Hysbysu am wasanaeth ar-alw

Cyhoeddwyd: 8 Medi 2021

Mae Ofcom yn rheoleiddio cynnwys golygyddol (rhaglennu) ar wasanaethau fideo ar-alw y DU.

Yn ôl y gyfraith, mae'n ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau rhaglenni ar-alw (ODPS) ein hysbysu cyn y bydd eu gwasanaeth yn dechrau, ac i'n hysbysu os bydd y gwasanaeth yn cau neu'n destun newidiadau sylweddol. Mae'r meini prawf hyn a gofynion o ran safonau cynnwys wedi'u disgrifio yn Adran 4A Deddf Cyfathrebiadau 2003 (“y Ddeddf”).

Mae Ofcom wedi cyhoeddi arweiniad ar y meini prawf statudol ar gyfer pennu a yw gwasanaeth yn wasanaeth rhaglenni ar-alw ai beidio a sut a phryd y bydd disgwyl i ddarparwr hysbysu.

Mae'r arweiniad hwn yn adlewyrchu newidiadau i'r fframwaith rheoleiddio a ddaeth i rym ar 1 Tachwedd 2020.

Mae'r arweiniad hwn yn darparu gwybodaeth am sut y dylai darparwr hysbysu Ofcom ar ôl iddynt ddod i'r penderfyniad eu bod yn darparu gwasanaeth rhaglenni ar-alw. Darllenwch yr arweiniad hwn yn ofalus cyn cwblhau'r ffurflen hysbysu.

Nodiadau arweiniad ar sut i hysbysu Ofcom am wasanaeth rhaglenni ar-alw (PDF, 195.7 KB) (Saesneg yn unig)

Ffurflen hysbysu ar gyfer darparwyr ODPS (ODT, 46.3 KB) (Saesneg yn unig)

Yn ôl i'r brig