Peirianwyr Ofcom yn taflu goleuni ar broblem ymyrraeth

Cyhoeddwyd: 27 Chwefror 2023
Diweddarwyd diwethaf: 16 Mawrth 2023

Yn ddiweddar, llwyddodd tîm sicrhau sbectrwm Ofcom i ddatrys achos ymyrraeth a oedd yn gofyn am gryn dipyn o waith ditectif.

Roedd y Gwasanaethau Traffig Awyr Cenedlaethol wedi cysylltu â’r tîm, i roi gwybod bod rhywbeth yn ymyrryd ar awyrennau a oedd yn codi ac yn glanio ym maes awyr Glasgow, pan oedd yr awyrennau rhwng 6,000 a 10,000 o droedfeddi yn yr awyr.

Roedd yr ymyrraeth yn effeithio ar y prosesau cyfathrebu llafar rhwng y swyddogion rheoli traffig awyr ar y ddaear a’r awyrennau. Bob tro y byddai awyren yn agos at yr ymyrraeth, ni fyddai’r criw yn gallu clywed unrhyw negeseuon gan y gwasanaeth Rheoli Traffig Awyr gan fod y signal yn cael ei foddi gan sŵn yr ymyrraeth.

Nodwydd mewn tas wair

Plot of Carluke source

Ond beth oedd yn achosi’r broblem – ac, yn hollbwysig, ble’r oedd y broblem? Y cam nesaf i’r tîm oedd dod o hyd i ffynhonnell yr ymyrraeth, a chael gwybod beth oedd yn ei achosi.

Fodd bynnag, gan fod yr awyrennau mor uchel yn yr awyr (ac yn teithio mor gyflym!), dywedodd y tîm y byddai’r gwaith o ddod o hyd i’r hyn a allai fod yn achosi’r ymyrraeth fel chwilio am nodwydd mewn tas wair.

Llwyddodd y swyddogion i greu ‘ardal tebygolrwydd’ ar fap, lle gallent chwilio’n benodol am ffynhonnell yr ymyrraeth. Defnyddiwyd meddalwedd tracio-awyrennau i wneud hynny, a oedd yn galluogi’r swyddogion i wneud nodyn o leoliad yr awyrennau pan oedden nhw’n rhoi gwybod am y broblem – ac roedd hyn, yn ei dro, wedi’u helpu i ddod o hyd i leoliad cyfatebol ar y ddaear.

Bu ein swyddogion peirianneg sbectrwm yn siarad â’r Gwasanaethau Traffig Awyr Cenedlaethol (NATS) er mwyn lleihau’r ardal chwilio.
Carluke source light bulb

Ar ôl darganfod hyn, fe newidodd y gwaith chwilio i fod yn ymchwiliad ar y ddaear a oedd yn canolbwyntio ar dref fechan.

Roedd y gwaith monitro hwn yn cynnwys defnyddio derbynyddion ar gerbydau, a gyrru i'r ardal dan sylw nes byddai modd clywed yr ymyrraeth. Wedi cyrraedd y man lle'r oedd y signal ar ei gryfaf, roedd y criw yn defnyddio offer llaw i archwilio gweddill yr ardal chwilio ar droed. Fe aethon nhw i nifer o adeiladau wrth ymyl yr eiddo lle daethpwyd o hyd i ffynhonnell yr ymyrraeth yn y diwedd. Yn benodol, pedwar o hen fath o fylbiau golau – a oedd wedi cael eu prynu ar-lein gan berchennog y tŷ yn ddiweddar – oedd yn achosi’r ymyrraeth.

Beth ydy’r sŵn ’na?

Oherwydd y ffordd roedd y bylbiau wedi cael eu creu, gwelwyd eu bod yn taflu ‘sŵn’ pan oedden nhw wedi’u goleuo, a oedd yn effeithio ar bob math o sbectra yn hytrach nag ar un amledd yn unig. Roedd y tŷ yn union o dan lwybr hedfan yr awyrennau, ac felly pan fyddai’r bylbiau’n cael eu defnyddio, bydden nhw’n achosi ymyrraeth i griwiau awyrennau bob tro y byddai awyren yn pasio.

Yn anffodus i’r perchennog – ond yn ffodus i griwiau a theithwyr awyrennau sy’n codi ac yn glanio ym maes awyr Glasgow – cafodd y bylbiau eu tynnu o’r soced. Ac yn ôl y Gwasanaethau Traffig Awyr Cenedlaethol a chwmnïau awyrennau, does dim ymyrraeth yn yr ardal erbyn hyn.

Bydd ein tîm gorfodi sbectrwm yn trafod yr achos gyda chyflenwyr y bylbiau golau, i wneud yn siŵr na fydd unrhyw gwsmeriaid eraill yn prynu’r bylbiau yn ddiarwybod.

Pam mae Ofcom yn rheoli defnydd sbectrwm?

Dim ond hyn a hyn o sbectrwm sydd ar gael, felly mae angen ei reoli’n ofalus. Mae bandiau penodol o sbectrwm yn cael eu defnyddio at ddibenion gwahanol. Er enghraifft, mae cwmnïau ffonau symudol yn defnyddio gwahanol rannau o’r sbectrwm i gwmnïau teledu. Felly mae angen ei reoli i sicrhau nad oes ymyrraeth ar wasanaethau ac nad oes amharu ar bobl ac ar fusnesau.

Yn ôl i'r brig