Person typing on keyboard

Mynd i’r afael â cham-drin plant yn rhywiol o dan y drefn diogelwch ar-lein

Cyhoeddwyd: 8 Chwefror 2024
Diweddarwyd diwethaf: 8 Chwefror 2024

Mae camfanteisio a cham-drin plant yn rhywiol ar-lein yn fygythiad parhaus a chynyddol gyda chanlyniadau dinistriol i'r rhai yr effeithir arnynt. Mae camfanteisio a cham-drin plant yn rhywiol (CSEA) yn cwmpasu amrywiaeth o wahanol ymddygiadau, gan gynnwys rhannu deunydd cam-drin plant yn rhywiol (CSAM), meithrin perthynas amhriodol â phlant ar-lein - a all gynnwys gorfodi plentyn i anfon delweddau rhywiol ohonynt eu hunain, gorfodaeth rywiol, a threfnu cam-drin plentyn yn rhywiol.

Yn 2022, derbyniodd Canolfan Genedlaethol yr Unol Daleithiau ar gyfer Plant Ar Goll a Phlant y Camfanteisir Arnynt (NCMEC) dros 32 miliwn o adroddiadau am achosion posibl o gamfanteisio ar blant ar-lein, gyda thros 99.5% o'r rhain yn ymwneud ag amheuon o ddeunydd cam-drin plant yn rhywiol (CSAM) sy'n cael ei uwchlwytho a'i rannu ar-lein, ar draws dros 200 o wefannau a darparwyr ar-lein. Nododd yr NSPCC, rhwng 2017 a 2023, fod heddluoedd y DU wedi cofnodi dros 34,000 ar-lein o droseddau meithrin perthynas amhriodol yn erbyn plant, ar draws 150 o wahanol lwyfannau. Mae'r risg yn arbennig o uchel lle gall troseddwyr gamddefnyddio nodweddion ar-lein fel anhysbysrwydd neu greu hunaniaeth ffug (fel dweud celwydd am eu hoedran neu ryw) i ddylanwadu ar blentyn. Mae risgiau newydd yn dod i'r amlwg wrth i'r ffordd yr ydym yn rhyngweithio ar-lein barhau i esblygu, gan gynnwys trwy realiti estynedig, amgryptio o'r dechrau i'r diwedd ac AI cynhyrchiol.

Ein gwaith i fynd i'r afael â risg CSEA i blant

Er mwyn mynd i'r afael â'r bygythiad hwn, mae'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein wedi gosod dyletswyddau diogelwch fel bod yn rhaid i wasanaethau ar-lein, ymhlith pethau eraill, gynnal asesiadau risg i ddeall y tebygolrwydd y bydd camfanteisio a cham-drin plant yn rhywiol (CSEA) yn ymddangos ar eu gwasanaeth a’r effaith y bydd yn ei chael. Rhaid iddynt gymryd camau hefyd i liniaru'r risgiau a nodir yn eu hasesiadau risg ac adnabod a dileu cynnwys anghyfreithlon lle mae'n ymddangos. Po fwyaf yw’r risg ar wasanaeth, y mwyaf o fesurau a mesurau diogelu y bydd angen iddynt eu cymryd i gadw eu defnyddwyr yn ddiogel rhag niwed, ac atal eu gwasanaethau rhag cael eu defnyddio fel llwyfan i gamfanteisio ar blant a meithrin perthynas amhriodol â nhw.

Yn ein Hymgynghoriad Niwed Anghyfreithlon a gyhoeddwyd yn ddiweddar fe wnaethom awgrymu codau ymarfer y gall gwasanaethau eu mabwysiadu, a fydd, yn ein barn ni, yn gwneud gwahaniaeth pwrpasol i amddiffyn plant rhag CSEA.

  • Technoleg hash-baru, sy'n canfod delweddau CSAM hysbys yn awtomatig a rennir gan ddefnyddwyr yn eu cynnwys cyhoeddus. (Ar gyfer y codau ymarfer, ni fyddai hyn yn berthnasol i gynnwys preifat neu gynnwys wedi'i amgryptio o'r dechrau i'r diwedd.)
  • Technoleg canfod URL, sy'n sganio postiadau cyhoeddus i ddileu URLs anghyfreithlon sy'n arwain at ddeunydd yn dangos cam-drin plant.
  • Atal URL CSAM rhag ymddangos mewn canlyniadau peiriannau chwilio a chymhwyso negeseuon rhybudd ar wasanaethau chwilio pan fydd defnyddwyr yn chwilio am gynnwys sy'n ymwneud yn benodol â CSAM.
  • Mesurau i fynd i’r afael â meithrin perthynas amhriodol â phlant ar-lein, gan gynnwys gosodiadau diofyn mwy diogel sy’n ei gwneud yn anoddach i ddieithriaid ddod o hyd i blant ar-lein a rhyngweithio â nhw.
  • Ysgogiadau a negeseuon cefnogol i ddefnyddwyr sy'n blant yn ystod eu taith ar-lein, i'w grymuso i wneud dewisiadau diogel ar-lein, megis pan fyddant yn diffodd gosodiadau diofyn neu'n derbyn neges gan ddefnyddiwr am y tro cyntaf.

Mae croeso i bawb ymateb i’r ymgynghoriad ar ein cynigion, gan gynnwys tystiolaeth ategol ychwanegol ar gyfer mesurau presennol neu fesurau posibl yn y dyfodol. Rydym yn gwerthfawrogi adborth gan unrhyw un y mae’r rheoleiddio'n effeithio arnynt, gan gynnwys dysgu o wybodaeth a phrofiad gweithwyr proffesiynol, pobl sydd â phrofiad o’r niwed, a gwasanaethau ar-lein sy’n gweithio ar y materion cymhleth yn y sector hwn. Rydym yn gweithio i ymgysylltu â phlant ar y mesurau arfaethedig ac yn cefnogi rhanddeiliaid perthnasol i ddeall ac ymateb i’r ymgynghoriad.

Credwn y dylai gwasanaethau fod yn gwneud eu gorau i amddiffyn defnyddwyr, ac yn benodol plant, rhag y mathau mwyaf difrifol o niwed ar-lein. Mae’r mesurau arfaethedig hyn yn gam cyntaf tuag at sefydlu lefel waelodlin o amddiffyniad, ond nid ydym am i wasanaethau deimlo na allant fynd y tu hwnt i hyn, a gwyddom fod rhai gwasanaethau eisoes yn gwneud hynny. Fodd bynnag, i rai gwasanaethau efallai mai dyma fydd eu tro cyntaf i weithredu mesurau lleihau niwed. Gobeithiwn fod hyn yn cyflwyno set o gamau cyntaf y gall gwasanaethau eu cymryd wrth amddiffyn plant rhag CSEA, gan gyfateb i gynigion ehangach ar gyfer sut i ymdrin â chynnwys anghyfreithlon ar-lein.

Rydym bob amser yn ceisio datblygu ein hymchwil a’n sylfaen dystiolaeth i gryfhau ac ychwanegu at ein mesurau presennol, a bwriadwn ddiweddaru ein codau dros amser i gryfhau’r amddiffyniadau yn erbyn CSEA. Ar hyn o bryd rydym yn adeiladu ein sylfaen dystiolaeth ar amrywiaeth o faterion CSEA ar-lein, gan gynnwys CSAM ‘cenhedlaeth gyntaf’ neu ‘newydd’ (delweddau CSAM nad ydynt wedi’u nodi a’u hashio o’r blaen), ymyriadau ychwanegol i darfu ar rannu CSAM, a mesurau i cryfhau ein cynigion i fynd i'r afael â meithrin perthynas amhriodol. Byddwn yn parhau i gydweithio â rhanddeiliaid i gael yr effaith fwyaf posibl ar ddiogelwch plant ar-lein.

Mae ein rhaglen ymchwil ac ymgysylltu â gwasanaethau rheoleiddiedig, yn enwedig rhai bach a chanolig, yn ein helpu i ddylunio adnoddau ac offer newydd i gefnogi gwasanaethau wrth ddiogelu eu defnyddwyr a chydymffurfio â'r rheolau newydd. Gallwch gymryd rhan, cyflwyno ymholiadau a hefyd gofrestru ar gyfer diweddariadau e-bost ar ein gwefan.

Yn ôl i'r brig