Darlledu Gemau Olympaidd 2024: Sut mae’r drefn Digwyddiadau Rhestredig yn berthnasol

Cyhoeddwyd: 18 Gorffennaf 2024

Mae’r BBC a Warner Bros. Discovery wedi ysgrifennu at Ofcom i nodi eu cynlluniau ar gyfer darlledu Gemau Olympaidd yr Haf 2024, a fydd yn cael eu cynnal ym Mharis rhwng 26 Gorffennaf ac 11 Awst 2024. Mae’r Gemau Olympaidd wedi’u dynodi’n ddigwyddiad rhestredig Grŵp A, sy’n golygu efallai y bydd darlledwyr angen caniatâd gan Ofcom ar gyfer eu cynlluniau darlledu byw mewn rhai amgylchiadau.[1]

Mae’r dudalen hon yn egluro pam nad yw’r cynlluniau darlledu angen caniatâd gan Ofcom.

Mae’r drefn digwyddiadau rhestredig yn newid o ganlyniad i Ddeddf Cyfryngau 2024. Ochr yn ochr â’r nodyn hwn, rydym wedi cyhoeddi cais am dystiolaeth er mwyn cefnogi ein gwaith i roi newidiadau'r Ddeddf Cyfryngau ar waith yn y rheolau ar ddigwyddiadau rhestredig. Mae’r cais am dystiolaeth yn gofyn am fewnbwn i’n helpu i ddiffinio termau allweddol yn y drefn ddiwygiedig, gan gynnwys ystyried pryd y dylai darllediadau byw o’r Gemau Olympaidd gael eu hystyried yn ‘ddigonol’ at ddibenion y drefn.

Beth yw digwyddiadau rhestredig?

Nod y drefn digwyddiadau rhestredig yw sicrhau bod darlledwyr am ddim yn cael cyfle i gaffael hawliau darlledu byw i ddarlledu digwyddiadau penodol sydd o ddiddordeb cenedlaethol sylweddol i gynulleidfaoedd yn y DU. Mae’r fframwaith presennol yn rhannu sianeli darlledwyr yn ddau gategori: gwasanaethau ‘cymwys’ (gan gynnwys y prif sianeli darlledu gwasanaeth cyhoeddus, sef BBC One a BBC Two, ITV/STV, Channel 4 a Channel 5) sy’n cyrraedd 95% o’r boblogaeth heb gost ychwanegol i’r gwyliwr, a’r gwasanaethau ‘nad ydynt yn gymwys’, sydd ddim. Ar hyn o bryd, dim ond i wasanaethau darlledu llinol y mae’r fframwaith hwn yn berthnasol.

Rhaid i unrhyw ddarlledwr sydd eisiau dangos darllediadau byw ac egsgliwsif o ddigwyddiad rhestredig, boed hynny’n llawn neu’n rhannol, gael caniatâd gan Ofcom. Fodd bynnag, lle mae’r hawliau i ddarlledu digwyddiadau rhestredig yn fyw wedi cael eu caffael gan ddarlledwyr ‘cymwys’ a darlledwyr ‘nad ydynt yn gymwys’, nid oes angen caniatâd ar y darlledwyr hynny fel rheol.

Warner Bros. Discovery a’r BBC yn bwriadu darlledu’r Gemau Olympaidd yn fyw a’u darparu ar-alw ar eu prif sianeli

Yn 2015, sicrhaodd Discovery (fel yr oedd yn cael ei alw bryd hynny) hawliau amlgyfrwng unigryw i ddarlledu Gemau Olympaidd 2024 ar draws 50 o wledydd Ewrop, gan gynnwys y DU. Fel rhan o hyn, ymrwymodd Discovery i sicrhau bod o leiaf 200 o oriau o Gemau Olympaidd 2024 yn cael eu darlledu am ddim ym mhob un o’r tiriogaethau hyn. Yn dilyn hynny, ymrwymodd y BBC i gytundeb gyda Discovery i ddod yn bartner ar gyfer darlledu Gemau Olympaidd 2024 yn rhad ac am ddim.

Dyma ganlyniad y trefniadau hyn ar gyfer y Gemau Olympaidd eleni:

  • Bydd Warner Bros. Discovery (WBD) yn darlledu yn fyw ar ei ddwy brif sianel chwaraeon – Eurosport 1 ac Eurosport 2. Bydd hefyd yn dangos darllediadau byw o’r Gemau Olympaidd, a’u darparu ar-alw, drwy ei lwyfan ffrydio ‘discovery+’.
  • Bydd y BBC yn darlledu yn fyw ar BBC One neu BBC Two a drwy un ffrwd arall, ar unrhyw un adeg. Nid oes cyfyngiadau ar ba ddigwyddiadau chwaraeon y bydd yn eu darlledu yn fyw, ac nid oes cyfyngiadau ar faint o oriau darlledu byw – nac uchafbwyntiau – y gall eu dangos ar ei ddwy ffrwd. Bydd y BBC hefyd yn darlledu yn fyw ar y radio, ar BBC Radio 5 Live a BBC Radio 5 Sports Extra.

Nid yw’r rheolau presennol yn mynnu bod y BBC na WBD yn cyflwyno eu cynlluniau i Ofcom ar gyfer Gemau Olympaidd 2024

Nid yw'r rheolau presennol yn berthnasol i'r darllediadau o'r Gemau Olympaidd ar y llwyfan ffrydio 'discovery+’. Nid yw’r ddarpariaeth linol a fydd yn cael ei darlledu gan y BBC a WBD yn gofyn am ganiatâd gan Ofcom. Mae eithriad yn berthnasol ar gyfer achosion pan fo darllediadau yn cael eu darlledu ar y ddau gategori gwasanaeth o dan y rheolau ar ddigwyddiadau rhestredig (h.y. gwasanaethau darlledu’r BBC sy’n wasanaethau ‘cymwys’, ac Eurosport 1 a 2 sy’n wasanaethau ‘nad ydynt yn gymwys’).

Cyhoeddodd Ofcom nodyn ar drefniadau tebyg rhwng y BBC a Discovery ar gyfer Gemau Olympaidd y Gaeaf 2022.

Newidiadau’r Ddeddf Cyfryngau i’r rheolau ar ddigwyddiadau rhestredig

Bydd Deddf Cyfryngau 2024 yn diwygio’r rheolau ar ddigwyddiadau rhestredig. Mae’r Ddeddf yn diweddaru’r ystod o wasanaethau sy’n dod o fewn cwmpas y drefn, ac yn cyfyngu ‘gwasanaethau cymwys’ i’r rhai sy’n cael eu darparu gan ddarlledwr gwasanaeth cyhoeddus. Pan fydd mewn grym, bydd y Ddeddf yn cwmpasu amrywiaeth o ddarparwyr newydd (fel ‘gwasanaethau nad ydynt yn gymwys’) gan gynnwys gwasanaethau ffrydio, a allai fod angen caniatâd gan Ofcom i ddangos darllediadau byw ac egsgliwsif o ddigwyddiad rhestredig. Fodd bynnag, ni fydd hyn yn effeithio ar y trefniadau cytundebol presennol, gan gynnwys y trefniadau sydd ar waith rhwng WBD a’r BBC hyd at, a gan gynnwys, Gemau Olympaidd yr Haf 2032.

Ochr yn ochr â’r nodyn hwn, rydym heddiw wedi cyhoeddi cais am dystiolaeth i gefnogi ein gwaith i roi newidiadau’r Ddeddf Cyfryngau ar waith yn y rheolau ar ddigwyddiadau rhestredig. Mae’r cais am dystiolaeth yn gofyn am fewnbwn i’n helpu i ddiffinio'r termau allweddol a ddefnyddir yn y drefn ddiwygiedig, gan gynnwys ystyried pryd y dylai darllediadau byw o’r Gemau Olympaidd gael eu hystyried yn ‘ddigonol’.

[1] Cafodd y fersiwn diweddaraf o’r rhestr o ddigwyddiadau (o 18 Gorffennaf 2024 ymlaen) ei gyhoeddi ar 25 Ebrill 2022 gan yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (fel yr oedd yn cael ei galw bryd hynny).

Rate this page

Thank you for your feedback.

We read all feedback but are not able to respond. If you have a specific query you should see other ways to contact us.

Was this page helpful?
Yn ôl i'r brig