Teenage girl at desk on computer

Galluogi pobl i lywio cynnwys yn ddiogel a ffynnu ar-lein

Cyhoeddwyd: 29 Ebrill 2024
  • Ofcom yn nodi cynllun tair blynedd i hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r cyfryngau
  • Bydd yn canolbwyntio ar helpu’r rheini sydd ei angen fwyaf
  • Mae gwella ymwybyddiaeth o’r cyfryngau yn ymdrech ar y cyd, ond rhaid i lwyfannau ar-lein yn benodol wneud mwy

Heddiw mae Ofcom wedi nodi sut y mae’n bwriadu cynyddu ei waith ymwybyddiaeth o’r cyfryngau yn y blynyddoedd nesaf, fel rhan o ddyletswyddau newydd i ddiogelu a grymuso defnyddwyr y rhyngrwyd dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein.

Mae gwella ymwybyddiaeth o’r cyfryngau yn fusnes i bawb. Mae gan lwyfannau ar-lein rôl arbennig o bwysig i’w chwarae, ond mae hefyd yn cynnwys darlledwyr, darparwyr gwasanaethau, rhieni, addysgwyr, sefydliadau trydydd sector, darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol, a’r rheini sy’n gweithio gyda phlant.

Bydd Ofcom, fel rheoleiddiwr cyfryngau darlledu a diogelwch ar-lein, yn chwarae ein rhan. Yn benodol byddwn yn: datblygu dealltwriaeth ddyfnach o ba fesurau a mentrau ymwybyddiaeth o’r cyfryngau sy’n llwyddo; cynyddu ein gwaith gyda sefydliadau sy’n darparu rhaglenni ymwybyddiaeth o'r cyfryngau; ehangu ein sylfaen dystiolaeth ymchwil; ac annog llwyfannau i wneud mwy i helpu pobl i ddatblygu eu sgiliau.

Rydyn ni wedi ein hamgylchynu gan y cyfryngau, newyddion ac adloniant drwy’r amser, felly mae’r gallu i lywio a gwerthuso cynnwys yn feirniadol yn dod yn fwyfwy hanfodol i’n bywydau bob dydd. Mae gan bob un ohonom rôl i’w chwarae o ran sicrhau bod oedolion a phlant ledled y DU yn gallu llywio drwy gynnwys yn ddiogel a ffynnu ar-lein.

Yn ôl Yih-Choung Teh, Cyfarwyddwr Grŵp Strategaeth ac Ymchwil Ofcom

Llwyfannau

Mae rhai llwyfannau a gwasanaethau ar-lein eisoes yn defnyddio nodweddion ac adnoddau, fel ffenestri naid a hysbysiadau, i roi cyd-destun i'r cynnwys y mae eu defnyddwyr yn ei weld. Byddwn yn datblygu ein dealltwriaeth o’r hyn y mae defnyddwyr yn ei ganfod yn ddefnyddiol wrth lywio drwy gynnwys ar-lein a’r ffordd orau o gefnogi pobl drwy ddarparu gwybodaeth ar wahanol adegau yn nhaith y defnyddiwr.

Byddwn yn troi ein hymchwil yn gynlluniau gweithredu ar gyfer diwydiant – gan dynnu sylw at yr hyn sy’n gweithio orau i ddefnyddwyr, beth sy’n dda a defnyddio ein dylanwad i annog llwyfannau i wneud newidiadau i’w cynhyrchion a’u gwasanaethau yn seiliedig ar ddisgwyliadau defnyddwyr.

Byddwn yn edrych ar y materion penodol canlynol:

  • Camwybodaeth a thwyllwybodaeth.
  • Cynnwys a gweithgarwch niweidiol sy’n effeithio’n anghymesur ar fenywod a merched.
  • Diogelu gwybodaeth bersonol.
  • Cynnwys o bwysigrwydd democrataidd.

Partneriaethau

Mae ein mewnwelediad yn awgrymu bod ymyriadau ymwybyddiaeth o'r cyfryngau yn fwyaf effeithiol pan fyddant yn cael eu darparu gan leisiau dibynadwy. Yn ogystal â’r gweithwyr proffesiynol y mae unigolyn eisoes yn ymddiried ynddynt i’w cefnogi, gallai hyn fod yn rhywun o’r un gymuned neu sydd â phrofiadau bywyd tebyg i brofiadau’r cyfranogwyr.

Er mwyn meithrin perthnasoedd newydd ac ehangu ein rhwydwaith gydag ystod ehangach o sefydliadau, byddwn yn:

  • Parhau i ganolbwyntio ein gwaith a gomisiynwyd ar y meysydd lle mae’r angen mwyaf ac ar y rhai a fydd yn elwa fwyaf ohono
  • Parhau i weithio gyda chymunedau sy’n wynebu cynni ariannol
  • Ehangu ein hyfforddiant comisiynu gwaith ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc

Tystiolaeth a Gwerthuso

Byddwn yn ehangu ehangder a dyfnder ein dealltwriaeth o ddefnydd ar-lein a’r cyfryngau yng nghyd-destun bywyd bob dydd, ac yn cynyddu lleisiau a thystiolaeth amrywiaeth o grwpiau ar draws cymdeithas. Byddwn yn asesu newidiadau mewn ymwybyddiaeth o'r cyfryngau ymysg oedolion a phlant dros amser, gan ddefnyddio amrywiaeth o fesurau craidd, a byddwn yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau arloesol i gael cipolwg ar bynciau allweddol.

Byddwn yn meithrin dealltwriaeth ddyfnach o ‘beth sy’n gweithio’ ar gyfer darparu ymyriadau ymwybyddiaeth o'r cyfryngau, ac yn rhannu’r canfyddiadau hynny i gefnogi’r gwaith o gyflawni cynlluniau mwy effeithiol yn y dyfodol.  Byddwn hefyd yn ehangu ein pecyn gwerthuso ar gyfer sefydliadau trydydd sector sy’n darparu cynlluniau ymwybyddiaeth o'r cyfryngau.

Y camau nesaf

Rydym yn ymgynghori ar y strategaeth hon ac yn gwahodd partïon sydd â diddordeb i ymateb erbyn 24 Mehefin 2024. Cyn hynny, byddwn yn cynnal digwyddiad rhithwir a digwyddiadau wyneb yn wyneb yng Nghaeredin, Belfast, Llundain a Chaerdydd. Byddwn yn ystyried yn ofalus yr holl ymatebion a ddaeth i law yn ystod y cyfnod hwnnw ac yn cyhoeddi ein strategaeth derfynol yn yr Hydref.

Nodiadau i olygyddion

Gwneud Synnwyr o’r Cyfryngau yw rhaglen waith Ofcom ar gyfer ymwybyddiaeth o'r cyfryngau i helpu i wella sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth ar-lein oedolion a phlant y Deyrnas Unedig.

Yn ôl i'r brig