Hwb i wifi wrth i mwy o sbectrwm gael ei ryddhau ar gyfer gwasanaethau di-wifr

Cyhoeddwyd: 25 Mai 2023
Diweddarwyd diwethaf: 25 Mai 2023

Cyn bo hir, gallai cartrefi ledled y DU gael Wi-Fi cyflymach a mwy dibynadwy oherwydd newidiadau a gyhoeddwyd heddiw gan Ofcom.

Yn dilyn ymgynghoriad yn gynharach eleni, rydym yn darparu tonnau awyr yn y band 6 GHz isaf ar gyfer gwasanaethau Wi-Fi, heb fod angen trwydded . Bydd y newidiadau’n caniatáu defnydd newydd arloesol fel sbectol realiti estynedig a rhithwir, sy’n cysylltu â dyfeisiau eraill drwy Wi-Fi.  Rydym hefyd yn diweddaru gofynion technegol ar gyfer llwybryddion Wi-Fi er mwyn lleihau tagfeydd mewn rhwydweithiau di-wifr – gan greu profiad haws i ddefnyddwyr.

Bydd hyn yn helpu pobl i elwa o'r dechnoleg sy'n gynyddol boblogaidd fel ffrydio diffiniad uwch 'ultra', realiti rhithwir a realiti estynedig.

Yn gyffredinol, mae cyflymder band eang yn y cartref wedi parhau’n dda yn ystod y sefyllfa Covid-19, er gwaethaf y galw mawr oherwydd cynnydd mewn gweithio a dysgu gartref. A bydd y newidiadau hyn yn helpu i ddiwallu’r galw cynyddol am wasanaethau Wi-Fi nawr ac yn y dyfodol.

Mae Ofcom yn rheoli'r tonnau awyr yn y DU – neu sbectrwm – adnodd cyfyngedig sy'n hanfodol ar gyfer gwasanaethau di-wifr, gan gynnwys wifi.

Defnyddir WiFi yn gynyddol ar gyfer y gweithgareddau y mae pobl a busnesau yn dibynnu arnynt bob dydd. Cyn cloi i lawr, byddai aelwyd nodweddiadol yn defnyddio hyd at 315GB o ddata band eang y mis, mae hynny'n cyfateb i wylio hyd at bedair awr o fideo HD y dydd.

Yn ôl i'r brig