Mae Ofcom yn rheoleiddio cynnwys golygyddol (rhaglenni) ar wasanaethau fideo ar-alw yn y DU.
Yn ôl y gyfraith, mae’n ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau rhaglenni ar-alw (ODPS) ein hysbysu cyn i'w gwasanaeth ddechrau, a rhoi gwybod i ni os bydd y gwasanaeth yn cau neu os bydd yn destun newidiadau sylweddol. Amlinellir y meini prawf hyn a’r gofynion o ran safonau cynnwys yn Adran 4A Deddf Cyfathrebiadau 2003 (“y Ddeddf”).
Ar 1 Tachwedd 2020, daeth y Rheoliadau Gwasanaethau Cyfryngau Clyweled ("AVMS") i rym. Mae’r Rheoliadau’n diwygio Rhan 4A y Ddeddf. Rydym wedi diweddaru ein dogfennau rheolau, arweiniad a hysbysu i adlewyrchu’r diwygiadau hyn.
Mae'r Rheolau Gwasanaethau Rhaglenni Ar-alw yn disgrifio'r gofynion statudol y mae'n rhaid i ddarparwyr gwasanaethau rhaglenni ar-alw gydymffurfio â nhw. Maent yn ymdrin â rheolau gweinyddol a golygyddol. Darperir ein canllawiau i gynorthwyo darparwyr ODPS i ddeall sut mae Ofcom yn dehongli'r Rheolau. Rydym hefyd wedi cynhyrchu arweiniad ychwanegol ar fesurau i amddiffyn defnyddwyr rhag deunydd niweidiol.
Noder bod y dogfennau isod yn Saesneg.
Rheolau ac Arweiniad Gwasanaethau Rhaglenni Ar-alw (PDF, 285.3 KB)
Mae nifer o haenau i strwythur ffioedd Ofcom ar gyfer darparwyr gwasanaethau ODPS. Mae'r darparwyr hynny sydd â throsiant o dan £10 miliwn yn talu dim byd a dim ond y darparwyr sydd â throsiant dros £50 miliwn sy'n talu'r ffi uchaf.
Gweler y Datganiad Ffioedd 2023/34 (PDF, 144.4 KB) (Saesneg yn unig)
Mae’r ddogfen hon yn amlinellu gweithdrefnau Ofcom ar gyfer trin a datrys cwynion (neu gynnal ei hymchwiliadau ei hun) ynglŷn â’r posibilrwydd y torrwyd rheolau sy’n berthnasol i wasanaethau rhaglenni ar-alw (“ODPS”) gan ddarparwyr ODPS.
Gweithdrefnau ymchwilio i dorri rheolau ar gyfer gwasanaethau rhaglenni ar-alw (PDF, 273.7 KB) (Saesneg yn unig)
Diweddarwyd diwethaf 11 Medi 2023
Mae’r ddogfen hon yn amlinellu’r gweithdrefnau y bydd Ofcom fel arfer yn eu dilyn wrth ystyried pennu cosb yn erbyn darparwr gwasanaeth rhaglenni ar-alw (“ODPS”) ar gyfer torri un neu fwy o’r gofynion sydd arnynt o dan Ran 4A Deddf Cyfathrebiadau 2003 (y “Ddeddf”).
Gweithdrefnau ar gyfer ystyried cosbau statudol sy’n codi yng nghyd-destun Gwasanaethau rhaglenni ar-alw (Saesneg yn unig)
Diweddarwyd diwethaf 3 Ebrill 2017
Mae Ofcom yn rheoleiddio cynnwys golygyddol (rhaglennu) ar wasanaethau fideo ar-alw y DU. Cyn 1 Ionawr 2016, bu i'n cyd-reoleiddiwr, yr Awdurdod Teledu Ar-alw (ATVOD), arwain ar hyn o beth.
Gallwch chi ddod o hyd i wybodaeth am y cyfnod ATVOD yn yr Archifau Cenedlaethol.
Mae ein rheolau ac arweiniad hŷn er gwybodaeth yn unig, ac yn ymwneud â fersiynau cynharach y rheolau cynnwys gweinyddol a golygyddol. Cynhyrchwyd yr arweiniad hwn gan y rheoleiddiwr blaenorol ATVOD.