Mae Philip Marnick, cyfarwyddwr grŵp sbectrwm Ofcom, wedi cael ei gydnabod am ei gyfraniadau at ddatblygiadau mewn technoleg 5G gyda gwobr yn cael ei rhoi iddo fel rhan o Wythnos 5G.
Nod gwobrau'r Wythnos 5G yw cydnabod yr enghreifftiau gorau o fabwysiadu, defnyddio a chyflwyno 5G yn fyd-eang. Rhoddwyd gwobr 'Hyrwyddwr Unigol Blaenllaw 5G' i Philip ar ôl trafododaeth gan banel o feirniaid annibynnol.
Wrth roi'r wobr, canmolodd Dean Bubley, dadansoddwr y diwydiant a chynghorydd strategaeth, waith Philip ac Ofcom ym maes 5G a hefyd mewn polisi di-wifr a sbectrwm ehangach.
Tynnodd sylw at y ffordd y mae Ofcom, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, wedi mynd ati mewn ffordd arloesol i ryddhau sbectrwm, i bwy, a sut mae wedi ei ddefnyddio – mae hyn wedi cynnwys trwyddedau lleol a rhannu sbectrwm. Ychwanegodd fod hyn, o ganlyniad, wedi helpu i dynnu sylw at y DU yn rhyngwladol o ran cyflwyno 5G a thechnoleg ddi-wifr arall.
Mae Wythnos 5G yn wythnos o weithgareddau sydd â'r nod o dynnu sylw at ddatblygiadau a defnydd 5G a dod â sefydliadau sy'n ymwneud â'r dechnoleg at ei gilydd. Fe'i cefnogir gan yr Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) ac UK5G, rhwydwaith sy'n hyrwyddo ymchwil, cydweithredu a defnyddio 5G yn fasnachol yn y DU.
Diolch i Wythnos 5G am gydnabod gwaith caled tîm Ofcom. Mae cefnogi arloesedd yn flaenoriaeth ers tro i ni ac rydym wedi bod yn arwain yn y gwaith hwn yn y DU ac yn rhyngwladol ers nifer o flynyddoedd.
Byddwn yn parhau i chwarae ein rhan i sicrhau y gall pobl ledled y DU elwa ar alluoedd 5G a thechnolegau di-wifr eraill -p'un a ydynt yn cael eu darparu dros rwydweithiau cenedlaethol mawr, neu wasanaethau lleol llai.
Philip Marnick, Cyfarwyddwr Grŵp Sbectrwm