Close up of a girl on a bed using a mobile phone

Mae Ofcom yn cefnogi sefydliadau sy’n hybu sgiliau llythrennedd ar-lein mewn cymunedau lleol

Cyhoeddwyd: 13 Ionawr 2023
Diweddarwyd diwethaf: 4 Mawrth 2024

Mae Ofcom yn comisiynu nifer o sefydliadau ledled y DU i helpu i wella sgiliau ym maes ymwybyddiaeth o’r cyfryngau ar-lein, a hynny ymysg grwpiau a chymunedau sydd fwyaf mewn perygl o niwed ar-lein.

Ymwybyddiaeth o’r Cyfryngau ar-lein yw cael y sgiliau, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth i gymryd rhan yn y byd ar-lein yn ddiogel. Mae’n grymuso pobl  i wneud penderfyniadau digidol gwybodus ac, yn bwysig iawn, i ganfod a diogelu ein hunain ac eraill rhag cynnwys niweidiol.

Mae gan Ofcom ddyletswydd ffurfiol i hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r cyfryngau, sy’n hanfodol i helpu i greu bywyd mwy diogel ar-lein.

Helpu grwpiau sydd angen help fwyaf

Mae ein hymchwil wedi dangos yn gyson nad oes gan bawb y sgiliau sydd arnynt eu hangen i lywio drwy’r byd ar-lein yn effeithiol ac yn ddiogel. Felly, bydd pob un o’r sefydliadau rydym yn eu comisiynu yn treialu dull arloesol o wella gwybodaeth a dealltwriaeth ymarferol ar-lein pobl leol sydd angen y cymorth mwyaf.

Bydd y grwpiau hyn yn cynnwys y canlynol:

  • pobl hŷn a rheini sydd mewn perygl o gael eu heithrio’n ddigidol;
  • phobl anabl;
  • plant 10-14 oed; a
  • chymunedau sy’n wynebu anfantais ariannol.

Bydd y gwaith yn cael ei gynnal yn Lloegr, Yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon. Dyma fanylion y sefydliadau, eu mentrau arfaethedig a’r grwpiau y byddant yn gweithio gyda nhw.

Fe hoffem ni glywed gennych

Fel rhan o’n nod o hyrwyddo gallu pobl i gymryd rhan yn effeithiol a chadw’n ddiogel ar-lein, rydym yn awyddus i ddysgu am arferion, prosiectau a mentrau arloesol sy’n cael eu treialu gan amrywiaeth o sefydliadau ledled y DU i uno ymwybyddiaeth o’r cyfryngau â chymorth iechyd meddwl.

Os ydych chi’n glinigydd, yn gwnselydd, yn elusen neu’n gomisiynydd sy’n gweithio i integreiddio cymorth iechyd meddwl ac ymwybyddiaeth o’r cyfryngau, hoffem glywed gennych chi. Cysylltwch â Jessie Cunnett i gael rhagor o wybodaeth.

Yn ôl i'r brig