Mae diogelu plant yn ganolog i ddyletswyddau Ofcom o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein. Er mwyn bod yn rheoleiddiwr effeithiol, mae angen dealltwriaeth gynhwysfawr arnom o brofiadau plant ar-lein, a sylfaen dystiolaeth ar eu cyfer.
Mae ein rhaglen ymchwil ymysg plant yn ceisio gwneud hyn drwy raglen ymchwil sefydledig ar ymwybyddiaeth o'r cyfryngau, ein Traciwr Profiadau Ar-lein (13+) a’n cyfres sy'n datblygu o ymchwil ansoddol. Ochr yn ochr â’r ymchwil bresennol hon, rydym yn parhau i arloesi a dod o hyd i ffyrdd newydd o ddeall bywydau plant ar-lein.
Yn ystod haf 2023, fe wnaethom gyhoeddi dau adroddiad ar gynlluniau peilot ymchwil gan ddefnyddio rhithffurf a dulliau arolygu mewn ysgolion. Yn ogystal, fe wnaethom gomisiynu Astudiaeth Mesur Goddefol ymysg Plant i brofi a all methodoleg oddefol, yn y dyfodol, ddarparu metrigau cadarn o ddefnydd plant ar-lein.
Rydym eisiau adeiladu ar yr astudiaethau hyn a datblygu ymhellach ein gwybodaeth am ddulliau ymchwil defnyddiol i ddeall beth mae plant yn ei wneud ar-lein a’u profiad o unrhyw gynnwys niweidiol ar-lein.
Yn ystod hydref 2023, fe wnaethom drefnu cyfarfodydd o gwmpas y bwrdd yn ein swyddfeydd yn Llundain a Chaeredin i drafod manteision ac anfanteision gwahanol ddulliau ymchwil, gan ddod ag arbenigwyr o bob rhan o’r byd academaidd, elusennau, y llywodraeth a rheoleiddwyr eraill at ei gilydd.
Pum neges o’n trafodaethau:
- Rydym yn gwybod bod rhai plant yn llawer anoddach eu hymchwilio nag eraill, ond nid yw hyn yn golygu ei bod yn amhosibl deall amrywiaeth eang o brofiadau plant. Mae ysgolion yn lle da i gynnal ymchwil gyda’r rhan fwyaf o blant, yn enwedig am eu bod yn darparu seilwaith diogelu cryf. Fodd bynnag, nid ydynt bob amser yn amgylchedd lle mae pob plentyn yn teimlo’n arbennig o gyfforddus. Mae grwpiau ieuenctid a chlybiau chwaraeon yn cynnig lleoliad amgen y tu allan i fyd addysg lle mae plant yn debygol o deimlo’n fwy hamddenol a gallu cymryd rhan mewn ymchwil. Rhannodd y rhai a oedd yn bresennol eu profiad o gynnal ymchwil mewn ysgolion nad ydynt yn rhai prif ffrwd - er enghraifft, unedau cyfeirio disgyblion a'r llywodraethu ychwanegol sydd ei angen i'w sefydlu.
- Gall dulliau cyd-greu lle mae plant yn rhan annatod o ddatblygiad y prosiect ymchwil a deunyddiau fod yn werthfawr iawn. Maent yn caniatáu i blant fod yn rhan o’r broses ymchwil fel bod ymchwil yn cael ei wneud gyda nhw yn hytrach na bod yn rhywbeth sy’n digwydd iddynt. Fodd bynnag, gall hyn gymryd llawer o amser ac weithiau gall arwain at ddryswch ynghylch nodau a phwy sy’n gyfrifol amdanynt, ac felly mae angen meddwl amdanynt yn ofalus iawn. Mae dulliau mosaig yn cynnwys gweithio mewn ffyrdd aml-ddull gyda phlant, gan ganolbwyntio ar eu profiad bywyd. Gallai hyn gynnwys gweithgareddau dan arweiniad plant gan gynnwys ffotograffiaeth, rhoi teithiau o gwmpas ardal a gwneud mapiau, ochr yn ochr â chyfweliadau mwy traddodiadol. Mae hyn yn ffordd o wneud ymchwil yn briodol i oedran ac ar lefel y gall plant ymgysylltu â hi, ond fel cyd-greu mae angen amser a chyllideb ychwanegol i wneud hyn.
- Mae’n bwysig rhoi cyfle i blant newid eu meddyliau am eu barn yn ystod gwaith maes, a’u galluogi i addasu eu hymatebion blaenorol. Gall plant, hyd yn oed yn fwy nag oedolion, gymryd amser i ddod yn gyfforddus mewn cyfweliad, ac felly gallwn ddisgwyl na fyddant yn fodlon bod yn agored nes bydd y cyfweliad bron wedi dod i ben. Mae hyn hefyd yn golygu bod ymchwil ethnograffig hirsefydlog, sy'n gadael i blant ddod yn gyfforddus dros amser, yn gallu bod yn arbennig o fuddiol. Mae plant hefyd yn tueddu i fod yn fwy cyfforddus yn siarad â phlant eraill nag oedolion, a soniodd y cyfranogwyr wrthym am ddull ymchwil lle mae plant yn cynnal yr ymchwil eu hunain ac yn cael eu hyfforddi i ofyn cwestiynau i blant eraill.
- Mae cyfrannu data yn ddull arloesol i ymchwilwyr gael mynediad at ddata am ymddygiad ar-lein unigolyn gyda chydsyniad gwybodus. Mae gan y data hwn y potensial i roi darlun manwl i ymchwilwyr o weithgarwch ar-lein unigolyn. Mae GDPR wedi sefydlu’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer y math hwn o ymchwil, ond ar hyn o bryd nid oes enghreifftiau ohono’n gweithio ar raddfa fawr. Mae cynnal ymchwil gyda data a gyfrannwyd o lwyfannau ar-lein yn cynnwys heriau gweinyddol a logistaidd gan nad oes dull unffurf ar draws llwyfannau o ran sut mae defnyddwyr yn gofyn am eu data ac yn ei dderbyn, ac mae gwahanol lwyfannau yn cynnig gwahanol fathau a lefelau o wybodaeth o fewn y broses llwytho data i lawr.
- Gellir defnyddio ymchwil rhithffurf ar gyfer amrywiaeth o gwestiynau ymchwil, fel profi sut mae algorithmau platfform yn gweithio. Mae'r math hwn o ymchwil yn cynnwys sefydlu a rhedeg cyfrifon ffuglennol gyda'r nod o ddeall y cynnwys sy'n cael ei weini i blant ar-lein. Trafododd y cyfranogwyr yr her logistaidd o ran pa mor agos y gall rhithffurf ddynwared ymddygiad plentyn, a sut mae pwysigrwydd y cywirdeb yn amrywio yn ôl nod yr ymchwil, h.y. a yw'r rhithffurf yn ceisio deall beth gallai plentyn ei weld ar-lein, ynteu’n cynnal prawf AB o newidyn penodol.
Beth fyddwn ni’n ei wneud nesaf
Yn barod, rydym yn cynnwys y pum neges hyn (a mwy) yn y trafodaethau o gwmpas y bwrdd yn ein gwaith, gan gynnwys cynllunio ar gyfer ffyrdd ychwanegol o ymchwilio ymysg plant. Rydym yn parhau i gynnal trafodaethau a ddechreuodd yn y digwyddiadau - rydym yn awyddus i glywed gan ymchwilwyr am y gwaith hwn, ac ar hyn o bryd rydym yn datblygu trafodaethau o gwmpas y bwrdd ar bynciau eraill.