrwm (pob un o 2x5 MHz). Pris wrth gefn pob lot 3.6 GHz yw £20m ac mae 24 lot o sbectrwm (pob un o 5 MHz).
Bydd bidwyr yn gwneud cais am nifer o lotiau ym mhob band am y pris a roddir, a bennir gan Ofcom. Os yw'r galw am y lotiau sydd ar gael yn hafal i'r swm sydd ar gael, neu'n fwy na hynny, yna bydd y pris ar gyfer pob band amledd yn codi yn y rownd nesaf. Bydd bidwyr wedyn yn cael eu gwahodd i fidio ar y pris newydd, uwch – sydd eto yn cael ei bennu gan Ofcom.
Daw'r prif gam i ben pan nad oes unrhyw fidiau newydd mewn rownd. Bryd hynny, bydd y galw ar draws yr holl fidwyr yn yr arwerthiant yn ei hanfod wedi cyfateb i'r cyflenwad sydd ar gael, a bydd bidwyr buddugol yn gwybod faint o sbectrwm y maent wedi'i ennill.
Bydd y bidwyr buddugol yn talu pris eu bidiau diwethaf.
Mae'r ail gam, sef y cam aseinio, yn digwydd dros un rownd ac yn pennu ble y mae'r tonnau awyr a enillir gan bob bidiwr wedi'u lleoli o fewn y sbectrwm radio.
Yn y cam aseinio, mae bidwyr buddugol o'r prif gam yn bidio i leoli'r sbectrwm y maent wedi'i ennill ar amleddau penodol o fewn y band.
Yn wahanol i'r prif gam, bydd bidwyr yn y cam aseinio yn talu'r pris a bennwyd gan y bidiwr a gollodd gyda’r pris uchaf. Y rheol 'ail bris' yw hon, ac mae'n debyg i'r ffordd y mae bidio'n gweithio ar eBay, er enghraifft.
Bydd enillwyr yn y band 3.6-3.8 GHz hefyd yn cael y cyfle i gyd-drafod yr amleddau penodol ymhlith eu hunain – os ydynt eisiau uno’r tonnau awyr y maent wedi’u sicrhau o fewn y band.
Yn dilyn bidio yn y cam aseinio bydd seibiant o hyd at bedair wythnos cyn prosesu bidiau’r cam aseinio, er mwyn caniatáu cyfnod cyd-drafod pan all bidwyr gytuno ar aseinio sbectrwm 3.6-3.8 GHz. Yn ystod cam cychwynnol y cyfnod hwn, bydd enillwyr sbectrwm 3.6-3.8 GHz yn cael cyfle i gytuno'n unfrydol ar aseinio'r band 3.6-3.8 GHz. Os na all bidwyr ddod i gytundeb unfrydol yn ystod y cyfnod hwn, bydd cyfnod ychwanegol pan fydd un neu fwy o is-set(iau) o fidwyr yn cytuno i gael blociau o sbectrwm sy'n gyfagos i'w gilydd.
Pryd fyddwn ni’n gwybod y canlyniadau?
Gall arwerthiannau sbectrwm gymryd rhai wythnosau i'w cwblhau. Bydd y cyfnod amser yn dibynnu ar lefel y galw am y sbectrwm sydd ar gael.
Ar ddiwedd pob diwrnod yn ystod y prif gam, byddwn yn cyhoeddi:
- y prisiau ar gyfer lotiau 700 MHz a 3.6 GHz yn y rownd olaf ar gyfer y diwrnod hwnnw; a
- mesur o’r galw ym mhob band, sef y 'galw dros ben', hefyd mewn perthynas â'r rownd olaf honno o'r dydd.
Mae'r galw dros ben yn cyfeirio at y galw actif am sbectrwm ym mhob band, sy'n fwy na'r cyflenwad sydd ar gael.
Pan fydd yr arwerthiant wedi'i gwblhau, byddwn yn cyhoeddi manylion llawn y sbectrwm a sicrhawyd gan bob bidiwr.
Bydd yr arian a godwyd gan yr arwerthiant hwn yn cael ei drosglwyddo i Drysorlys EM.