Gwella mynediad sbectrwm ar gyfer Wi-Fi – Defnyddio sbectrwm yn y bandiau 5 a 6 GHz

Cyhoeddwyd: 17 Ionawr 2020
Ymgynghori yn cau: 20 Mawrth 2020
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)

Datganiad 24 Gorffennaf 2020

Mae sbectrwm yn darparu’r tonnau radio sy’n cefnogi gwasanaethau di-wifr a ddefnyddir bob dydd, gan gynnwys Wi-Fi. Rydym wedi adolygu ein dull o ymdrin â sbectrwm er mwyn diwallu’r galw yn y dyfodol, mynd i’r afael â’r heriau presennol sy’n gysylltiedig ag arafwch a thagfeydd ar yr un pryd â galluogi rhaglenni newydd ac arloesol. Mae modd defnyddio rhai bandiau sbectrwm radio argyfer Wi-Fi heb fod angen trwydded, mewn geiriau eraill, ar sail esemptiad trwydded.

Mae mwy a mwy o bobl a busnesau yn y DU yn defnyddio gwasanaethau di-wifr i gefnogi gweithgareddau bob dydd, ac mae rhaglenni newydd yn gwthio’r galw am ddarpariaeth sy’n gyflymach ac yn fwy dibynadwy. Mae’r ddogfen hon yn nodi ein penderfyniadau i newid ein rheoliadau presennol i fynd i’r afael â’r materion hyn.

Ein penderfyniad – yn gryno:

  • Darparu’r band is 6 GHz (5925-6425 MHz) ar gyfer Wi-Fi a thechnolegau RLAN eraill
  • Bydd rhyddhau’r sbectrwm hwn hefyd yn golygu bod modd defnyddio pŵer isel iawn (VLP) yn yr awyr agored.
  • Tynnu’r gofynion Dewis Amledd Dynamig (DFS) o sianeli a ddefnyddir gan Wi-Fi yn y band 5.8 GHz (5725-5850 MHz)

Ymatebion

Manylion cyswllt

Cyfeiriad
Spectrum Policy and Analysis
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA
Yn ôl i'r brig