Mae Ofcom yn gofyn am dystiolaeth i helpu i benderfynu a oes angen diwygio'r rheolau sy'n cyfyngu ar faint o hysbysebion a ddangosir ar sianeli teledu darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus.
Mae holl ddarlledwyr y DU yn destun cyfyngiadau ar faint o hysbysebu y gallant ei dangos ar eu sianeli, a phryd y maent yn ei ddangos. Ond o dan reolau a gyflwynwyd dros 30 mlynedd yn ôl, mae darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus y DU - ITV, STV, Channel 4, S4C a Channel 5 - yn destun cyfyngiadau hysbysebu tynnach na sianeli nad ydynt yn ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus.
Rydyn ni eisiau clywed gan grwpiau fel y darlledwyr eu hunain, sefydliadau hysbysebu a gwerthu, cynulleidfaoedd a grwpiau defnyddwyr ynghylch a yw'r rheolau llymach hyn wedi'u cyfiawnhau o hyd.
Pam ydyn ni'n gwneud hyn?
Bu newidiadau sylweddol o ran sut y caiff teledu ei ddosbarthu a'i wylio ers i'r rheolau hyn gael eu cyflwyno am y tro cyntaf dri deg mlynedd yn ôl. Yn benodol, mae gwylwyr bellach yn elwa o ystod ehangach o lawer o sianeli nad ydynt yn ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn ogystal â llu o wasanaethau teledu a ffrydio ar-lein ac ar-alw.
Mae angen i ni daro'r cydbwysedd iawn rhwng diogelu buddiannau gwylwyr a chynnal ein darlledwyr traddodiadol, gan gynnwys eu helpu i gystadlu â llwyfannau ffrydio byd-eang.
Fel y gwnaethon ni nodi yn ein hadolygiad o gyfryngau gwasanaeth cyhoeddus – Sgrin Fach: Trafodaeth Fawr – mae rheoleiddio hysbysebu yn faes pwysig sy'n effeithio ar gynaladwyedd ariannol y Darlledwyr Gwasanaeth Cyhoeddus. Dyna pam mae'n bwysig adolygu a yw'r rheolau hysbysebu teledu ar gyfer darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn parhau i fod yn effeithiol ac yn gymesur.
Cyn i ni wneud unrhyw benderfyniadau, byddwn yn ystyried pob ymateb a thystiolaeth ategol yn ofalus, ac mae hynny'n cynnwys gwrando ar yr hyn y mae gwylwyr teledu yn ei ddweud.
Y camau nesaf
Y dyddiad cau ar gyfer ymateb i’r cais hwn am dystiolaeth yw dydd Gwener 7 Hydref 2022.
Yn ddiweddarach eleni byddwn yn cyhoeddi ymatebion i'r ymgynghoriad hwn ac yn amlinellu'r camau nesaf – gan gynnwys a ydym yn bwriadu ymgynghori'n ffurfiol ar gynigion i newid rheolau hysbysebu teledu fel eu bod yr un mor berthnasol i bob sianel deledu darlledu gwasanaeth cyhoeddus ag i'r rhai nad ydynt yn ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus yn y DU.