Dychmygwch yr sefyllfa – rydych chi wedi dewrio'r archfarchnad ac mae gennych chi droli’n llawn bwyd i’w roi yn y car a mynd adref.
Ond mae problem. Allwch chi ddim datgloi eich car. Am ryw reswm nid yw'r ffob allwedd yn gweithio. Ac wrth edrych o gwmpas, gallwch chi weld llawer o siopwyr eraill yn y maes parcio yn cael yr un drafferth.
Dyma a ddigwyddodd ychydig ddyddiau'n ôl mewn maes parcio Tesco yn Royston, Swydd Hertford. Cafodd llawer o siopwyr mewn archfarchnad fawr anawsterau wrth gloi a datgloi eu cerbydau. Wedyn roedd problemau eraill, gan gynnwys larymau ceir yn seinio'n anfwriadol ac yn arwain at nifer o alwadau i wasanaethau adfer cerbydau.
Er i un aelod o'r cyhoedd gymharu’r dirgelwch â 'rhyw fath o ffenomen ddieithr', roedd yr esboniad yn debygol o fod ychydig bach yn fwy cyffredin.
Beth a wnelo hyn ag Ofcom?
Mae ffobiau allwedd ceir, fel llawer o dechnolegau bob dydd arall, yn defnyddio sbectrwm radio i weithio. Yn anaml iawn, gall offer diffygiol neu anawdurdodedig ymyrryd â thechnoleg gyfagos a'i hatal rhag gweithio'n iawn – fel yn achos ffobiau'r cwsmeriaid hyn.
Mae Canolfan Rheoli Sbectrwm Ofcom, sydd wedi'i lleoli yn Baldock, Swydd Hertford, yn darparu gwasanaeth 24 awr i ddiwydiant ac i aelodau o'r cyhoedd, drwy fonitro'r sbectrwm radio. Mae'r gwasanaeth hwn hefyd yn galluogi pobl i roi gwybod am ymyrraeth radio.
Ddydd Gwener 26 Chwefror, cysylltodd swyddog o Heddlu Swydd Hertford â ni i’n hysbysu am y problemau ym maes parcio'r archfarchnad.
Oherwydd natur a maint y broblem, neilltuwyd hyn gennym fel achos â blaenoriaeth uchel, ac anfonwyd peiriannydd lleol a aeth i’r lleoliad yn gyflym i ymchwilio i'r broblem.
O fewn 30 munud, cyrhaeddodd ein peiriannydd sbectrwm y maes parcio i ymchwilio i'r broblem. I wneud hyn, rydym yn defnyddio offer dadansoddi sbectrwm – darn o gyfarpar sy'n mesur y tonnau awyr ac yn canfod unrhyw signal radio na ddylai fod yno. Fodd bynnag, yr ennyd benodol honno nid oedd y broblem yn digwydd mewn gwirionedd, ac roedd cwsmeriaid yn gallu cloi a datgloi eu cerbydau'n llwyddiannus. Felly, gofynnwyd i staff yr archfarchnad gysylltu os rhoddodd rhagor o gwsmeriaid wybod iddynt am broblemau pellach dros y penwythnos.
Wedi hynny, cawsom alwad bellach ddydd Sul 28 Chwefror yn dweud wrthym na allai cwsmer arall fynd i mewn i'w gar. Ymwelodd yr un peiriannydd Ofcom eto, ond unwaith eto nid oedd y broblem i’w gweld yn digwydd. Wrth ymchwilio ymhellach, mae'n ymddangos y bu’r mater hwn yn wall arall ar gar y cwsmer nad oedd yn gysylltiedig yn hytrach na mater ymyrraeth eang.
Mae'n anodd dweud beth allai fod wedi achosi'r materion penodol hyn yn y lleoliad hwn, ond mae'n debygol o fod wedi bod yn rhywbeth eithaf diniwed ac damweiniol. Canfu achosion tebyg blaenorol rydym wedi ymchwilio iddynt fod cloch drws diffygiol, a rhai bylbiau golau retro ar fai. Felly, gall siopwyr fod yn dawel eu meddwl ei bod yn annhebygol y bydd unrhyw beth sinistr y tu ôl i'r broblem – ac yn sicr nid ffenomen ddieithr!
Rydym wedi cynghori'r archfarchnad i gadw llygad ar y sefyllfa hon oherwydd y posibilrwydd y bydd yn digwydd eto, ac os bydd, y dylent gysylltu’n ôl â ni mor fuan â phosib er mwyn i ni gynnal ymchwiliad pellach os bydd angen.
Am y tro, bydd cwsmeriaid yn falch o wybod eu bod yn gallu mynd i mewn i'w ceir heb unrhyw broblemau.