Fel rhan o fenter newydd gan Rwydwaith Rheoleiddwyr y DU (UKRN), mae rheoleiddwyr telathrebu, dŵr, ynni a bancio wedi ffurfio partneriaeth i gymharu sut mae cwsmeriaid yn graddio'r cwmnïau mwyaf sy'n darparu gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnynt bob dydd.
Mae'r cardiau sgorio yn cynnwys amrywiaeth o fetrigau i helpu pobl i gymharu perfformiad ar draws gwasanaethau a darparwyr. Mae'r rhain yn cynnwys gwybodaeth am foddhad cwsmeriaid, ansawdd gwasanaethau, gwerth am arian a chwynion. Yn gyffredinol, mae'r rhan fwyaf o gwsmeriaid telathrebu yn hapus gyda'u gwasanaeth, gyda boddhad yn y marchnadoedd symudol, llinell dir a band eang ar 93%, 86% ac 83% yn y drefn honno.
Mae'r cardiau sgorio perfformiad yn cynnwys ffigurau UKCSI y Sefydliad Gwasanaethau Cwsmeriaid sy'n cymharu lefelau boddhad cwsmeriaid rhwng y sectorau Telathrebu a'r Cyfryngau, Banciau a Chymdeithasau Adeiladu, Ynni a Dŵr. Yn gyffredinol, roedd Telegyfathrebiadau a Chyfryngau yn ail ymhlith y pedwar sector hyn ym mis Gorffennaf 2019, gyda Banciau a Chymdeithasau Adeiladu yn dod i'r brig.
Mae'r adroddiad isod ar gael yn Saesneg yn unig.
Moving forward together – performance scorecards 2021 (PDF, 1.5 MB)
Mae'r cynnwys isod ar gael yn Saesneg yn unig.
Moving forward together – performance scorecards 2020 (PDF, 2.8 MB)
Fel rhan o'r cydweithio â'r prosiect cardiau sgorio perfformiad, rydym yn falch o allu rhannu'r cardiau sgorio sydd hefyd yn cael eu hyrwyddo mewn meysydd eraill.
Cliciwch ar y logos isod i’ch tywys i dudalennau'r cardiau sgorio perfformiad ar wefannau UKRN, Ofgem, Ofwat, Cyngor Defnyddwyr yr Awdurdod Dŵr a’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol.