A collection of old television sets stacked in a pile but with screens working

Sut roedd hen deledu yn gyfrifol am broblemau band eang pentrefwyr

Cyhoeddwyd: 22 Medi 2020
Diweddarwyd diwethaf: 29 Awst 2023

Mae dirgelwch ynghylch band eang methiedig pentref gwledig wedi'i ddatrys, diolch i beirianwyr wnaeth ganfod fod y broblem o ganlyniad i ffynhonnell annhebygol – hen set deledu un preswylydd.

Roedd trigolion Aberhosan ym Mhowys yn dioddef cysylltiadau a chyflymder band eang gwael, a fyddai'n dechrau fel arfer ar yr un pryd – 7yb – bob dydd.

Anfonwyd peirianwyr i'r pentref gan Openreach, y cwmni sy'n rheoli seilwaith ffôn a band eang y DU, i geisio dod o hyd i'r broblem a'i datrys. Dangosodd profion niferus fod y rhwydwaith ei hun yn iawn.  Gwnaeth y peirianwyr hyd yn oed newid rhannau o gebl a oedd yn gwasanaethu'r pentref, ond roedd preswylwyr yn dal i gael problemau.

Felly, anfonwyd tîm Openreach i'r pentref i gynnal cyfres wahanol o brofion – yn benodol i archwilio a allai'r broblem gael ei hachosi gan ffenomenon o'r enw ‘sŵn ergydiol unigol lefel uchel’, neu 'SHINE'. Dyma pryd mae dyfais drydanol yn rhoi signalau trydanol diangen sy’n gallu effeithio ar gysylltiadau band eang.

Gan ddefnyddio offer arbenigol, roedd y peirianwyr yn gallu olrhain 'bwrlwm mawr' o ymyriant trydanol yn y pentref – oedd yn dod o un eiddo yn arbennig. Am 7yb bob dydd, byddai'r preswylydd yn rhoi ei hen deledu ymlaen, a fyddai wedyn yn effeithio ar fand eang y pentref cyfan.

Diolch byth, ers lleoli'r ffynhonnell – ac ar ôl i'r perchennog addo peidio byth â defnyddio'r set deledu eto – nid yw’r pentrefwyr wedi cael unrhyw broblemau pellach gyda'u band eang.

Ers lleoli achos y nam oedd wedi achosi anawsterau nid yn unig i drigolion Aberhosan ond hefyd i breswylfeydd o amgylch y pentref, ni chafwyd unrhyw broblemau pellach gyda'r rhwydwaith.

Mewn newyddion da pellach i'r pentref, bydd Aberhosan yn elwa o fand eang ffeibr yn ddiweddarach eleni yn dilyn gwaith gan Openreach a Llywodraeth Cymru.

Os ydych chi’n cael problemau gyda’ch band eang, dylech gysylltu â'ch darparwr yn y lle cyntaf.

Mae gennym hefyd rai awgrymiadau am y camau ymarferol y gallwch eu cymryd i wella cyflymder eich band eang gartref.

Gallwch hefyd ddarllen mwy am sut mae peirianwyr Ofcom wedi helpu i ddatrys dirgelion technegol tebyg i'r un a ddisgrifir yma, gan gynnwys:

Yn ôl i'r brig