Mae Ofcom yn falch o gefnogi Diwrnod Rhyngrwyd Mwy Diogel 2023, menter fyd-eang sydd â'r nod o gynyddu ymwybyddiaeth o faterion sy'n dod i'r amlwg a'r pryderon cyfredol ynghylch y byd ar-lein.
Y thema eleni yw 'Want to talk about it?', a fydd yn annog pobl i gael sgyrsiau am eu bywydau ar-lein.
Rydym yn falch o gefnogi'r Diwrnod Rhyngrwyd Mwy Diogel, yn enwedig wrth i ni baratoi ar gyfer ein rôl fel y rheoleiddiwr diogelwch ar-lein, gan helpu pawb i fyw bywyd mwy diogel ar-lein.
Rydym eisoes yn gwneud ein gwaith ein hunain yn y maes hwn. Yn ddiweddar, bu i ni gomisiynu nifer o sefydliadau ar draws y DU i helpu i wella sgiliau ymwybyddiaeth o'r cyfryngau ar-lein ymhlith y grwpiau a chymunedau sydd fwyaf mewn perygl o brofi niwed ar-lein.
Ac rydym wedi cynnal ymchwil i faterion diogelwch ar-lein yn y gorffennol – fel ein hymchwil ddiweddar a ddangosodd fod gan draean o blant 'oedran cyfryngau cymdeithasol' ffug o 18+ oed.
Meddai'r Fonesig Melanie Dawes, Prif Weithredwr Ofcom: “Wrth i ni baratoi at y dasg o reoleiddio diogelwch ar-lein, rydym yn falch o gefnogi'r Diwrnod Rhyngrwyd Mwy Diogel.
“Mae cael sgyrsiau gonest ac agored am fywyd ar-lein yn ffordd bwysig o gefnogi pobl ifanc wrth iddynt ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen i lywio'r byd ar-lein yn ddiogel ar yr un pryd â mwynhau ei holl fanteision."