Concerned looking woman on laptop

Amddiffyn pobl rhag casineb a therfysgaeth o dan y drefn diogelwch ar-lein

Cyhoeddwyd: 22 Chwefror 2024
Diweddarwyd diwethaf: 22 Chwefror 2024

Mae'r defnydd o wasanaethau ar-lein i annog a radicaleiddio pobl agored i niwed, gan gynnwys plant, tuag at gasineb a thrais yn peri risg fawr. Gall gael canlyniadau erchyll ac yn yr achosion mwyaf difrifol arwain at lofruddiaeth dorfol, gan dargedu lleiafrifoedd a grwpiau sydd yn aml yn warchodedig.

Ar 15 Mawrth 2019, lladdodd terfysgwr ar y dde eithaf 51 o addolwyr Mwslimaidd mewn dau fosg yn Christchurch, Seland Newydd. Cafodd yr ymosodiad trasig ei ffrydio'n fyw am 17 munud, ac fe'i gwyliwyd dros 4,000 o weithiau. Yn ddiweddar mae Llywodraeth y DU wedi cymryd camau i wahardd nifer o grwpiau asgell dde eithafol fel sefydliadau terfysgaeth, gan amlygu bygythiad cynyddol terfysgaeth asgell dde eithafol. Roedd propaganda ISIS ar-lein hefyd yn allweddol wrth argyhoeddi Prydeinwyr i adael y DU am Raqqa, Syria yn ogystal ag ysbrydoli ymosodiadau terfysgaeth mewn nifer o wledydd.

Pwysleisiodd ein hadroddiad i’r ymosodiad yn Buffalo a symbylwyd gan hiliaeth ym mis Mai 2022 yn UDA ymhellach natur fyd-eang ac aml-lwyfannog y risg i ddefnyddwyr rhyngrwyd y DU. Dangosodd fod grwpiau terfysgaeth a chasineb yn ffurfio rhan o rwydweithiau heb ffiniau ac yn neidio o un gwasanaeth ar-lein i'r llall, gan annog eraill, ymgynnull neu gynllunio ymosodiadau. Dywedodd yr ymosodwr yn Buffalo iddo gael ei radicaleiddio ar y fforwm delweddau, 4Chan, storio ei ddyddiadur a'i faniffesto ar Discord a ffrydio'r ymosodiad yn fyw ar Twitch. Er mai dim ond dwy funud o hyd oedd y ffrwd fyw o'r ymosodiad, roedd copïau o’r ffilm yn dal i gael eu lledaenu’n fyd-eang ar draws nifer o lwyfannau, gan olygu yr oedd defnyddwyr gwasanaethau ar-lein yn y DU yn sylweddol agored i niwed ar ffurf trawma a'r risg uwch y byddai casineb, trais a therfysgaeth yn cael eu cymell yn eu herbyn.

Yr hyn sy'n allweddol i'n gwaith yn y maes hwn yw tystiolaeth

Mae adeiladu ein sylfaen dystiolaeth a chynyddu graddfa ein timau yn y maes pwysig hwn o niwed wedi bod yn hanfodol i ni, a bydd yn parhau felly. Rydym wedi comisiynu dau adroddiad gan Institute of Strategic Dialogue (ISD) i ddatblygu ein dealltwriaeth o brofiadau defnyddwyr o derfysgaeth ar-lein, anogaeth i drais a chasineb. Rydym hefyd wedi defnyddio pwerau cywain gwybodaeth ffurfiol yn erbyn llwyfannau rhannu fideos (VSPs) y DU i roi systemau a phrosesau gwasanaethau fel TikTok, BitChute, Twitch, Vimeo a Snapchat o dan y microsgop. Daeth adroddiad diweddar i delerau ac amodau VSP, gan gynnwys y rheini ar gyfer terfysgaeth, ac anogaeth i gasineb a thrais, i’r casgliad y byddai llawer o oedolion yn cael trafferth i’w deall – a phlant llai byth.

Ym mis Tachwedd 2023, fe wnaethom gyhoeddi drafft o gynigion i nodi’r camau rydym yn disgwyl i lwyfannau ar-lein perthnasol eu cymryd i asesu a lliniaru’r risg o gynnwys anghyfreithlon fel casineb a therfysgaeth, y byddwn yn eu datblygu’n barhaus ac yn eu hehangu dros amser.

  • Gosod telerau ac amodau clir a hygyrch sy'n esbonio sut y bydd defnyddwyr yn cael eu hamddiffyn rhag cynnwys terfysgaeth a chasineb anghyfreithlon.
  • Asesu'r risg bod cynnwys terfysgaeth a chasineb yn cael ei ledaenu a chymryd camau i liniaru'r risg y maent wedi'i nodi.
  • Dylunio systemau cymedroli cynnwys i ddileu cynnwys terfysgaeth, sy'n ysgogi trais ac atgas anghyfreithlon yn gyflym. Dylai polisïau blaenoriaethu ar gyfer safoni cynnwys ystyried y natur firaol bosibl a difrifoldeb y cynnwys.
  • Rhaid bod gan dimau safoni cynnwys ddigon o adnoddau a hyfforddiant i ymdrin â chynnwys casineb a therfysgaeth, gan gynnwys ateb cynnydd yn y galw a achosir gan ddigwyddiadau allanol, megis argyfyngau a gwrthdaro.
  • Pan fydd gwasanaethau'n gwneud newidiadau i'w systemau argymell, dylent eu profi i asesu'r effaith y bydd y newidiadau'n ei chael ar ledaenu cynnwys casineb a therfysgaeth anghyfreithlon.
  • Dylai prosesau adrodd a chwyno defnyddwyr ar gyfer cynnwys terfysgaeth a chasineb anghyfreithlon fodoli ar bob gwasanaeth a bod yn hawdd ddod o hyd iddynt, eu cyrchu a'u defnyddio.
  • Dylid dileu cyfrifon os oes sail resymol dros awgrymu eu bod yn cael ei redeg gan neu ar ran sefydliad terfysgaeth sydd wedi’i wahardd gan Lywodraeth y DU.
  • O ran gwasanaethau chwilio, dylai systemau cymedroli cynnwys arwain at ddadfynegeio neu ddadflaenoriaethu cynnwys terfysgaeth neu gasineb anghyfreithlon.

Ymateb i faterion sy'n dod i'r amlwg

Ar ôl i’r argyfwng yn Israel a Gaza ddechrau ym mis Hydref 2023, fe wnaethom gysylltu â nifer o gymheiriaid cymdeithas sifil, ymchwil annibynnol a rheoleiddio rhyngwladol allweddol drwy'r Rhwydwaith Rheoleiddwyr Diogelwch Ar-lein Byd-eang. Y nod oedd deall maint y cynnwys anghyfreithlon a niweidiol ar wasanaethau ar-lein yn ymwneud â’r argyfwng.

Gwnaethant rhannu eu pryderon ynghylch gostyngiadau mewn timau ymddiriedaeth a diogelwch a’r effaith ganlyniadol ar allu gwasanaethau ar-lein i ymdopi â maint y cynnwys niweidiol sy’n cael ei bostio, yn enwedig cynnydd mawr mewn casineb gwrth-Fwslimaidd a gwrth-semitig. Mynegwyd pryderon gan rai hefyd a oedd telerau ac amodau'n glir ac yn hygyrch, yn enwedig mewn perthynas â chynnwys terfysgaeth a chasineb anghyfreithlon ac a oeddent yn cael eu gorfodi'n gyflym. Gwnaethom anfon llythyr at lwyfannau rhannu fideo (VSPs) wedi'u rheoleiddio hefyd ynghylch y risg gynyddol y byddai eu defnyddwyr yn dod ar draws cynnwys niweidiol yn deillio o’r argyfwng yn Israel a Gaza, a’r angen am amddiffyn defnyddwyr rhag y fath gynnwys.

Mae datblygiad parhaus rheoleiddio mewn perthynas â chynnwys casineb a therfysgaeth anghyfreithlon yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni. Bydd hyn yn arbennig o heriol wrth i dechnolegau sy'n dod i'r amlwg, megis AI cynhyrchiol, ddatblygu'n gyflym ac rydym yn ymdrechu i sicrhau bod ein cynigion yn parhau i fod yn effeithiol ac yn gyfredol. Byddwn hefyd yn cynyddu ein hymgysylltiad â gwasanaethau wedi'u rheoleiddio penodol i ddeall, asesu a gwella'u systemau sy’n ymwneud â chasineb a therfysgaeth anghyfreithlon yn well.

Yn olaf, bydd ymgysylltu rhyngwladol yn faes gwaith allweddol i ni, yn enwedig gyda rheoleiddwyr eraill trwy'r Rhwydwaith Rheoleiddwyr Diogelwch Ar-lein Byd-eang a mentrau traws-ddiwydiant megis Christchurch Call, Tech against Terrorism, Global Internet Forum for Counter Terrorism ac EU Internet Forum. Rydym yn awyddus i nodi cyfleoedd i gydweithio a chreu partneriaethau i amddiffyn defnyddwyr y DU yn well rhag niwed byd-eang ac aml-lwyfannog sy’n newid yn gyflym.

Yn ôl i'r brig