Mae pobl ifanc yn eu harddegau yn y DU yn troi i ffwrdd o sianeli newyddion traddodiadol ac yn hytrach yn edrych ar Instagram, TikTok a YouTube i gael yr wybodaeth ddiweddaraf, yn ôl canfyddiadau gan Ofcom.
Mae adroddiad Cael Gafael ar Newyddion yn y DU Ofcom 2021/22 yn dangos mai Instagram, am y tro cyntaf, yw'r ffynhonnell newyddion fwyaf poblogaidd ymhlith pobl ifanc yn eu harddegau – gan gael ei ddefnyddio gan bron i dri o bob deg yn 2022 (29%). Roedd TikTok a YouTube yn agos ar ei ôl, gan gael eu defnyddio gan 28% o bobl ifanc i ddilyn newyddion.
Mae BBC One a BBC Two – y ffynonellau newyddion mwyaf poblogaidd ymhlith pobl ifanc yn eu harddegau yn hanesyddol – wedi cael eu bwrw o'r brig i lawr i'r pumed safle. Mae tua chwarter y bobl ifanc yn eu harddegau (24%) yn defnyddio'r sianelau hyn ar gyfer newyddion yn 2022, o'i gymharu â bron i hanner (45%) bum mlynedd yn ôl.[1]
BBC One yw'r ffynhonnell newyddion a ddefnyddir fwyaf o hyd ymhlith yr holl oedolion ar-lein, er ei bod yn un o sawl sianel newyddion teledu fawr sy'n cyrraedd llai o bobl yn 2022.[2] Mae gwylio newyddion ar BBC One, BBC Two, BBC News Channel, ITV a Sky News bellach yn is na lefelau cyn y pandemig, gan ddychwelyd i ddirywiad tymor hwy mewn gwylio newyddion teledu traddodiadol.