Heddiw mae Ofcom yn ymgynghori ar gryfhau ei godau ymarfer a’i ganllawiau drafft ar niwed anghyfreithlon o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein, drwy bennu bod creulondeb at anifeiliaid ac arteithio pobl yn fathau o gynnwys y mae’n rhaid i blatfformau fynd i’r afael â nhw.
O dan y Ddeddf, pan ddaw dyletswyddau cyfreithiol newydd ar lwyfannau i rym, bydd yn rhaid i gwmnïau technoleg asesu’r risg o gynnwys anghyfreithlon ar eu gwasanaethau, cymryd camau i’w atal rhag ymddangos, a gweithredu’n gyflym i’w ddileu pan fyddant yn dod yn ymwybodol ohono.
I roi’r Ddeddf ar waith, mae’n rhaid i Ofcom ymgynghori ar godau ymarfer a chanllawiau sy’n nodi sut gall llwyfannau gydymffurfio â’u dyletswyddau. Yn syth ar ôl pasio’r Ddeddf, fe wnaethom ymgynghori ar ‘argraffiad cyntaf’ ein canllawiau a’n codau niwed anghyfreithlon er mwyn i ni allu dechrau gorfodi’r cyfreithiau newydd cyn gynted â phosibl.
Mae’r Ddeddf yn rhestru dros 130 o ‘droseddau blaenoriaeth’. Ychwanegwyd trosedd creulondeb anifeiliaid at y ddeddfwriaeth yn gymharol hwyr yn ystod ei thaith drwy’r Senedd, sy’n golygu nad oedd wedi’i chynnwys yn ein hymgynghoriad cyntaf ar niwed anghyfreithlon. Gallai llawer o gynnwys ar-lein sy’n ymwneud â chreulondeb at anifeiliaid hefyd fod y tu allan i’r trosedd hwn o dan y Ddeddf.
Ar ben hynny, nid yw’r troseddau blaenoriaeth yn y Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn cynnwys yn llawn ddeunydd anweddus sy’n portreadu arteithio pobl.
Er mwyn mynd i’r afael â hyn, rydym yn cynnig ychwanegu cynnwys anghyfreithlon sy’n ymwneud ag arteithio pobl a chreulondeb at anifeiliaid at ein codau a’n canllawiau. Bydd hyn yn sicrhau bod darparwyr yn deall y dylent ddileu’r math hwn o gynnwys niweidiol difrifol pan fyddant yn dod yn ymwybodol ohono, hyd yn oed os nad yw’n cael ei gynnwys yn llawn yn y troseddau blaenoriaeth o dan y Ddeddf.
Y camau nesaf
Daw ymgynghoriad heddiw i ben ddydd Gwener 13 Medi 2024. Yn amodol ar ystyried yr holl ymatebion sy’n dod i law yn ofalus, rydym yn bwriadu cyhoeddi ein canllawiau a’n codau niwed anghyfreithlon terfynol – gan gynnwys ein penderfyniadau ar y cynigion heddiw – ym mis Rhagfyr 2024.
Yn dilyn hyn, bydd llwyfannau yn cael tri mis i gwblhau eu hasesiadau risg ynghylch cynnwys anghyfreithlon. Bydd y codau ymarfer hefyd yn destun proses gymeradwyo Seneddol. Bryd hynny, bydd modd gorfodi’r dyletswyddau ar lwyfannau.