Teenage boys looking at phone while gaming (Murtaza Shikh)

‘Diogelwch ar-lein yw diogelwch pawb' - cwrdd â Dr. Murtaza Shaikh, arweinydd polisi Ofcom ar niwed anghyfreithlon

Cyhoeddwyd: 12 Hydref 2022
Diweddarwyd diwethaf: 16 Mawrth 2023
Murtaza Shaikh

Mae arweinydd polisi Ofcom ar gyfer niwed anghyfreithlon, casineb a therfysgaeth yn sôn am ei rôl wrth daclo niwed ar-lein a gwaith diweddar fu'n ymchwilio i sut y gwnaeth llwyfannau ymateb i'r ymosodiad yn Buffalo, Efrog Newydd a ffrydiwyd yn fyw ym mis Mai 2022.

Gyda'r Mesur Diogelwch Ar-lein ar y gorwel, mae Ofcom yn paratoi i helpu creu bywyd mwy diogel ar-lein i bawb. Fe wnaethom siarad â Murtaza Shaikh, sy'n arwain ein hymagwedd at reoleiddio sawl niwed anghyfreithlon, ynglŷn â pham ei fod yn angerddol dros amddiffyn pobl rhag cynnwys niweidiol ar-lein.

“Yr hyn sy'n rhoi cymhelliant i mi yw fy mod eisiau i beth bynnag rwy'n ei wneud gael effaith ar gymdeithas," meddai. “Credaf, os gallwch chi nodi ac ymdrin â lleferydd casineb neu gasineb yn erbyn grwpiau eraill sy'n wahanol, rydych mewn sefyllfa dda iawn i atal pethau llawer gwaeth rhag digwydd.”

Ac yntau wedi ennill gradd meistr mewn cyfraith hawliau dynol ryngwladol, dywedodd Murtaza fod ganddo'r opsiwn o fynd ymlaen at gyfraith droseddol ryngwladol ond dewisodd yn hytrach i ganolbwyntio ar hawliau lleiafrifol. Aeth ymlaen i weithio mewn llysoedd rhyngwladol, melinau trafod ac i Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig ar faterion lleiafrifol cyn ymuno â thîm polisi diogelwch ar-lein Ofcom yn 2021.

“Mewn gwirionedd mae gennyf fwy o ddiddordeb mewn atal casineb, a'r gofod ar-lein yw ble mae'n digwydd. Os allwn ni gyfyngu ar neu ddelio â chasineb yn y byd ar-lein yna fe allwn ni gael effaith ar y byd go iawn.”

Adroddiad yn dilyn ymosodiad terfysgol Buffalo

Yn ddiweddar arweiniodd Murtaza ar adroddiad Ofcom fu'n edrych ar sut y gwnaeth llwyfannau ar-lein ymateb i'r ymosodiad yn Buffalo, Efrog Newydd ar 14 Mai 2022. Fel rheoleiddiwr llwyfannau rhannu fideos (VSPs), gwnaethom geisio darganfod beth y gall cwmnïau technoleg ei ddysgu o'r digwyddiad trasig yma.

Nododd tîm Murtaza, sy'n cynnwys Laura Nettleton, Ciaran Cartmell, Danny Morris a Meerah Nakaayi, nifer o wersi y gall llwyfannau eu dysgu i ddiogelu defnyddwyr yn well rhag cynnwys terfysgol a chasineb – a helpu i atal y fath gynnwys rhag lledaenu ar draws nifer o lwyfannau ar-lein.

“Mae lle i lwyfannau wneud mwy o ymdrech ar y cyd i sicrhau bod eu gwasanaethau'n ddigon cadarn yn erbyn cael eu hecsbloetio gan derfysgwyr, yn enwedig drwy ymwreiddio ystyriaethau diogelwch defnyddwyr yn gynnar yn eu prosesau o ddylunio a pheiriannu'r cynnyrch," meddai.

Mae Murtaza a'i dîm yn gwneud gwaith pwysig arall, gan gynnwys adeiladu ymagwedd Ofcom at reoleiddio niwed anghyfreithlon, casineb a therfysgaeth ar VSPs a pharatoi ar gyfer rheoleiddio Diogelwch Ar-lein. Bydd y mewnwelediadau o adolygiad Ofcom i'r digwyddiad yn Buffalo yn cael eu datblygu wrth i ni baratoi i ymgymryd â'r dyletswyddau newydd hyn - gan gynnwys datblygu Codau Ymarfer yn ymwneud â chynnwys anghyfreithlon a chanllawiau asesu risg cysylltiedig.

Heriau wrth daclo casineb ar-lein

Mae sawl her ynghlwm wrth daclo niwed mewn tirwedd ar-lein sy'n newid. Yn ôl Murtaza, un o'r rhain yw bod casineb yn rhychwantu sbectrwm eang o ddifrifoldeb ac yn gallu deillio o gynifer o wahanol ffynonellau.

“Yr her arall, o ran diffinio a nodi casineb, yw ei fod yn amodol ar y cyd-destun i raddau helaeth ac na all systemau AI ei nodi bob amser. Mae yna hefyd nifer o niweidiau ar-lein sy'n digwydd ar raddfa fawr fel twyllwybodaeth a chasineb, tra bod cynnwys terfysgol ar-lein yn gynhenid ddifrifol, ond heb gael ei gyflwyno ar yr un raddfa ar fforymau cyhoeddus. Felly mae hynny'n ei gwneud yn heriol iawn.”

Sut mae ymateb i hynny felly?

“Rydyn ni'n recriwtio arbenigwyr ar draws gwahanol feysydd yr ydym am gadw golwg arnynt, felly mae gennym dîm o bobl sydd â chefndir yn y math yma o bynciau. Er enghraifft, ymunodd Laura a Danny â ni gyda chefndir mewn gwrthderfysgaeth. Dangosodd adroddiad Buffalo hefyd sut rydym yn gweithio gyda rhwydweithiau o arbenigwyr yn y DU ac yn fyd-eang.

“Ein blaenoriaeth yw parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid sy'n cynrychioli rhai o'r cymunedau y mae niwed ar-lein wedi effeithio fwyaf arnynt, a gweithio gyda llwyfannau i wella eu polisïau a'u systemau diogelu pobl ar-lein.

“Yn y pen draw, allwn ni ddim colli golwg ar y ffaith mai diben diogelwch ar-lein yw cadw plant yn fwy diogel, a diogelu pobl rhag pob math o niwed - gan gynnwys bygythiadau i fywydau pobl a therfysgaeth. Diogelwch ar-lein yw diogelwch pawb.”

Yn ôl i'r brig