Ofcom yn cynnig rheolau newydd i helpu i roi hwb i wifi

Cyhoeddwyd: 27 Chwefror 2023
Diweddarwyd diwethaf: 16 Mawrth 2023

Gallai pobl a busnesau elwa o wifi mwy dibynadwy, diolch i gynigion a nodwyd gan Ofcom heddiw.

Ofcom sy'n rheoli tonnau awyr – neu sbectrwm – y DU, sef adnodd y mae pen draw iddo sy'n hanfodol ar gyfer gwasanaethau di-wifr, gan gynnwys wifi.

Mae wifi yn cael ei ddefnyddio fwyfwy ar gyfer gweithgareddau bob dydd y mae pobl a busnesau’n dibynnu arnynt – mae’r cartref cyffredin yn defnyddio hyd at 315GB o ddata band eang y mis, sydd gyfwerth â gwylio hyd at bedair awr o deledu HD bob dydd.

Felly, rydym yn adolygu’r rheolau presennol ynglŷn â sbectrwm er mwyn gwneud yn siŵr bod modd bodloni’r galw yn y dyfodol a helpu i ddatblygu ffyrdd newydd, arloesol o ddefnyddio sbectrwm.

Rydyn ni’n cynnig darparu sbectrwm ychwanegol ar gyfer wifi yn y band amledd 6 GHz, heb fod angen trwydded. Rydyn ni hefyd yn cynnig newidiadau i ofynion technegol mewn mannau eraill yn y sbectrwm, sy’n cael eu defnyddio gan rai llwybryddion wifi.

Nod y mesurau hyn yw helpu pobl i gael cysylltiad wifi mwy dibynadwy. Bydd hyn yn eu helpu i elwa o dechnoleg sy’n fwyfwy poblogaidd fel ffrydio diffiniad uchel iawn, rhith-realiti ac uwch-realiti.

Mae'r ymgynghoriad ar gyfer y cynigion hyn ar agor tan 20 Mawrth.

Heddiw rydym hefyd wedi cynnig agor mynediad i’r hyn a elwir yn sbectrwm Amledd Uchel Iawn.

Er nad yw’n cael ei ddefnyddio’n eang ar hyn o bryd, bydd sbectrwm Amledd Uchel Iawn yn hanfodol er mwyn datblygu gwasanaethau arloesol ar draws amrywiaeth o ddiwydiannau yn y dyfodol. Gallai’r rhain gynnwys rhaglenni sgrinio iechyd fel canfod canser y croen; galluogi rhaglenni ar draws y Rhyngrwyd Pethau; a hologramau trochi.

Mae hyn yn rhan o’n gwaith parhaus i gefnogi arloesi di-wifr, drwy sicrhau bod pobl a sefydliadau’n gallu cael gafael ar y sbectrwm sydd ei angen arnynt.

Mae’r ymgynghoriad ar ein cynigion ar gyfer sbectrwm Amledd Uchel Iawn ar agor tan 20 Mawrth.

Yn ôl i'r brig