Mae disgwyl y bydd angen i lawer mwy o bobl weithio o gartref, neu o bell, yn y misoedd i ddod oherwydd yr achosion o coronafeirws (COVID-19).
Os ydych chi'n un ohonynt, nawr yw’r amser i sicrhau bod eich gwasanaeth band eang a'ch ffôn symudol yn gweithio mor effeithiol â phosibl.
Mae gennym ganllawiau sy'n cynnwys camau syml, ymarferol y gallwch eu cymryd eich hun, i sicrhau bod eich gwasanaeth band eang a'ch ffôn symudol yn gweithio'n dda gartref.
Rydyn ni hefyd yn cadw mewn cysylltiad â darparwyr band eang ynghylch y camau maent yn eu cymryd i fynd i'r afael â galw cynyddol.
Mae Prif Swyddog Technoleg Grŵp BT wedi creu fideo byr i siarad am wytnwch y rhwydwaith os oes angen i lawer mwy o bobl weithio o bell. Mae’r Gymdeithas Darparwyr Gwasanaethau Rhyngrwyd (ISPA), yn dweud bod darparwyr band eang “yn barod i ymdrin ag unrhyw led band ychwanegol posibl ac yn asesu'n gyson y gofynion ar eu rhwydweithiau.“
Mae’r ISPA hefyd wedi cynghori cwmnïau i sicrhau bod eu systemau a’u gweinyddion TG yn barod i gefnogi cynnydd sylweddol posibl mewn cysylltiadau o bell gan eu gweithwyr.