Floating data points in an abstract wireframe

Defnyddio ymchwil i arwain ein gwaith diogelwch ar-lein

Cyhoeddwyd: 15 Ebrill 2024

Heddiw rydym yn cyhoeddi ein hagenda ymchwil diogelwch ar-lein, sy'n nodi'r meysydd ymchwil a fydd yn helpu llywio ac ategu ein gwaith hirdymor fel rheoleiddiwr diogelwch ar-lein y DU.

Fel rheoleiddiwr sy’n seiliedig ar dystiolaeth, rydym yn defnyddio ymchwil a data i arwain ein gweithgareddau ar draws ein ffrydiau gwaith amrywiol.

Nid yw hyn yn wahanol mewn unrhyw ffordd ar gyfer ein gwaith diogelwch ar-lein. Mae gennym raglen ymchwil helaeth ar waith i’n helpu yn ein dyletswyddau diogelwch ar-lein.

Gan ddilyn yr ymchwil yr ydym eisoes wedi’i chynnal, ac o ystyried cymhlethdod y Ddeddf Diogelwch Ar-lein a’r gwasanaethau rydym yn eu rheoleiddio, byddwn yn parhau â rhaglen ymchwil barhaus a fydd yn ehangu ein sylfaen dystiolaeth ac yn helpu rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynghylch newidiadau yn y byd ar-lein.

Mae cyhoeddi ein hagenda ymchwil yn ein galluogi i fod yn dryloyw am ein diddordebau a’n nodau ymchwil, ac mae’n annog cydweithredu â’r gymuned ymchwil ehangach yn y DU a ledled y byd. Drwy nodi ein meysydd diddordeb rydym yn gobeithio annog datblygiad ymchwil yn y dyfodol.

Mae ein meysydd o ddiddordeb ar gyfer ymchwil yn y dyfodol wedi’u trefnu’n bedair thema:

  • deall gweithgarwch ac ymddygiad defnyddwyr;
  • deall risg a niwed ar-lein;
  • deall dyluniad a nodweddion gwasanaethau; a
  • deall mesurau a thechnolegau diogelwch.

Mae ymchwil yn sail i bopeth a wnawn yn Ofcom. Dim ond os ydym yn dwyn ein hunain at safon rhagoriaeth yn ein gweithgarwch ymchwil a data y gallwn ddarparu bywyd mwy diogel ar-lein i bobl yn y DU, a sicrhau bod gwasanaethau ar-lein yn amddiffyn defnyddwyr a’u hawliau'n effeithiol. Rydym wedi buddsoddi mewn rhaglen ymchwil gynhwysfawr hyd yma, ond rydym hefyd wedi ymrwymo i weithio ochr yn ochr â'r gymuned fyd-eang o ymchwilwyr yr ydym yn rhannu diddordebau cyffredin â nhw.

Mae Ofcom bob amser wedi gwerthfawrogi ei pherthynas ag ymchwilwyr allanol. Drwy gyhoeddi’r agenda ymchwil hon, rydym yn gobeithio cyflymu ein hymgysylltiad a’n cydweithrediad mewn perthynas â'r nodau a rennir hyn, wrth i ni barhau i gadw i fyny â chyflymder y newid a manteisio i'r eithaf ar ein harloesedd yn y dirwedd ar-lein.

Gill Whitehead, Cyfarwyddwr Grŵp Diogelwch Ar-lein Ofcom

Gweithio gyda ni

Cysylltwch ag Ofcom yn ymgysylltu.academaidd@ofcom.org.uk neu cwblhewch y ffurflen mynegiad o ddiddordeb gychwynnol (cliciwch ar Y Gymraeg) os hoffech gael rhagor o wybodaeth am ein diddordebau ymchwil a/neu i drafod ffyrdd o weithio gyda ni.

Gweler ein hagenda ymchwil lawn am fwy o wybodaeth.

Yn ôl i'r brig