Two children using a desktop computer

Byddai llawer o oedolion yn cael trafferth deall rheolau llwyfannau rhannu fideos - mae gan blant lai fyth o siawns

Cyhoeddwyd: 9 Awst 2023
Diweddarwyd diwethaf: 14 Awst 2023
  • Mae angen sgiliau darllen datblygedig ar bobl i ddeall telerau ac amodau llwyfannau rhannu fideos (VSPs) y DU, sy'n golygu nad ydynt yn addas ar gyfer llawer o ddefnyddwyr, gan gynnwys plant
  • Nid yw rhai VSPs yn ddigon clir ynghylch pa gynnwys a ganiateir a'r hyn na chaniateir, neu beth fydd y canlyniadau i ddefnyddwyr os byddant yn torri'r rheolau
  • Nid yw cymedrolwyr cynnwys bob amser yn derbyn yr arweiniad a'r hyfforddiant sydd eu hangen arnynt i ddeall a gorfodi'r rheolau yn briodol
  • Gall VSPs fabwysiadu arferion da i ysgogi safonau cyson ar draws y diwydiant

Am y tro cyntaf, mae ein hadroddiad heddiw, Rheoleiddio Llwyfannau Rhannu Fideo (VSPs), yn datgelu pa mor hawdd yw hi i bobl gael gafael ar y telerau ac amodau a bennir gan chwe o'r llwyfannau, a’u defnyddio a'u deall:  BitChute, Brand New Tube, OnlyFans, Snapchat, TikTok a Twitch.[1]

Mae hefyd yn craffu ar sut mae'r VSPs hyn yn cyfathrebu pa gynnwys a ganiateir a'r hyn na chaniateir ar eu llwyfannau i ddefnyddwyr ynghyd â'r cosbau am dorri rheolau o ran cynnwys - a hefyd ar yr arweiniad a'r hyfforddiant a roddir i staff sydd â'r dasg o gymedroli cynnwys a gorfodi.

Yn ôl yr astudiaeth gan Ofcom, gall gymryd amser hir i ddarllen telerau ac amodau VSPs ac mae angen sgiliau darllen datblygedig i'w deall. Mae'r cymhlethdod hwn yn golygu eu bod yn anaddas i lawer o ddefnyddwyr, gan gynnwys plant.

terms-of-service-readability-CYM

OnlyFans oedd â'r telerau gwasanaeth hiraf,[2] gyda bron i 16,000 o eiriau, a fyddai'n cymryd dros awr i oedolion eu darllen. Yn dilyn hyn roedd Twitch (27 munud, 6,678 o eiriau), Snapchat (20 munud, 4,903 o eiriau), TikTok (19 munud, 4,773 o eiriau), Brand New Tube (10 munud, 2,492 o eiriau) a BitChute (8 munud, 2,017 gair).

Cyfrifodd Ofcom sgôr 'rhwyddineb darllen' ar gyfer telerau gwasanaeth pob llwyfan. Heblaw am un, aseswyd bod pob un ohonynt yn “anodd ei ddarllen ac wedi'i ddeall orau gan fyfyrwyr ysgol uwchradd.”[3] Ystyriwyd mai telerau Twitch oedd y rhai anoddaf i'w darllen. TikTok oedd yr unig lwyfan gyda thelerau gwasanaeth a oedd yn debygol o gael eu deall gan ddefnyddwyr heb addysg ysgol uwchradd neu brifysgol. Wedi dweud hynny, roedd y lefel darllen angenrheidiol yn dal yn uwch na lefel ddisgwyliedig y defnyddwyr ieuengaf a ganiateir ar y llwyfan.

Nododd adroddiad Ofcom fod Snapchat, TikTok a BitChute yn defnyddio cytundebau “clic-lapio" - lle mae llwyfannau'n gwneud derbyn y Telerau Gwasanaeth yn rhan ymhlyg o'r weithred o gofrestru. Nid yw defnyddwyr yn cael eu hysgogi na'u hannog i gyrchu'r telerau ac amodau ac mae hyn yn ei gwneud hi'n haws i gytuno iddynt heb eu hagor na'u darllen.

Roedd canllawiau cymunedol y chwe llwyfan - sydd fel arfer yn amlinellu rheolau defnyddio’r gwasanaeth mewn iaith sy'n haws ei darllen - fel arfer yn fyrrach na'r telerau gwasanaeth, gan gymryd rhwng pedair ac 11 munud i'w darllen. Snapchat oedd â'r canllawiau cymunedol byrraf, gan gymryd pedair munud i'w darllen. Fodd bynnag, roedd ganddo’r sgôr rhwyddineb darllen waethaf oherwydd yr iaith a ddefnyddir ac mae’n debygol y byddai angen addysg lefel prifysgol i’w deall.

Lle i wella

Nododd ein hastudiaeth sawl maes arall hefyd lle y gall VSPs ddysgu gwersi a chymryd camau i wella. Yn benodol, gwnaethom ddarganfod:

  • efallai na fydd defnyddwyr yn deall yn iawn pa gynnwys a ganiateir a'r hyn na chaniateir ar rai VSPs. Mae telerau ac amodau VSPs yn cynnwys rheolau ynghylch deunydd niweidiol y dylai plant gael eu hatal rhag ei weld, ond mae yna sawl un nad yw'n glir ynghylch eithriadau i'r rheolau hyn.[4] Ychydig iawn o fanylder y mae OnlyFans a Snapchat yn ei roi i ddefnyddwyr ynghylch cynnwys sydd wedi'i wahardd;
  • efallai y bydd defnyddwyr yn annhebygol o ddeall yn iawn beth yw canlyniadau torri rheolau VSPs. Er bod gan TikTok a Twitch dudalennau penodol sy'n darparu gwybodaeth fanwl am y cosbau y maent yn eu gosod am dorri eu rheolau, ychydig o wybodaeth mae darparwyr eraill yn ei chynnig i ddefnyddwyr am y camau y gall cymedrolwyr eu cymryd. Gwelsom hefyd anghysondebau rhwng yr hyn y mae telerau ac amodau Brand New Tube i ddefnyddwyr yn ei ddweud am wahanol fathau o gynnwys niweidiol, a'r hyn sydd yn eu harweiniad mewnol i gymedrolwyr;
  • nad oes gan gymedrolwyr cynnwys ddigon o arweiniad a hyfforddiant mewnol bob amser ar sut i orfodi eu telerau ac amodau. Mae ansawdd yr adnoddau a'r hyfforddiant mewnol ar gyfer cymedrolwyr yn amrywio'n sylweddol rhwng VSPs, ac ychydig ohonynt sy'n darparu arweiniad penodol ar beth i'w wneud mewn sefyllfa o argyfwng.[5]

Enghreifftiau o arfer da y gall VSPs ddysgu oddi wrthynt

Mae'r adroddiad hefyd yn amlygu llawer o enghreifftiau o arfer da yn y diwydiant. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Telerau ac amodau sy'n rhestru ystod ehangach o gynnwys a allai gael ei ystyried yn niweidiol i blant. Mae telerau ac amodau TikTok, Snapchat a Twitch i gyd yn ymdrin ag ystod eang o wahanol fathau o gynnwys a allai achosi niwed i blant.
  • Mae telerau ac amodau'n esbonio i ddefnyddwyr beth sy'n digwydd pan dorrir rheolau: Mae gan Twitch a TikTok dudalennau allanol sy'n cynnwys gwybodaeth fanwl am eu polisïau o ran cosbau, gorfodi a gwahardd.
  • Lle y mae darparwyr VSP yn rhoi effeithiolrwydd eu harweiniad i gymedrolwyr ar brawf: Mae newidiadau i bolisïau TikTok yn cael eu rhoi ar brawf mewn amgylchedd profi wedi'i efelychu. Mae Snapchat yn dadansoddi perfformiadau cymedrolwyr i roi effeithiolrwydd polisïau ac arweiniad mewnol ar brawf.

Byddwn yn parhau i weithio gyda llwyfannau i hyrwyddo gwelliannau yn rhan o'n gwaith ymgysylltu parhaus.

Mae ein gwaith o reoleiddio VSPs[6] yn bwysig o ran llywio ein dull rheoleiddio diogelwch ar-lein ehangach o dan y Bil Diogelwch Ar-lein, yr ydym yn disgwyl iddo dderbyn Cydsyniad Brenhinol yn ddiweddarach eleni.

Yr adroddiad heddiw yw’r cyntaf mewn cyfres o adroddiadau y byddwn yn eu cyhoeddi yn 2023, gan gynnwys un sy’n canolbwyntio ar ymagwedd VSPs at amddiffyn plant rhag niwed.

Dywedodd Jessica Zucker, Cyfarwyddwr Polisi Diogelwch Ar-lein Ofcom: “Mae telerau ac amodau yn hanfodol i amddiffyn pobl, gan gynnwys plant, rhag niwed wrth ddefnyddio gwefannau ac apiau fideo cymdeithasol. Mae hynny oherwydd y gall rhoi gwybod am fideos a allai fod yn niweidiol - a chymedroli'r cynnwys hwnnw'n effeithiol - ond gweithio os oes rheolau clir a diamwys yn sail i'r broses.

“Nododd ein hadroddiad fod telerau hir, trwsgl ac, mewn rhai achosion, anghyson sydd wedi'u llunio gan rai lwyfannau rhannu fideos yn y DU yn peri'r risg o adael defnyddwyr a chymedrolwyr yn y tywyllwch. Felly heddiw rydyn ni'n galw ar lwyfannau i wneud gwelliannau, gan gymryd arfer da’r diwydiant a amlygwyd yn ein hadroddiad i ystyriaeth.”

Nodiadau i olygyddion:

  1. Mae telerau ac amodau yn cyfeirio at ganllawiau cymunedol a thelerau gwasanaeth llwyfannau rhannu fideos (VSPs), sydd ar gael yn gyhoeddus i ddefnyddwyr. Mae canllawiau cymunedol fel arfer yn amlinellu'r rheolau ar gyfer defnyddio'r gwasanaeth mewn iaith sy'n haws ei defnyddio. Mae telerau gwasanaeth fel arfer yn gytundeb cyfreithiol y mae'n rhaid i ddefnyddwyr gydsynio iddo er mwyn defnyddio'r gwasanaeth.
  2. Mae OnlyFans yn wasanaeth tanysgrifio sy'n arbenigo mewn cynnwys i oedolion, ac rydym yn nodi y gallai fod angen mwy o wybodaeth yn eu telerau gwasanaeth - er enghraifft, ynghylch telerau talu a dilysu oedran.
  3. Mae'r cyfrifiannell Flesch-Kincaid yn creu sgôr sy'n seiliedig ar nifer cyfartalog y geiriau fesul brawddeg a nifer cyfartalog y sillafau fesul gair, gyda sgôr is yn dynodi mwy o anhawster wrth ddarllen. 0-30 = 'Anodd iawn ei ddarllen ac wedi'i ddeall orau gan raddedigion prifysgol’; 30-50 = 'Anodd ei ddarllen ac wedi'i ddeall orau gan fyfyrwyr ysgol uwchradd’; 50-60 = 'Eithaf anodd ei ddarllen’; 60-70 = 'Hawdd i fyfyrwyr 13 i 15 oed ei ddeall’
  4. Trwy ‘eithriadau’, er enghraifft, mae pob llwyfan yn cyfyngu’r rhai dan 18 oed rhag cael mynediad i gynnwys o natur rywiol gref. Fodd bynnag, maent i gyd hefyd yn gwneud eithriadau ar gyfer noethni mewn rhai cyd-destunau nad ydynt yn rhywiol, gan gynnwys: cynnwys atgenhedlu ac iechyd rhywiol; eithriadau rhanbarthol ar gyfer dangos y corff mewn sefyllfaoedd cyfyngedig, megis arferion diwylliannol cyffredin; a dangos noethni mewn rhai cyd-destunau nad ydynt yn rhywiol gan gynnwys bwydo ar y fron. Gellir caniatáu dangos noethni mewn rhai cyd-destunau eraill nad ydynt yn rhywiol hefyd.
  5. Ymysg enghreifftiau o sefyllfaoedd o argyfwng fyddai cynnwys sy'n peri bygythiad uniongyrchol i fywyd dynol.
  6. Ym mis Tachwedd 2020, penodwyd Ofcom yn rheoleiddiwr ar gyfer llwyfannau rhannu fideos (VSPs) wedi’u sefydlu yn y DU. Mae Deddf Cyfathrebiadau 2003 yn rhestru mesurau y mae'n rhaid i ddarparwyr VSP eu gweithredu, fel y bo'n briodol, i ddiogelu defnyddwyr rhag deunydd niweidiol perthnasol a phobl ifanc dan 18 oed rhag deunydd cyfyngedig. Pan fydd darparwr VSP yn gweithredu mesur, mae'n rhaid gwneud hynny mewn ffordd sy'n cyflawni'r amddiffyniad a fwriadwyd. Mae'r arweiniad y mae Ofcom wedi'i gyhoeddi'n esbonio ein bod ni'n ei hystyried yn annhebygol y gellir diogelu defnyddwyr yn effeithiol heb roi telerau ac amodau ar waith a gweithredu'r rheiny yn effeithiol.
Yn ôl i'r brig