Mae gwirfoddolwyr yn hanfodol i redeg gorsafoedd radio cymunedol lleol. Heddiw felly, rydym wedi diweddaru ein harweiniad i gynyddu gwerth y gwirfoddolwyr y gall gorsafoedd eu defnyddio wrth adrodd ar eu trosiant blynyddol.
Mae gan y sector radio cymunedol reolau ariannu penodol iawn ar waith, sydd wedi'u pennu gan Lywodraeth y DU. Mae Ofcom yn sicrhau bod trwyddedeion radio cymunedol yn glynu wrth y rheolau hyn drwy asesu ffrydiau refeniw yn y broses dychweliadau blynyddol. Mae ein harweiniad wedi'i ddiweddaru bellach yn caniatáu i orsafoedd radio cymunedol briodoli mwy o werth i'r amser y mae gwirfoddolwyr yn ei roi yn eu datganiadau blynyddol.
Ar hyn o bryd mae dwy lefel o wirfoddolwyr mewn radio cymunedol:
- Uwch wirfoddolwr: Mae gan y rhain gyfrifoldeb am allbynnau gorsafoedd a/neu allbynnau gwirfoddolwyr eraill. Fel arfer, rheolwr gorsaf fydd hwn.
- Gwirfoddolwr safonol: Dim ond am eu hallbynnau eu hunain y mae ganddynt gyfrifoldeb.
Erbyn hyn gall gorsafoedd radio cymunedol hawlio cyfradd fesul awr o £15.23 ar gyfer uwch wirfoddolwyr, a £13.91 ar gyfer gwirfoddolwyr safonol. Mae hyn yn gynnydd sylweddol o £9.38 yr awr ar gyfer gwirfoddolwr safonol, tra bod y gyfradd fesul awr ar gyfer uwch wirfoddolwyr wedi codi o £13.13.
Rhaid i orsafoedd radio sy'n hawlio gwerth am fewnbynnau gwirfoddolwyr ac sy'n cynhyrchu incwm pellach o ffynonellau masnachol ar yr awyr bob amser gynhyrchu o leiaf 25% o'r incwm sy'n weddill hwn o ffynonellau eraill - megis grantiau neu roddion.
Bydd trwyddedeion radio cymunedol yn gallu defnyddio’r cyfraddau diwygiedig ar gyfer gwirfoddolwyr safonol ac uwch wrth gyflwyno eu hadroddiadau blynyddol ar gyfer 2023.