Sut mae Ofcom wedi galluogi arloesedd drwy rannu sbectrwm

Cyhoeddwyd: 27 Chwefror 2023
Diweddarwyd diwethaf: 16 Mawrth 2023

Y llynedd gwnaethom gyhoeddi ein penderfyniad i gefnogi gofynion cysylltedd lleol drwy ryddhau tonnau awyr (sbectrwm) a oedd ar gael i’w rhannu gan wasanaethau penodol yn unig cyn hynny. Gwnaethom sicrhau bod trwyddedau lleol newydd ar gael mewn ystod o fandiau sbectrwm sy'n cynnal technoleg symudol, gan gynnwys bandiau sydd wedi’u trwyddedu i gwmnïau symudol yn barod.

Drwy sicrhau bod y tonnau awyr hyn ar gael i’w defnyddio’n lleol, roeddem eisiau ehangu’r cyfleoedd i ddefnyddwyr o ystod o sectorau i ddefnyddio cysylltedd di-wifr er budd eu busnesau a chwsmeriaid.

Ers i ni wneud y newidiadau, rydym wedi dechrau gweld y sbectrwm yn cael ei ddefnyddio mewn sawl ffordd wahanol ar draws y sectorau amrywiol:

Mewn busnes

  • Defnyddio data, symudol ac SMS fel bod gweithwyr yn gallu defnyddio’r ffonau symudol sydd ganddynt yn barod i gyfathrebu drwy rwydweithiau preifat diogel mewn adeiladau neu ar safleoedd sydd â darpariaeth symudol gyfyngedig.
  • Defnyddio rhwydweithiau 4G preifat mewn swyddfeydd neu ddulliau cyfathrebu ar-safle ar gyfer galwadau a gwasanaethau data yn ogystal â Rhyngrwyd Pethau.
  • Profi technoleg 4G a 5G i ddatblygu rhwydweithiau 5G preifat o fewn busnesau ac achosion defnydd 5G newydd.

Gwella darpariaeth symudol

  • Darparu darpariaeth symudol cost isel dan do ar gyfer staff a phreswylwyr mewn cartref gofal preswyl lle mae signal ffonau symudol gwan ar hyn o bryd.
  • Treialu rhwydweithiau symudol 5G nifer o weithredwyr er mwyn gwella’r ddarpariaeth symudol mewn ardaloedd gwledig sydd â darpariaeth symudol wael.
  • Arddangos ateb darpariaeth symudol ar raddfa fach

Mynediad di-wifr sefydlog / band eang di-wifr gwledig

  • Darparu band eang di-wifr sefydlog mewn cymunedau gwledig a pharciau gwyliau.

Gweithgynhyrchu

  • Profi cysylltiadau 4G a 5G preifat mewn safleoedd gweithgynhyrchu i gefnogi awtomatiaeth yn y gweithle, monitro peiriannau a chynnyrch o bell er mwyn gwella effeithlonrwydd a chynhyrchiant.

Modurol

  • Defnyddio 5G i brofi cerbydau cysylltiedig ac awtonomaidd.

Cyfleustodau

  • Defnyddio rhwydweithiau 4G preifat ar gyfer gridiau cyfleustodau ‘clyfar’.

Rheoli twristiaeth a’r amgylchedd

  • Treialu rhwydweithiau 5G i weld sut gellid eu defnyddio i helpu i ddiogelu coedwigoedd a’r amgylchedd, a gwella profiad ymwelwyr â'r goedwig a’r ardal gyfagos.

Awyrennau

  • Rhwydweithiau 4G preifat mewn meysydd awyr ar gyfer cyfarpar sefydlog a symudol

Rydym ni yma i gefnogi defnyddwyr newydd wrth ystyried eu gofynion o ran sbectrwm. Y ddau fath o drwydded leol sydd ar gael yw’r Mynediad lleol a’r Mynediad a rennir, ac mae canllawiau a manylion cyswllt ar gael ar wefan Ofcom.

Yn ôl i'r brig