Roedd ein hymchwil Cyfryngau’r Genedl diweddar, a oedd yn edrych ar sut mae pobl yn y Deyrnas Unedig yn defnyddio ac yn ymgysylltu â’r cyfryngau, yn tynnu sylw at duedd a allai beri syndod.
Ar adeg pan mai gwasanaethau ffrydio cerddoriaeth yw’r opsiwn sy’n cael ei ffafrio gan lawer o wrandawyr, gwelwyd bod gwariant defnyddwyr ar fformatau cerddoriaeth ffisegol – fel cryno ddisgiau a recordiau finyl – wedi cynyddu 10% rhwng 2022 a 2023, sef y cyfnod a gwmpesir gan yr ymchwil.
Roedd y cynnydd hwn yn mynd yn groes i’r newid tymor hir yn y ffordd rydym yn gwario ar gerddoriaeth, sef o fformatau ffisegol i fformatau digidol. Fe’i sbardunwyd gan dwf mewn gwariant ar gryno ddisgiau – gan adlewyrchu cynnydd ym mhris cyfartalog albwm ar gryno ddisg – yn ogystal â thwf parhaus mewn gwariant ar fformatau finyl.
Fodd bynnag, er bod rhai artistiaid wedi rhyddhau cerddoriaeth newydd yn ddiweddar ar ffurf casét, roedd nifer y casetiau a werthwyd yn 2023 wedi gostwng 30% o un flwyddyn i’r llall.
Gan adlewyrchu grym cynyddol gwasanaethau ffrydio cerddoriaeth, mae tanysgrifiadau’n dal i gyfrif am 84% o gyfanswm gwariant defnyddwyr ar gerddoriaeth. Bu cynnydd o 10% yng ngwariant defnyddwyr ar danysgrifiadau 10%, gan gyrraedd bron i £1.9bn yn 2023.
Mae ffrydio’n cyfrif am ddwy ran o dair o incwm y diwydiant cerddoriaeth wedi’i recordio
Mae’r diwydiant cerddoriaeth wedi’i recordio yn cynhyrchu ei refeniw o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys breindaliadau gan wasanaethau ffrydio. Roedd taliadau o wasanaethau ffrydio yn dal i gyfrif am ddwy ran o dair o gyfanswm refeniw’r diwydiant yn y DU yn 2023, yn unol â blynyddoedd blaenorol.
Bu cynnydd o 8% yn refeniw’r diwydiant cerddoriaeth wedi'i recordio sy’n deillio o ffrydio – gan godi i £962m yn 2023. Dros yr un cyfnod, bu cynnydd o 13% yng nghyfanswm y ffrydiau sain yn y DU – gan godi i 180bn.
Mae gwasanaethau ffrydio, gan gynnwys Spotify, wedi newid y ffordd maen nhw’n talu breindaliadau i ddeiliaid hawliau. Mae Spotify nawr yn mynnu bod trac wedi cael ei ffrydio o leiaf 1,000 o weithiau yn ystod y 12 mis blaenorol er mwyn iddo gynhyrchu breindaliadau. Cafodd ei y drefn newydd hon ei chyhoeddi ym mis Tachwedd 2023, ac mae wedi bod yn weithredol o fis Ebrill 2024 ymlaen.
Pa ddull ydych chi’n ei ffafrio i gael gafael ar gerddoriaeth i wrando arni – ac ydych chi’n rhywun sy’n gwario ar fformatau fel cryno ddisgiau a finyl?