Wrth i ragor o deuluoedd fod ar-lein gyda’i gilydd yn y cartref yn defnyddio'r un cysylltiad, gallwch reoli'ch defnydd o ddata a helpu pawb i gael y lled band sydd ei angen arnynt -ar gyfer ffyrdio fideo, cyfarfodydd rhithwir neu alwadau llais.
Cliciwch neu bwyswch i neidio i:
1. Defnyddiwch eich llinell sefydlog neu wi-fi os gallwch chi
Bydd mwy o bobl yn gwneud galwadau ar eich ffôn symudol yn ystod y dydd. Oherwydd y galw mawr, efallai y cewch chi gysylltiad mwy dibynadwy yn defnyddio eich llinell sefydlog. Os oes angen i chi ddefnyddio’ch ffôn symudol, defnyddiwch osodiadau i alluogi ‘ffonio drwy wi-fi’. Mae rhai pecynnau ffonau clyfar a ffonau symudol yn eich galluogi i wneud galwadau dros eich rhwydwaith band eang, sydd yn aml yn darparu’r ansawdd sŵn gorau ac yn helpu i leihau’r galw ar y rhwydwaith ffonau symudol. Gallwch chi wneud galwadau llais dros y rhyngrwyd drwy ddefnyddio apiau fel Facetime, Skype neu WhatsApp.
2. Profwch y cyflymder ar eich llinell band eang
Profwch pa gyflymder rydych chi’n ei gael mewn gwirionedd. Gallwch chi redeg prawf cyflymder gan ddefnyddio gwefan cymharu prisiau a achredir gan Ofcom fel Broadband.co.uk a Broadbandcompared.co.uk. Os yw’n bosib, cynhaliwch y profion dros ychydig ddyddiau ac ar wahanol adegau o’r dydd. Gall nifer o ffactorau yn y cartref effeithio ar gyflymderau wifi, felly mynnwch gip ar wefan eich darparwr ynghylch gwella eich signal o gwmpas y cartref.
3. Symudwch eich llwybrydd fel nad yw ar bwys dyfeisiau eraill
Cadwch eich llwybrydd yn ddigon pell oddi wrth ddyfeisiau electronig eraill, a'r rheini sy'n gweithio'n ddi-wifr. Mae lampau halogen, switshis pylu, seinyddion stereo neu gyfrifiadur, rhai mathau o fonitorau babanod, setiau teledu a monitorau cyfrifiaduron i gyd yn gallu effeithio ar eich wi-fi os ydyn nhw’n rhy agos at eich llwybrydd. Oeddech chi’n gwybod bod poptai Microdon yn gallu lleihau signalau wi-fi hefyd, felly peidiwch â defnyddio’r Microdon os ydych chi’n gwneud galwadau fideo, yn gwylio fideos HD neu’n gwneud rhywbeth pwysig ar-lein. Hefyd, ceisiwch roi eich llwybrydd ar fwrdd neu ar silff yn hytrach nag ar y llawr, a pheidiwch â’i ddiffodd.
4. Lleihau’r galw ar eich cysylltiad
Po fwyaf o ddyfeisiau sydd ynghlwm wrth eich wi-fi, yr arafaf fydd y cyflymder a gewch chi. Mae dyfeisiau fel tabledi a ffonau clyfar yn aml yn gweithio yn y cefndir, felly diffoddwch dderbyniad wi-fi y rhain pan nad ydych chi’n eu defnyddio. Os ydych chi’n cynnal galwadau fideo neu gyfarfodydd, bydd diffodd y fideo a defnyddio sain yn rhoi llawer llai o bwysau ar eich cysylltiad â’r rhyngrwyd. Neu rhowch gynnig ar eu defnyddio yn ystod amseroedd llai poblogaidd, yn hytrach na bob awr neu bob hanner awr. Gallwch chi hefyd reoli gweithgarwch ar-lein eich teulu, fel nad yw gwahanol bobl yn gwneud gormod o bethau (fel ffrydio HD, chwarae gemau neu alwadau fideo) ar yr un pryd. Mae llwytho fideo i lawr o flaen llaw, yn hytrach na’i ffrydio, yn gallu helpu hefyd.
5. Rhowch gynnig ar gysylltiad gyda chebl yn hytrach na di-wifr
I gael y cyflymder band eang gorau, defnyddiwch gebl Ethernet i gysylltu eich cyfrifiadur â’ch llwybrydd yn syth yn lle defnyddio wi-fi. Cebl cyfrifiadurol yw hon a ddylai roi cysylltiad cyflymach a mwy dibynadwy i chi. Mae nhw ar gael am oddeutu £3.
6. Plygiwch eich llwybrydd yn syth i’ch prif soced ffôn
Ceisiwch beidio â defnyddio ceblau estyniad ffôn, oherwydd mae’r rhain yn gallu achosi ymyriant a allai arafu eich cyflymderau. Os oes angen i chi ddefnyddio cebl estyniad, defnyddiwch gebl newydd o ansawdd uchel sydd cyn fyrred â phosib. Mae ceblau sydd mewn coil neu mewn clymau hefyd yn gallu effeithio ar gyflymder. Gallai ymyriant ar eich llinell ffôn arafu eich band eang hefyd. Felly, ceisiwch blygio ‘microhidlyddion’ ym mhob soced ffôn yn eich cartref. Blychau bach gwyn yw'r rhain ac maen nhw’n hollti’r signalau ffôn a band eang fel nad ydyn nhw’n effeithio ar ei gilydd. Mae gan wahanol gwmnïau telathrebu wahanol systemau yn y cartref, felly cofiwch wirio eu gwefannau cyn datgysylltu unrhyw geblau.
7. Cysylltwch â’ch darparwr
Os ydych chi’n meddwl fod problem gyda'ch cysylltiad, gallwch ddod o hyd i gyngor ar wefan eich darparwr band eang. Gallwch chi hefyd gael gafael arno ar eich ffôn symudol.
Am ragor o wybodaeth, darllenwch ein canllawiau ynghylch sut i gael y gorau o'ch gwasanaethau band eang a symudol yn y cartref.