- Gweithwyr benywaidd yn fwy tebygol o adael y diwydiannau teledu a radio
- Rhagwelir y bydd cyfran y cyflogeion teledu sy'n anabl yn gostwng dros y pum mlynedd nesaf
- Cynrychiolaeth leiafrifol yn gwella – ond yn parhau'n wael ar lefelau uwch
- Ofcom yn galw ar y diwydiant i ffocysu ar gadw a datblygu doniau amrywiol
Mae mwy o bobl yn gadael y diwydiannau teledu a radio nag ymuno, yn ôl Ofcom, gyda darlledwyr yn colli doniau amrywiol, rhywbeth sy'n peri pryder.
Mae trosolwg pum mlynedd Ofcom o Amrywiaeth a Chyfle Cyfartal ym myd Darlledu'r DU yn nodi bod darlledwyr yn ei chael hi'n anodd cadw doniau yn sgil y pandemig, gyda mwy o fenywod yn arbennig, yn gadael y busnes darlledu nag sy'n ymuno.
Erbyn hyn mae gan gwmnïau teledu a radio ddealltwriaeth well o lawer o gyfansoddiad eu gweithlu, ac mae cynrychiolaeth grwpiau lleiafrifol wedi gwella'n gyffredinol dros y pum mlynedd diwethaf. Ond mae'r diffyg amrywiaeth ymhlith y rhai sy'n gwneud penderfyniadau ar lefel uwch yn parhau'n arwyddocaol, ac mae pobl anabl yn parhau i gael eu tangynrychioli ar draws y diwydiant.
Felly mae Ofcom heddiw yn galw ar ddarlledwyr i weithio ar y cyd i roi llawer mwy o ffocws ar gadw a datblygu doniau amrywiol ar lefel uwch.
Pam mae hyn yn bwysig
Mae cael gweithlu sy'n cynrychioli cymdeithas y DU yn helpu darlledwyr i greu teledu a radio arloesol, diledryw a llawn dychymyg – rhaglenni sy'n adlewyrchu bywydau a phrofiadau eu cynulleidfa gyfan. Mae'n rhwymedigaeth ar ddarlledwyr, fel un o amodau eu trwyddedau, i gymryd camau i hyrwyddo cyfle cyfartal mewn cyflogaeth. Mae hyn hefyd yn helpu pobl i weithio ym myd darlledu na fyddent fel arall yn cael y cyfle i wneud hynny.
Mae darlledwyr wedi gwneud cynnydd o ran cyflogi ystod ehangach o ddoniau. Er enghraifft, mae dwywaith cymaint o bobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig yn gweithio ar y radio ag yr oedd dair blynedd yn ôl.
Ond am y tro cyntaf mae mwy o bobl, yn enwedig menywod, yn gadael y diwydiant nag ymuno, ac mae pobl anabl yn parhau i gael eu tangynrychioli'n sylweddol. Ac oherwydd bod cwmnïau wedi canolbwyntio ar recriwtio ar lefel mynediad, nid oes digon o ddoniau amrywiol o hyd mewn swyddi uwch.
Felly rydyn ni'n galw ar ddarlledwyr i arafu'r trosiant a chanolbwyntio ar gadw a datblygu pobl dalentog o bob cefndir.
Vikki Cook, Cyfarwyddwr Polisi Darlledu Ofcom
Y darlun pum mlynedd
Dyma bumed adroddiad Ofcom ar amrywiaeth mewn darlledu ac mae'n adlewyrchu'r cynnydd a wnaed dros y pum mlynedd diwethaf. Mae'n datgelu:
Bod darlledwyr yn fwy cynrychioliadol o amrywiaeth ethnig y DU. Yn 2017/18, dim ond 6% o'r gweithlu radio oedd grwpiau lleiafrifoedd ethnig. Mae hyn bellach wedi cynyddu i 10%, er ei fod yn dal yn is na meincnod poblogaeth gweithio'r DU o 12%. Ym myd teledu, mae 16% o'r staff yn dod o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, i fyny o 13% dros yr un cyfnod.
Diffyg amrywiaeth difrifol ymhlith y rhai sy'n gwneud penderfyniadau ar lefel uwch. Mae'n ymddangos bod darlledwyr wedi canolbwyntio ar recriwtio ar lefel mynediad ar draul cadw eu doniau amrywiol a'u galluogi i symud ymlaen. Dim ond 6% o uwch reolwyr sy'n bobl anabl, er enghraifft. Mae'r sefyllfa'n fwy addawol ar gyfer cydweithwyr o leiafrifoedd ethnig ym myd teledu, sy'n ffurfio bron i un ran o bump o'r rhai a ddyrchefir, er nad yw'n glir a yw'r dyrchafiadau hyn i swyddi uwch reolwyr.
Mae poblogaeth anabl y DU wedi'i thangynrychioli'n wael yn y diwydiant darlledu. Er gwaethaf mentrau calonogol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Teledu a Radio yn dal i adrodd cynrychiolaeth ar draws y diwydiant ar 7% - llai na hanner meincnod y DU o 19% yn 2020/21.
Mae amrywiaeth economaidd-gymdeithasol hefyd yn ddiffygiol, o ran diffyg data a'r hyn y mae'r data sydd ar gael yn ei ddangos. Pan fydd gennym ddata, mae'n dangos bod cyflogeion teledu bron ddwywaith yn fwy tebygol o fod â rhieni mewn galwedigaethau proffesiynol (59% o gymharu â meincnod y DU o 33%) ac wedi mynychu ysgol breifat (13% o gymharu â chyfartaledd y DU o 7%).
Rydym yn gwybod mwy nag erioed am gyfansoddiad y diwydiant darlledu. Ni all darlledwyr ddatrys y broblem amrywiaeth oni bai ei bod yn cael ei deall yn llawn, ac maent bellach yn rhoi llawer mwy o ddata i Ofcom. Yn 2016/17, nid oedd gwybodaeth am anableddau ar gael ar gyfer tua thraean o gyflogeion y diwydiant. Rydym bellach yn gallu gweld statws anabledd 76% o'r gweithlu teledu ac 85% o gyflogeion radio.
Y camau nesaf
Rydym yn disgwyl i ddarlledwyr weithio ar y cyd – a gyda'u partneriaid cynhyrchu – i greu sector mwy cynhwysol i bawb. Mae hynny'n cynnwys mwy o ffocws ar gadw yn ogystal â recriwtio. Rydym yn galw ar ddarlledwyr i:
- wella'r broses o gywain data ymhellach – gan gynnwys ar ddyrchafiadau;
- adrodd am lwyddiant neu fethiant mentrau amrywiaeth yn fwy tryloyw;
- ymgysylltu'n bwrpasol â'u rhwydweithiau staff; ac
- ystyried gosod targedau cadw.
Er mwyn arwain y sgwrs ar amrywiaeth ac i gefnogi darlledwyr a'u cyflogeion, mae Ofcom yr wythnos hon yn cynnal Dros Bawb – digwyddiad i helpu darlledwyr i gydweithio ar ehangu eu gweithluoedd a rhannu'r hyn sy'n gweithio.