
- Mae Ofcom yn nodi camau ymarferol i wasanaethau ar-lein fynd i’r afael â chasineb at fenywod, beirniadu torfol, cam-drin domestig ar-lein a mathau eraill o niwed
- Mae disgwyliad clir i wefannau ac apiau gymryd cyfrifoldeb, atal niwed a chefnogi menywod a merched, gan fynd y tu hwnt i’r dyletswyddau cyfreithiol newydd
Heddiw, mae Ofcom wedi cynnig camau pendant y dylai cwmnïau technoleg eu cymryd i fynd i’r afael â niwed ar-lein yn erbyn menywod a merched, gan osod safon newydd ac uchelgeisiol ar gyfer eu diogelwch ar-lein.
Gyda gwybodaeth gan ddioddefwyr, goroeswyr, grwpiau eiriolaeth menywod ac arbenigwyr diogelwch,[1] mae canllawiau drafft heddiw yn nodi camau ymarferol, uchelgeisiol ond cyraeddadwy y gall darparwyr eu cymryd i wella diogelwch menywod a merched. Mae’n canolbwyntio ar bedwar peth:
- Casineb at fenywod ar-lein – cynnwys sy’n mynd ati’n weithredol i annog neu gadarnhau syniadau neu ymddygiadau sy’n gysylltiedig â chasineb at fenywod, gan gynnwys drwy normaleiddio trais rhywiol.
- Beirniadu torfol ac aflonyddu ar-lein – lle mae menyw neu grwpiau o fenywod yn cael eu targedu â sarhad a bygythiadau trais. Mae hyn yn aml yn effeithio ar fenywod mewn bywyd cyhoeddus, gan gynnwys newyddiadurwyr a gwleidyddion.
- Cam-drin domestig ar-lein – defnyddio technoleg ar gyfer ymddygiad sy’n gorfodi ac yn rheoli mewn perthynas agos.
- Camddefnyddio delweddau personol – rhannu delweddau personol heb gydsyniad – gan gynnwys y rhai sy'n cael eu creu gyda deallusrwydd artiffisial; yn ogystal â seiberfflachio – anfon delweddau anweddus at rywun heb eu caniatâd.
Mae ein canllawiau’n nodi naw maes lle dylai cwmnïau technoleg wneud mwy i wella diogelwch menywod a merched ar-lein drwy gymryd cyfrifoldeb, dylunio eu gwasanaethau i atal niwed, a chefnogi eu defnyddwyr.[2]
Mae’n hyrwyddo dull diogelwch drwy ddylunio, sy’n dangos sut gall darparwyr wreiddio pryderon menywod a merched drwy gydol y broses o weithredu a dylunio eu gwasanaethau, yn ogystal â’u nodweddion a’u swyddogaethau. Er mwyn dangos y newidiadau penodol y gall darparwyr eu gwneud i wella diogelwch menywod a merched, rydym yn cynnwys enghreifftiau ymarferol o arferion da’r diwydiant, fel:
- Profion sy’n dangos ‘pa mor agored yw rhywun i gael ei sarhau’ er mwyn canfod sut y gallai defnyddiwr maleisus fanteisio ar wasanaeth neu nodwedd;
- Technoleg i atal camddefnyddio delweddau personol, megis nodi a dileu delweddau heb gydsyniad ar gronfeydd data;
- Anogwyr defnyddwyr sy’n gofyn iddynt ailystyried cyn postio deunydd niweidiol – gan gynnwys casineb at fenywod, noethni neu gynnwys sy’n dangos trais a cham-drin rhyweddol anghyfreithlon;
- Dulliau rheoli cyfrifon symlach, fel bwndelu gosodiadau diofyn i’w gwneud yn haws i fenywod sy’n wynebu beirniadu torfol i ddiogelu eu cyfrifon;
- Gosodiadau gwelededd, sy’n galluogi defnyddwyr i ddileu neu newid gwelededd eu cynnwys, gan gynnwys deunydd maen nhw wedi’i lwytho i fyny yn y gorffennol;
- Cryfhau diogelwch cyfrifon, er enghraifft defnyddio mwy o gamau dilysu, sy’n ei gwneud hi’n fwy anodd i gyflawnwyr fonitro cyfrifon heb ganiatâd y perchennog;
- Dileu geoleoliad yn ddiofyn, oherwydd os caiff yr wybodaeth hon ei rhyddhau gall arwain at niwed difrifol, stelcio neu fygythiadau i fywyd;
- Hyfforddi timau cymedroli i ddelio â cham-drin domestig ar-lein;
- Offer adrodd sy’n hygyrch ac sy’n cefnogi defnyddwyr sy’n dioddef niwed;
- Arolygon defnyddwyr i ddeall dewisiadau pobl yn well yn ogystal â’u profiadau o risg, a’r ffordd orau o’u cefnogi; a
- Mwy o dryloywder, gan gynnwys cyhoeddi gwybodaeth ynghylch pa mor gyffredin yw gwahanol fathau o niwed, adroddiadau gan ddefnyddwyr a chanlyniadau.
Pam mae hyn yn bwysig
Gall y byd ar-lein fod yn lle anghyfeillgar a pheryglus i fenywod a merched. Gall mannau ar-lein hwyluso cam-drin domestig ar-lein, tawelu menywod sy’n dymuno mynegi eu hunain, creu cymunedau lle mae safbwyntiau sy'n gysylltiedig â chasineb at fenywod yn ffynnu, ac weithiau effeithio ar allu menywod i wneud eu gwaith. Mae menywod yn adrodd ynghylch mwy o niwed a mwy o bryderon am y rhyngrwyd na dynion.[3]
O dan ddeddfau diogelwch ar-lein y DU, mae gan wasanaethau fel cyfryngau cymdeithasol, gemau, apiau cwrdd â chariad, fforymau trafod a pheiriannau chwilio gyfrifoldebau newydd i amddiffyn pobl yn y DU rhag cynnwys anghyfreithlon, a phlant rhag cynnwys niweidiol – gan gynnwys niwed sy’n effeithio’n anghymesur ar fenywod a merched.
Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i gwmnïau asesu’r risg o niwed anghyfreithlon ar sail rhywedd, fel ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi, stelcio ac aflonyddu, a chamddefnyddio delweddau personol ar eu gwasanaethau. Yna mae’n rhaid iddynt gymryd camau i amddiffyn defnyddwyr rhag y deunydd hwn, gan gynnwys ei dynnu i lawr ar ôl iddynt ddod yn ymwybodol ohono. Mae’n rhaid i wefannau ac apiau hefyd amddiffyn plant rhag deunydd niweidiol, megis cynnwys camdriniol, cas, treisgar a phornograffig.
Er mwyn helpu gwasanaethau i gyflawni’r dyletswyddau hyn, mae Ofcom eisoes wedi cyhoeddi Codau a chanllawiau terfynol ar sut rydym yn disgwyl i gwmnïau technoleg fynd i’r afael â chynnwys anghyfreithlon; byddwn yn cyhoeddi ein Codau a’n canllawiau terfynol ar amddiffyn plant maes o law. Ar ôl i’r dyletswyddau hyn ddod i rym, rôl Ofcom fydd dal cwmnïau technoleg i gyfrif, gan ddefnyddio grym llawn ein pwerau gorfodi, pryd bynnag a lle bynnag y bo angen.
Ond y tu hwnt i orfodi’r dyletswyddau cyfreithiol craidd hyn, mae’r Ddeddf hefyd yn mynnu bod Ofcom yn cynhyrchu canllawiau ychwanegol ar gyfer y diwydiant sy’n nodi sut y gall darparwyr gymryd camau yn erbyn y cynnwys a’r gweithgarwch niweidiol sy’n effeithio’n anghymesur ar fenywod a merched, er mwyn cydnabod y risgiau unigryw maen nhw’n eu hwynebu.
Beth sy’n digwydd nawr
Rydym nawr yn gwahodd adborth ynghylch ein Canllawiau drafft, yn ogystal â thystiolaeth bellach am unrhyw fesurau ychwanegol y gellid eu cynnwys i fynd i’r afael â'r niwed sy’n effeithio’n anghymesur ar fenywod a merched. Mae'n rhaid cyflwyno ymatebion erbyn 23 Mai 2025. Ar ôl i ni ystyried pob un o’r ymatebion, byddwn yn cyhoeddi datganiad gyda’n penderfyniadau, ynghyd â’r canllawiau terfynol, yn ddiweddarach eleni.
Rydym hefyd yn disgwyl i gwmnïau technoleg asesu bygythiadau newydd neu ddatblygol yn rheolaidd, a byddwn yn adrodd ar ba mor dda maen nhw wedi mynd i’r afael â niwed i fenywod a merched oddeutu 18 mis ar ôl i’n canllawiau terfynol ddod i rym.
Dywedodd Cally Jane Beech, ymgyrchydd a dylanwadwr sydd wedi profi cam-drin delweddau personol ffugiad dwfn:
Rwyf i eisiau i bethau wella, i fy merch, ac i fenywod a merched ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig. Dylai pawb allu rheoli eu profiadau ar-lein eu hunain, er mwyn gallu mwynhau’r holl bethau da amdano. Mae angen i gwmnïau technoleg gymryd mwy o gyfrifoldeb a bod yn fwy atebol am y pethau sy’n digwydd ar eu gwefannau.
Dywedodd Nicole Jacobs, Comisiynydd Cam-drin Domestig:
Dylai pawb allu byw eu bywydau ar-lein heb orfod poeni am gael eu cam-drin, eu stelcio, neu eu haflonyddu. “Ond yn rhy aml o lawer, cyfrifoldeb y dioddefwyr a goroeswyr yw cadw eu hunain yn ddiogel rhag cam-drin ar-lein yn hytrach na bod y cwmnïau technoleg yn cymryd camau i warchod eu defnyddwyr.
Rwy’n falch fod Ofcom yn camu i’r adwy er mwyn dechrau ar y broses o ddarparu canllawiau i gwmnïau technoleg ar sut i fynd i'r afael â hyn. Cyfrifoldeb y cwmnïau yw rhoi’r argymhellion hyn ar waith er mwyn sicrhau nad yw'r tramgwyddwyr yn defnyddio’r llwyfannau hyn fel arf i achosi niwed. Bydd gweithredu mewn ffordd ymarferol ac ystyrlon yn gwneud pobl yn fwy diogel ar lein, a hefyd yn dangos bod cwmnïau technoleg yn barod i wneud eu rhan er mwyn mynd i'r afael â cham-drin domestig.
Dywedodd y Fonesig Melanie Dawes, Prif Weithredwr Ofcom:
Ni ddylai unrhyw fenyw orfod meddwl ddwywaith cyn mynegi ei hun ar-lein, poeni am gamdriniwr yn canfod ei lleoliad, na wynebu trawma delwedd bersonol ffugiad dwfn ohoni’n cael ei rhannu heb ei chydsyniad.
Ac eto, dyma rai o’r risgiau y mae menywod a merched yn eu hwynebu heddiw ar-lein - ac mae llawer o gwmnïau technoleg yn methu â gweithredu.
Mae ein canllawiau ymarferol yn galw ar wasanaethau ar-lein i weithredu - ac yn gosod safon newydd ac uchelgeisiol ar gyfer diogelwch menywod a merched ar-lein. Nid yn unig mae hanfod moesol ar gwmnïau technoleg i amddiffyn buddiannau defnyddwyr benywaidd, ond mae hefyd yn gwneud synnwyr masnachol pendant – mae’n meithrin mwy o ymddiriedaeth ac ymgysylltiad gyda chyfran sylweddol o’u sylfaen cwsmeriaid.
DIWEDD
- Wrth ddatblygu’r Canllawiau drafft, fe wnaethom gynnal gweithdai i randdeiliaid i gefnogi ein dehongliad o’r dystiolaeth sydd ar gael ac ehangu ein sylfaen dystiolaeth ymhellach. Roedd hyn yn gyfle i ddod ag arbenigwyr ar niwed ar-lein ar sail rhywedd ledled y DU a thu hwnt at ei gilydd i sicrhau ein bod yn gallu ystyried y safbwyntiau hyn ar ddechrau’r broses o ddatblygu’r Canllawiau drafft. Cymerodd dros 30 o sefydliadau ran, gan gynnwys cymdeithas sifil, academyddion, darparwyr gwasanaethau a chyrff cyhoeddus. Roedd gennym hefyd gynrychiolwyr o bob un o bedair gwlad y DU, yn ogystal â rhanddeiliaid rhyngwladol.
- Naw maes lle dylai cwmnïau technoleg wneud mwy i wella diogelwch menywod a merched ar-lein:
- Mae menywod yn llai tebygol na dynion o feddwl bod manteision y byd ar-lein yn fwy na'r peryglon a ddaw o’i herwydd (65% o’i gymharu â 70%) ac yn llai tebygol o feddwl bod y we yn beth da i gymdeithas (34% o’i gymharu â 47%). Mae menywod a merched yn eu harddegau hefyd yn fwy tebygol na dynion a bechgyn yn eu harddegau o ddweud bod y niwed maen nhw wedi’i brofi ar-lein wedi effeithio’n andwyol arnynt (24% a 29% o'i gymharu â 11% a 19% yn y drefn honno) (24% o’i gymharu â 11%). Gwelir yr un patrwm wrth gymharu menywod (29%) a dynion (19%). Traciwr Profiadau Ar-lein Ofcom.