Gall pobl yn y DU edrych ymlaen at dechnolegau newydd di-wifr yn y dyfodol diolch i newidiadau a wnaed heddiw gan Ofcom.
Erbyn hyn, gall sefydliadau yn y DU sicrhau mynediad syml a hyblyg at fwy nag 18 GHz o sbectrwm amledd uchel (EHF) y gellid eu defnyddio ar gyfer technoleg ddi-wifr newydd. Mae’r sectorau a allai ddefnyddio’r tonnau awyr hyn yn cynnwys gofal iechyd, roboteg, cyfathrebu a diogelwch.
Ar hyn o bryd, mae’r bandiau hyn yn cael eu defnyddio gan wasanaethau lloeren sy’n archwilio’r ddaear i gasglu data pwysig am yr hinsawdd a’r tywydd. Felly rydyn ni wedi rhoi mesurau yn eu lle fydd yn amddiffyn y defnyddwyr lloeren hyn tra’n galluogi defnyddwyr newydd i ddatblygu a defnyddio technolegau arloesol.
Bydd rhyddhau mwy o’r sbectrwm hwn yn creu cyfleoedd newydd i ddatblygu gwasanaethau di-wifr mewn amrywiaeth o ddiwydiannau yn y dyfodol. Mae’r amleddau hyn yn addas iawn ar gyfer gwasanaethau di-wifr cyflym dros belleroedd byr sydd angen capasiti data mawr i weithio, yn ogystal â rhaglenni synhwyro a lleoli.
Dyma’r gwasanaethau newydd posibl:
- Ceisiadau sgrinio iechyd – i helpu i ganfod cyflyrau fel canser y croen yn gynt;
- Cysylltiadau data cyflymder uchel iawn dros bellteroedd byr – i gefnogi’r defnydd o ddelweddau 3D a rhaglenni ar y Rhyngrwyd Pethau yn y dyfodol;
- Cydosod cynnyrch â manylder uchel a sicrwydd ansawdd – er enghraifft i wirio am ddiffygion mewn cynhyrchion fferyllol.
Gallai’r defnyddiau newydd hyn ddod yn weithredol dros y ddegawd nesaf.
Gall pobl a sefydliadau fynd i wefan Ofcom o heddiw ymlaen i wneud cais am drwydded newydd.
Mae hyn yn rhan o’n gwaith parhaus i gefnogi arloesi di-wifr, drwy sicrhau bod pobl a sefydliadau’n gallu cael gafael yn rhwydd ar y sbectrwm sydd ei angen arnynt.