self-(web)

Diogelu pobl rhag deunydd ar-lein am hunanladdiad a hunan-niweidio

Cyhoeddwyd: 5 Mawrth 2025

Yn y diweddaraf mewn cyfres o esboniadau ar niwed penodol ar-lein, mae Ofcom yn nodi’r hyn y mae angen i ddarparwyr gwasanaethau ar-lein sy’n gweithredu yn y DU ei wneud i ddiogelu pobl rhag cynnwys hunanladdiad neu hunan-niweidio.

Rhybudd: Mae cynnwys sy’n peri gofid yn yr erthygl hon sy’n ymwneud â hunanladdiad a hunan-niweidio

Mae nifer o farwolaethau yn y DU wedi cael eu cysylltu â deunydd ar-lein lle mae gwybodaeth fanwl yn cael ei rhannu am ddulliau hunanladdiad a hunan-niweidio, neu lle mae ymddygiad hunanladdol a hunan-niweidio yn cael ei hybu. Mae oedolion a phlant yn gallu chwilio am y math hwn o gynnwys, gyda chanlyniadau trasig. Ond mae’n bosibl iddyn nhw hefyd ddod ar ei draws yn ddamweiniol neu efallai bydd algorithmau’n ei argymell iddyn nhw.

Mae ymchwil Ofcom yn awgrymu bod pedwar y cant o ddefnyddwyr rhyngrwyd y DU wedi gweld cynnwys ar-lein sy’n hyrwyddo hunanladdiad yn y mis diwethaf,  ac mae plant yn fwy tebygol o'i weld nag oedolion.  

Rhaid i ddarparwyr gwasanaethau ar-lein ddiogelu defnyddwyr y DU 

O dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein y DU, mae gan bob darparwr gwasanaeth sydd o fewn y cwmpas ddyletswydd i wneud ei safleoedd a’i apiau yn fwy diogel drwy eu dyluniad a drwy amddiffyn plant ac oedolion rhag cynnwys anghyfreithlon a niweidiol, gan gynnwys cynnwys sy’n annog neu’n cynorthwyo hunanladdiad a hunan-niweidio.

Ar 16 Rhagfyr, cyhoeddodd Ofcom ei godau ymarfer a’i ganllawiau cyntaf ar gynnwys anghyfreithlon. Mae hynny’n golygu bod gan ddarparwyr gwasanaethau ar-lein – mawr a bach – tan 16 Mawrth i asesu’r risg y bydd defnyddwyr yn y DU yn dod ar draws deunydd anghyfreithlon ar eu gwefannau a’u apiau. Ar ôl hynny, bydd yn rhaid iddynt ddechrau rhoi mesurau diogelwch priodol ar waith i leihau’r risg iddo ymddangos yn y lle cyntaf. Bydd yn rhaid iddynt hefyd dynnu cynnwys anghyfreithlon i lawr yn gyflym pan fyddant yn dod yn ymwybodol ohono, gan gynnwys mathau anghyfreithlon o gynnwys am hunanladdiad a hunan-niweidio. 

Yn ein codau, rydym wedi nodi mesurau penodol y gall gwasanaethau ‘defnyddiwr-i-ddefnyddwyr'  eu cymryd i ddiogelu oedolion a phlant rhag deunydd anghyfreithlon.  Mae rhai ohonynt yn berthnasol i bob darparwr, ac eraill i fathau penodol o ddarparwyr gwasanaethau, neu i ddarparwyr gwasanaethau mwy neu sydd â risg uwch. Mae’r mesurau hyn yn cynnwys:

  • sefydlu systemau a phrosesau cymedroli cynnwys sy’n galluogi iddynt dynnu deunydd anghyfreithlon am hunanladdiad a hunan-niweidio i lawr yn gyflym pan fyddant yn dod yn ymwybodol ohono. 
  • Gwneud yn siŵr bod swyddogaethau cymedroli cynnwys yn cael adnoddau priodol a bod unigolion sy’n cymedroli’n cael eu hyfforddi i adnabod cynnwys – a, lle bo hynny’n berthnasol, tynnu cynnwys i lawr – gan gynnwys deunydd anghyfreithlon am hunanladdiad a hunan-niweidio;
  • galluogi defnyddwyr i riportio deunydd anghyfreithlon am hunanladdiad a hunan-niweidio drwy brosesau riportio a chwyno sy’n hawdd eu canfod a’u defnyddio;
  • wrth brofi eu halgorithmau, gwirio a yw newidiadau i ddyluniad yn effeithio ar y risg o argymell cynnwys anghyfreithlon i ddefnyddwyr a sut, gan gynnwys deunydd anghyfreithlon am hunanladdiad; a
  • Gosod telerau ac amodau clir a hygyrch sy’n egluro sut bydd defnyddwyr yn cael eu diogelu rhag cynnwys anghyfreithlon sy’n cynnwys deunydd am hunanladdiad a hunan-niweidio.

Yn ogystal, dylai darparwyr gwasanaethau chwilio:

  • gymryd camau cymedroli priodol yn erbyn deunydd anghyfreithlon am hunanladdiad neu hunan-niweidio pan fyddant yn dod yn ymwybodol ohono, a allai gynnwys dadflaenoriaethu ei safle cyffredinol neu beidio â’i ddangos mewn canlyniadau chwilio; a
  • darparu gwybodaeth am atal argyfwng mewn ymateb i ymholiadau chwilio am ddulliau hunanladdiad neu hunanladdiad yn gyffredinol. 

Diogelwch ychwanegol i blant

Bydd ein rheoleiddio yn darparu haen ychwanegol o amddiffyniad i blant, o ystyried pwysigrwydd hanfodol eu cadw’n ddiogel ar-lein rhag cynnwys ac ymddygiad niweidiol.

Mae hwn eisoes yn faes ffocws allweddol yn ein codau niwed anghyfreithlon. Er enghraifft, dylai safleoedd a fforymau sydd ag ymarferoldeb negeseuon uniongyrchol a pherygl o feithrin perthynas amhriodol roi trefniadau diogelwch ar waith gan sicrhau mai dim ond pobl y maent eisoes yn gysylltiedig â nhw sy'n gallu cysylltu â phlant.

Ym mis Ebrill, byddwn yn cyhoeddi ein penderfyniadau amddiffyniadau ychwanegol i blant yn ymwneud â chynnwys sy’n gyfreithlon ond yn niweidiol iddynt. Bydd gan ddarparwyr gwasanaethau sy’n debygol o gael eu defnyddio gan blant yn cael tri mis i asesu’r risg y bydd plant dan 18 oed yn dod i gysylltiad â mathau penodol o gynnwys sydd wedi’i ddynodi yn y Ddeddf sy’n niweidiol iddyn nhw. Mae hyn yn gynnwys sy’n hyrwyddo, yn hybu neu’n darparu cyfarwyddiadau ar gyfer hunanladdiad neu hunan-niweidio.

Yna, bydd yn rhaid i ddarparwyr roi mesurau diogelwch ar waith i liniaru’r risgiau hynny. Mae ein cynigion ar gyfer gwasanaethau ‘defnyddiwr-i-ddefnyddiwr' yn cynnwys argymell bod gwasanaethau:

  • dylunio a gweithredu systemau argymell fel bod cynnwys sy’n debygol o fod yn gynnwys am hunanladdiad neu hunan-niweidio yn cael ei eithrio o ffrydiau plant.
  • bod â systemau a phrosesau cymedroli cynnwys sy’n sicrhau bod camau’n cael eu cymryd yn gyflym pan fyddant yn nodi cynnwys hunan-niweidio neu hunanladdiad, er mwyn atal plant rhag gweld -  lle mae gwasanaethau’n caniatáu’r math hwn o gynnwys, dylent roi sicrwydd oedran hynod effeithiol ar waith i sicrhau’r canlyniad hwn;
  • gwneud yn siŵr bod gan eu swyddogaethau cymedroli cynnwys ddigon o adnoddau a bod unigolion sy’n cymedroli’n cael eu hyfforddi i adnabod a gweithredu’n unol â’u polisïau mewnol ar gynnwys yng nghyswllt cynnwys am hunanladdiad neu hunan-niweidio; a
  • cyfeirio plant sy’n riportio, yn postio, yn rhannu neu’n chwilio am ddeunydd am hunanladdiad neu hunan-niweidio ar-lein at gymorth priodol;

Yn ogystal, dylai gwasanaethau chwilio:

  • cymryd camau cymedroli priodol yn erbyn cynnwys hunanladdiad neu hunan-niweidio pan fyddant yn dod yn ymwybodol ohono, a allai gynnwys di-flaenoriaethu ei safle cyffredinol, yn ogystal â'i eithrio o ganlyniadau chwilio defnyddwyr sy'n blant trwy osodiadau chwilio diogel; a
  • rhoi gwybodaeth am atal argyfwng i blant mewn ymateb i geisiadau chwilio sy’n ymwneud â hunanladdiad, hunan-niweidio ac anhwylderau bwyta.

Mae rhai o'r rhain yn berthnasol i bob darparwr, ac eraill i rai mathau o ddarparwyr, neu i ddarparwyr gwasanaethau mwy neu fwy o risg.

Rydym eisoes yn gweithio ar fesurau ychwanegol ar gyfer ymgynghoriad yn y misoedd nesaf, i ategu’r rheini yn ein codau argraffiad cyntaf ar niwed anghyfreithlon a diogelwch plant. Er enghraifft, rydym yn ystyried cynigion ar ddefnyddio mesurau canfod awtomataidd i amddiffyn plant rhag cynnwys hunanladdiad a hunan-niwed, ac ar systemau argymell i atal oedolion a phlant rhag dod ar draws cynnwys hunanladdiad anghyfreithlon.

Mae tystiolaeth yn allweddol i’n gwaith

Mae parhau i adeiladu ein sylfaen dystiolaeth yn y maes hwn yn un o'n prif flaenoriaethau, ac mae gennym raglen ymchwil sefydledig sy'n helpu i ddarparu gwybodaeth a thystiolaeth bwysig i gefnogi ein gwaith. Mae hynny’n cynnwys clywed gan bobl a sefydliadau sy’n arbenigo mewn cefnogi ac amddiffyn oedolion a phlant rhag hunanladdiad a hunan-niweidio.

Rydym hefyd wedi ymgysylltu’n uniongyrchol â’r rhai sydd â phrofiadau uniongyrchol o niwed ar-lein yn ogystal â chrwneriaid sy’n cynnal cwestau. Byddwn yn parhau – ac yn cynyddu – y math hwn o ymgysylltu i sicrhau bod safbwyntiau o’r fath yn cael eu hymgorffori yn ein gwaith.   

Gweithredu 

Disgwyliwn i bob darparwr asesu'r risgiau sy'n gysylltiedig â'u gwasanaeth, a dechrau cymryd camau i amddiffyn eu defnyddwyr rhag cynnwys niweidiol cyn gynted ag y daw'r dyletswyddau i rym. Rydym eisoes wedi cyhoeddi ceisiadau ffurfiol am wybodaeth i ddarparwyr nifer o wasanaethau a allai achosi risg arbennig o niwed yn sgil cynnwys anghyfreithlon, gan osod dyddiad cau iddynt, sef 31 Mawrth, ar gyfer cyflwyno cofnodion o’u hasesiadau risg o niwed anghyfreithlon i ni.

Lle mae’n ymddangos nad yw darparwr yn cymryd camau i amddiffyn ei ddefnyddwyr rhag cynnwys niweidiol a bod risg o niwed difrifol i ddefnyddwyr – yn enwedig plant – ni fyddwn yn oedi cyn cymryd camau gorfodi. Gall hyn gynnwys rhoi cosbau ariannol sylweddol, ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr wneud newidiadau penodol, ac – yn yr achosion mwyaf difrifol – gwneud cais i’r llysoedd i rwystro safleoedd yn y DU.

Os ydych chi’n cael trafferth ymdopi, ffoniwch y Samariaid am ddim ar 116 123 (y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon) neu cysylltwch â ffynonellau eraill o gefnogaeth, fel y rhai sydd wedi cael eu rhestru ar dudalen we y GIG sy’n cynnig helpu i’r rhai sy’n meddwl am hunanladdiad. Mae cymorth ar gael 24 awr y dydd, bob dydd o’r flwyddyn, gan roi lle diogel i chi, pwy bynnag ydych chi a sut bynnag rydych chi’n teimlo. 

Yn ôl i'r brig