Floating data points in an abstract wireframe

Llythyr i lwyfannau rhannu fideos ynghylch yr argyfwng yn Israel a Gaza

Cyhoeddwyd: 11 Hydref 2023
Diweddarwyd diwethaf: 11 Hydref 2023

Heddiw rydym wedi ysgrifennu at lwyfannau rhannu fideos (VSPs) sydd wedi’u sefydlu yn y DU am y risg gynyddol y bydd eu defnyddwyr yn dod ar draws cynnwys niweidiol yn deillio o’r argyfwng yn Israel a Gaza.

Dyma’r llythyr yn llawn:

At lwyfannau rhannu fideos (VSPs) sydd wedi'u sefydlu yn y DU,

Mae'r argyfwng sy'n datblygu'n gyflym yn Israel a Gaza wedi cynyddu'r risg y bydd defnyddwyr yn cael eu hamlygu i gynnwys a allai fod yn niweidiol ar lwyfannau rhannu fideos.

Fel y gwyddoch, o dan drefn reoleiddio bresennol Ofcom, mae’n ofynnol i lwyfannau rhannu fideos sy’n dod o dan awdurdodaeth Ofcom roi mesurau ar waith sy’n briodol i amddiffyn y cyhoedd rhag fideos terfysgol a deunydd fideo sy’n annog casineb neu drais, ac amddiffyn plant rhag deunydd fideo a allai achosi niwed iddynt.

Disgwyliwn felly i lwyfannau sicrhau bod eu systemau a'u prosesau yn effeithiol wrth ragfynegi ac ymateb i'r lledaeniad posibl o ddeunydd fideo niweidiol sy'n deillio o'r argyfwng sy'n datblygu.

Rydym wedi'n calonogi gan y cyfathrebiadau rhagweithiol a’r cynllunio lliniaru argyfwng yr ydym eisoes wedi’u gweld gan rai llwyfannau, a byddwn yn cynnal deialog barhaus gyda phob cwmni a reoleiddir wrth i’r sefyllfa ddatblygu.

Wrth i ni edrych ymlaen at dderbyn Cydsyniad Brenhinol ar gyfer y Bil Diogelwch Ar-lein, rydym hefyd yn disgwyl i lwyfannau a reoleiddir yn y dyfodol asesu a lliniaru risgiau i’w llwyfannau yn yr un modd, er mwyn amddiffyn defnyddwyr rhag niwed ar-lein.

Gill Whitehead

Yn ôl i'r brig