Young woman outdoors listening to a podcast on her smartphone

Y prif dueddiadau gwrando ar Ddiwrnod Rhyngwladol Podlediadau

Cyhoeddwyd: 30 Medi 2024

Mae’n Ddiwrnod Rhyngwladol Podlediadau heddiw, sef diwrnod i ddathlu podlediadau a’r dechnoleg sy’n eu pweru.

I nodi'r diwrnod, rydym wedi tynnu sylw at rai ystadegau o'n hymchwil Cyfryngau'r Genedl ddiweddaraf, a oedd yn dangos ambell ganfyddiad diddorol yn ymwneud â'r cyfrwng hwn sy'n dod yn fwyfwy poblogaidd.

Ydych chi’n gwrando ar bodlediadau? Edrychwch i weld sut mae eich arferion chi’n cymharu â chanfyddiadau ein hymchwil.

Podlediadau’n dal i ddod yn fwyfwy poblogaidd

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gwelwyd twf bach ond cyson yng nghyrhaeddiad podlediadau, gydag ychydig dros 20% o oedolion y DU bellach yn gwrando ar o leiaf un podlediad yr wythnos – sef 11.7 miliwn o bobl. Ar ôl gostyngiad yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae pobl ifanc 15-24 oed yn troi’n ôl at bodlediadau, a phobl 35-44 oed yn troi oddi wrthynt.

Ymysg oedolion 25-34 oed y mae podlediadau’n fwyaf poblogaidd o hyd, gyda’r cyrhaeddiad wythnosol wedi cynyddu i bron i draean o’r grŵp oedran hwn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae pobl dros 54 oed yn dal yn llai tebygol o wrando ar bodlediadau, ond yn wahanol i’r amrywiadau mewn cyrhaeddiad ymysg grwpiau oedran iau, mae cyrhaeddiad wedi bod yn cynyddu’n raddol ymysg y grŵp oedran hwn yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Yn gynnar yn 2024, roedd mwy nag un o bob deg o bobl 65 oed a hŷn yn gwrando ar bodlediadau bob wythnos.

Y rhan fwyaf o wrandawyr yn ffafrio cadw at lond llaw o bodlediadau

Ymysg y rhai sy’n gwrando ar bodlediadau, mae bron i dri chwarter ohonynt yn dweud eu bod yn gwrando ar un i bum podlediad bob wythnos, ac mae bron i chwarter (24%) yn dweud eu bod yn gwrando ar chwech neu fwy. Dywedodd un o bob deg o'r bobl a oedd yn gwrando ar bodlediadau yn rheolaidd eu bod yn tanysgrifio i 11 podlediad neu fwy, tra dywedodd cyfran ychydig yn fwy na hynny nad oeddent yn tanysgrifio i’r un podlediad.

Newyddion a materion cyfoes yn boblogaidd

Gan edrych ar ba fathau o bodlediadau y mae pobl yn gwrando arnynt, y genres mwyaf poblogaidd yw adloniant, newyddion a materion cyfoes, comedi, a rhaglenni sgwrsio a thrafod. O’r bobl hynny sy’n gwrando ar bodlediadau o leiaf unwaith y mis, mae un o bob pump yn dweud eu bod yn gwrando ar bodlediadau newyddion a materion cyfoes bob dydd – y ganran ddyddiol uchaf o unrhyw genre.

Mae rhai gwahaniaethau nodedig yn ôl grwpiau oedran, gyda phobl dros 54 oed yn fwy tebygol o wrando ar bodlediadau newyddion a materion cyfoes bob wythnos.

Podlediadau’n fwy hwylus ac yn cynnig mwy o ddewis na’r radio

Os oes unrhyw beth yn gwerthu podlediadau i bobl, hwylustod yw hwnnw: Dywedodd 83% o’r rhai sy’n gwrando ar bodlediadau yn rheolaidd eu bod yn hoffi’r hwylustod o allu gwrando ar bodlediadau pryd bynnag sy’n gyfleus iddyn nhw.

Roedd ychydig dros draean yn cytuno y byddent yn fodlon talu i danysgrifio i'w hoff bodlediad, tra dywedodd canran ychydig yn fwy o bobl - 38% - na fyddent yn fodlon gwneud hynny. Dywedodd ychydig dros draean o wrandawyr eu bod yn teimlo bod hysbysebu a nawdd yn llai ymwthiol ar bodlediadau nag ar gyfryngau eraill, tra oedd ychydig o dan un rhan o bump yn anghytuno. Canfyddiad diddorol arall oedd bod ychydig dros hanner y gwrandawyr wedi dweud nad oeddent yn poeni am gynnwys mewn podlediadau a allai dramgwyddo neu beri gofid iddyn nhw eu hunain neu i eraill.

Yn ôl i'r brig