Abstract Online (Web)

Mynd i’r afael â chynnwys ar-lein sy’n ennyn casineb, yn ysgogi trais ac yn lledaenu twyllwybodaeth

Cyhoeddwyd: 5 Awst 2024

Mae mynd i’r afael â chynnwys anghyfreithlon ar-lein yn flaenoriaeth bwysig i Ofcom. Dros y dyddiau diwethaf, rydym wedi gweld trais dychrynllyd yn y DU, ac mae cwestiynau’n cael eu gofyn am rôl cyfryngau cymdeithasol yn y cyd-destun hwn.

Bydd Deddf Diogelwch Ar-lein y DU yn rhoi dyletswyddau newydd ar gwmnïau technoleg i ddiogelu eu defnyddwyr rhag cynnwys anghyfreithlon. O dan y Ddeddf, diffinnir cynnwys anghyfreithlon fel cynnwys sy’n drosedd ac mae amryw o droseddau sy’n ymwneud ag ennyn casineb, anhrefn, ysgogi trais neu achosion penodol o dwyllwybodaeth.

Beth fydd yn rhaid i gwmnïau technoleg ei wneud?

Pan ddaw’r dyletswyddau newydd i rym yn nes ymlaen eleni, bydd cwmnïau technoleg yn cael tri mis i asesu'r risg o gynnwys anghyfreithlon ar eu platfformau, ac wedyn bydd yn rhaid iddynt gymryd camau priodol i’w atal rhag ymddangos a gweithredu’n gyflym i’w ddileu pan fyddant yn dod yn ymwybodol ohono.  Maes o law bydd angen i’r cwmnïau technoleg mwyaf fynd ymhellach fyth - drwy ddefnyddio eu telerau gwasanaeth yn gyson, sy’n aml yn cynnwys gwahardd pethau fel iaith casineb, ysgogi trais, a thwyllwybodaeth niweidiol.

Os na fydd cwmnïau technoleg yn cydymffurfio, bydd gennym ystod eang o bwerau gorfodi i’w defnyddio. Mae’r rhain yn cynnwys y pŵer i osod cosbau ariannol sylweddol am dorri’r dyletswyddau diogelwch. Mae’r drefn yn canolbwyntio ar systemau a phrosesau platfformau yn hytrach na’r cynnwys ei hun sydd ar eu platfformau. Felly, ni fydd rôl Ofcom yn golygu ein bod yn gwneud penderfyniadau am bostiadau neu gyfrifon unigol, nac yn mynnu bod darnau penodol o gynnwys yn cael eu tynnu i lawr.

Fel rhan o’n hymgysylltiad ehangach â phlatfformau technoleg, rydym eisoes yn gweithio i ddeall pa gamau maen nhw’n eu cymryd i baratoi ar gyfer y rheolau newydd hyn. Gall platfformau weithredu nawr - does dim angen aros i’r cyfreithiau newydd ddod i rym cyn i safleoedd ac apiau gael eu gwneud yn fwy diogel i ddefnyddwyr.

Pryd y daw’r Ddeddf i rym?

Rydym yn gweithio i weithredu’r Ddeddf er mwyn i ni allu ei gorfodi cyn gynted â phosibl. Er mwyn gwneud hyn, mae’n rhaid i ni ymgynghori ar godau ymarfer a chanllawiau, ac ar ôl hynny bydd modd gorfodi’r dyletswyddau diogelwch newydd ar blatfformau. 

Nid yw’r Ddeddf ar waith yn llawn eto, ond erbyn diwedd y flwyddyn, bydd Ofcom yn gallu dechrau dal platfformau ar-lein yn atebol am ddiogelu eu defnyddwyr rhag cynnwys anghyfreithlon.

Yn ôl i'r brig