Dyma Almudena Lara, Cyfarwyddwr Polisi Diogelwch Ar-lein Ofcom, yn edrych ar sut y bydd rhai o’r mesurau a nodir yn y Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn helpu cadw plant yn fwy diogel pan fyddant ar-lein.
Ofcom bellach yw’r rheoleiddiwr diogelwch ar-lein, ar ôl i’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein ddod yn gyfraith.
Sicrhau y gall plant y DU fyw bywyd mwy diogel ar-lein yw’r prif symbylydd y tu ôl i gyfreithiau newydd y DU, ac felly wrth gwrs, dyma ein prif ffocws ni hefyd.
Mae bod ar-lein bellach yn rhan o fywyd bob dydd y mwyafrif helaeth o blant. Mae ein data ein hunain yn dangos bod bron pob plentyn (99%) bellach yn treulio amser ar-lein, a bod gan naw o bob 10 o blant ffôn symudol erbyn iddynt gyrraedd 11 oed. Mae hefyd yn amlwg bod ffin aneglur rhwng bywydau plant ar-lein ac yn y 'byd go iawn’.
Mae ein hymchwil yn dangos hefyd bod gan dri chwarter o ddefnyddwyr cyfryngau cymdeithasol rhwng wyth ac 17 oed eu cyfrif neu eu proffil eu hunain ar o leiaf un o'r llwyfannau mawr. Ac er bod gan y rhan fwyaf o lwyfannau isafswm oedran o 13, mae chwech o bob 10 o blant 8 i 12 oed sy'n eu defnyddio wedi cofrestru gyda'u proffil eu hunain.
Fodd bynnag, mae bron i dri chwarter o'r rhai yn eu harddegau rhwng 13 a 17 oed wedi wynebu un neu fwy o niweidiau posibl ar-lein, a chysylltwyd â thri o bob pump o blant oedran ysgol uwchradd ar-lein mewn ffordd a allai wneud iddynt deimlo’n anesmwyth.
Mae'n amlwg bod angen i ni weithio'n galed i fynd i'r afael â'r risgiau hyn ac amddiffyn plant pan fyddant ar-lein.
Ymunais ag Ofcom y llynedd fel Cyfarwyddwr Polisi Diogelwch Ar-lein, a diogelwch plant yw fy mhrif ffocws – gan alw ar fy mhrofiad o rolau yn yr Adran Addysg, Google a'r NSPCC. Rwy'n falch o fod yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr arbenigol o'r bydoedd technoleg, academaidd a'r trydydd sector, gan ddod â chyfoeth o wybodaeth a phrofiad i'n cenhadaeth a rennir.
Sut fydd y Ddeddf yn helpu
O dan y Ddeddf, mae'n ofynnol i wasanaethau ar-lein - megis apiau cyfryngau cymdeithasol, llwyfannau negeseua gwib a gwefannau chwarae gemau, yn ogystal â pheiriannau chwilio a gwefannau pornograffi ar-lein - gymryd camau i amddiffyn plant ar-lein yn well mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd.
Yn gyntaf oll, bydd angen i gwmnïau technoleg sefydlu a yw plant yn debygol o gyrchu eu gwasanaeth, neu ran o'u gwasanaeth. Os felly, rhaid iddynt asesu’r risgiau o niwed i blant a chymryd camau cymesur i reoli a lliniaru’r risgiau hynny.
Ar gyfer gwasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr, er enghraifft, mae hyn yn cynnwys cymryd camau penodol i atal plant rhag dod ar draws cynnwys pornograffig, a chynnwys sy'n annog, yn hyrwyddo neu'n darparu cyfarwyddiadau ar gyfer hunanladdiad, hunan-niweidio ac anhwylderau bwyta. Bydd yn ofynnol i rai gwasanaethau ddefnyddio gwiriadau oedran hynod effeithiol i gyfyngu ar fynediad i'r math hwnnw o gynnwys. Bydd angen hefyd i gwmnïau technoleg amddiffyn plant rhag mathau eraill o niwed, gan gynnwys bwlio a chynnwys treisgar a mathau o leferydd casineb cyfreithiol.
Rhaid hefyd i gwmnïau ddefnyddio ystod o fesurau i daclo cynnwys anghyfreithlon ar-lein - gan gynnwys deunydd cam-drin plant yn rhywiol a meithrin perthynas amhriodol. Ein blaenoriaeth gyntaf fel rheoleiddiwr diogelwch ar-lein oedd rhyddhau ein Codau Ymarfer Niwed Anghyfreithlon drafft ar gyfer ymgynghoriad, gan nodi’r mesurau diogelwch ymarferol ac wedi’u targedu y gall gwasanaethau eu cymryd.
Mae'r Ddeddf hefyd yn gosod gofynion penodol ar wefannau ac apiau sy’n arddangos neu’n cyhoeddi cynnwys pornograffig i sicrhau na all plant ddod ar draws pornograffi ar eu gwasanaeth fel mater o drefn. Rhaid iddynt wneud hyn drwy ddefnyddio gwiriadau oedran hynod effeithiol, ac ni wnaethom wastraffu unrhyw amser yn cyhoeddi arweiniad drafft i helpu gwasanaethau i gydymffurfio.
Ein man cychwyn yw gweithio gyda'r diwydiant i helpu cwmnïau i ddeall eu dyletswyddau newydd i gadw defnyddwyr, yn enwedig plant, yn ddiogel. Yn hollbwysig, os na fydd gwasanaethau ar-lein yn cydymffurfio, bydd gennym bwerau i gymryd camau gorfodi yn eu herbyn. Mae hyn yn cynnwys gosod dirwyon hyd at £18m neu 10% o’u refeniw byd-eang (p'un bynnag sydd fwyaf) arnynt.
Cynghorion i helpu cadw plant yn ddiogel ar-lein
Er y byddwn yn dal cwmnïau technoleg i gyfrif wrth sicrhau bod eu gwasanaethau'n fwy diogel i blant, mae yna hefyd bethau y gall rhieni a gofalwyr eu gwneud i helpu cefnogi diogelwch ar-lein eu plant.