Mae cyfryngau cymdeithasol yn newid y ffordd yr ydyn ni'n gwylio ac yn ymwneud â chynnwys teledu. Mae'n fwyfwy cyffredin gweld clipiau o raglenni teledu'n ymddangos ar ein llinellau amser a'n ffrydiau, gan roi cyfle i ni gael cipolwg ar raglen, hyd yn oed os na wnaethom ei gwylio'n llawn ar yr amser y cafodd ei darlledu.
Weithiau, gall y clipiau hyn fod yn ddadleuol, gan ddangos safbwyntiau cryf a herfeiddiol neu gynnwys y byddwch efallai'n ei gael yn sarhaus neu'n niweidiol. Ac yn aml gallant ddenu llawer iawn o sylw. Y cyfan sydd ei angen yw i glip gael ei rannu gan un neu ddau o gyfrifon cyfryngau cymdeithasol proffil uchel â llawer o ddilynwyr, ac mae'r niferoedd sy'n ei wylio'n codi'n aruthrol.
Ac, o ystyried natur rhai algorithmau a ffrydiau cyfryngau cymdeithasol, yn aml mae'r cynnwys hwn yn cael ei ddangos i ni hyd yn oed os nad ydym yn mynd ati i chwilio amdano. Felly efallai y byddwn yn gweld rhywbeth na fyddem wedi dewis ei weld yn y lle cyntaf.
Mae cyfryngau cymdeithasol yn arwain at fwy o gwynion
I ryw raddau rydym wedi gweld perthynas rhwng clipiau sy’n cael eu postio ar gyfryngau cymdeithasol, a nifer y cwynion dilynol y mae Ofcom yn eu derbyn am y rhaglenni y maent wedi'u tynnu ohonynt.
Gall y clipiau hyn ennyn ymateb cryf gan y bobl sy'n eu gwylio, y byddant wedyn eisiau gwneud cwyn i Ofcom o bosib. Ond gall hyn olygu bod pobl yn cael eu cymell i gwyno am raglen efallai nad ydynt wedi'i gweld, a'u bod yn ffurfio eu barn dim ond ar sail pytiau byr nad ydynt o reidrwydd yn cynrychioli cyd-destun llawn yr hyn a ddywedwyd neu a ddangoswyd yn y rhaglen lawn.
Ni all Ofcom asesu cynnwys a ddarlledir ar sail clipiau a rennir ar gyfryngau cymdeithasol. Rydym yn asesu rhaglenni yn eu cyfanrwydd – gan wneud ein penderfyniadau ar sail y cynnwys a ddangosir mewn gwirionedd ar y sianel ddarlledu yr ydym yn ei thrwyddedu.
Mae'n werth cofio hefyd nad yw nifer fawr o gwynion yn golygu y byddwn ni'n fwy tebygol o gymryd camau yn erbyn rhaglen benodol. Rydym yn asesu rhaglenni sy’n derbyn dim ond un neu ddwy gŵyn ochr yn ochr â’r rhai sy’n denu niferoedd uchel o gwynion, ac yn seilio ein penderfyniadau ar y rheolau a nodir yn y cod darlledu, nid ar faint o gwynion rydym wedi’u derbyn.
Yr hyn sy'n allweddol yw'r cyd-destun
Wrth asesu rhaglenni, rydym yn cymryd nifer o ffactorau cyd-destunol pwysig i ystyriaeth. Ymhlith pethau eraill, gallai hyn gynnwys: a gafodd rhybudd ei ddarlledu cyn i raglen benodol gael ei dangos; yr amser o'r dydd y cafodd ei darlledu; a oedd cynnwys y rhaglen yn gweddu i'r hyn yr oedd y gynulleidfa'n disgwyl ei weld; ac a oedd ystod o safbwyntiau wedi'u cynnwys.
Ond mae'n bosib nad yw'r ffactorau hyn yn amlwg mewn clip cyfryngau cymdeithasol sydd wedi cael ei olygu.
Er enghraifft, efallai y bydd clip ond yn dangos cyflwynydd neu gyfrannwr yn mynegi safbwynt neu farn y gallai rhai pobl ei chael yn sarhaus neu’n unochrog. I'r bobl hynny sy'n gweld y clip hwnnw felly, dyna'r unig farn sy'n cael ei chynrychioli.
Fodd bynnag, yng nghyd-destun ehangach y rhaglen neu'r gyfres lawn, efallai y bydd safbwyntiau gwahanol yn cael eu cyflwyno sy'n herio'r farn a gofnodwyd yn y clip.
Mae rhyddid mynegiant yn hollbwysig
Yn olaf, wrth wraidd y penderfyniadau a wnawn ar gwynion teledu yw hawl darlledwyr i ryddid mynegiant, a’r hawl sydd gennych chi, fel cynulleidfa, i dderbyn amrywiaeth o wybodaeth a syniadau.
Nid oes unrhyw hawl i beidio â chael eich tramgwyddo gan yr hyn a welwch ar y teledu neu a glywch ar y radio. Er gwaetha'r ffaith nad yw rhywbeth at eich dant chi neu eich bod wedi'ch digio ganddo - boed hynny mewn clip neu raglen lawn - mae gan ddarlledwyr hawl i ryddid mynegiant. Mae hynny’n golygu bod ganddynt ryddid golygyddol i ddarlledu rhaglenni sy’n cynnwys safbwyntiau dadleuol a heriol, cyn belled â bod y rhaglen yn cydymffurfio â’r rheolau a nodir yn ein Cod Darlledu.
A lle mae darlledwyr yn methu'r nod, gall Ofcom gamu i'r adwy i weithredu ar ran gwylwyr a gwrandawyr.
I gael rhagor o wybodaeth am sut yr ydym yn ymdrin â chwynion darlledu, bwrw golwg ar ein fideo esboniadol byr.