A woman sitting on a sofa watching reality television

Rheswm dros gwyno - golwg yn ôl ar gwynion teledu yn ystod 2022

Cyhoeddwyd: 21 Rhagfyr 2022
Diweddarwyd diwethaf: 16 Mawrth 2023

Dyma Adam Baxter, Cyfarwyddwr, Safonau a Diogelu Cynulleidfaoedd, yn myfyrio ar ein gwaith Darlledu yn 2022.

Eleni, cawsom ein hatgoffa'n aml o rym teledu wrth iddo ddod â ni at ein gilydd am fomentau hanesyddol fel angladd EM Y Frenhines Elizabeth II a buddugoliaeth y Llewesau yng nghystadleuaeth pêl-droed Euro 2022 y Menywod. Gwnaeth newyddion teledu ein hysbysu am y rhyfel yn Wcráin a newidiadau gwleidyddol gartref. Ac eisteddodd y genedl i lawr i wylio'r bennod olaf (am y tro?) o'r opera sebon eiconig Neighbours.

Tagiwyd Ofcom mewn miloedd o sgyrsiau ar-lein am deledu a radio, ac roedden ni hyd yn oed yn destun meme pan ddarlledodd Love Island ei bennod 'Movie Night'.

Yn ystod y flwyddyn, derbyniwyd 36,543 o gwynion am dros 9,500 o faterion. Cwblhawyd 74 ymchwiliad safonau darlledu; mewn 66 o'r achosion hyn gwelwyd bod ein rheolau wedi'u torri. Fe wnaethon ni hefyd gwblhau 45 o ymchwiliadau tegwch a phreifatrwydd yn ystod y flwyddyn, gyda chwe chŵyn wedi'u cynnal. Mae'r ffigurau hyn yn dangos yn glir y pwysau rydyn ni'n ei roi ar ryddid mynegiant, ac mai dim ond pan fydd wir ei angen y byddwn yn camu i'r adwy.

Complaints-of-the-Year-2022_Year-in-numbers-CYM

Mae'n bwysig nodi nad yw'r nifer hwn yn cynnwys cwynion am raglenni ar y BBC. Mae'r rhain yn cael eu trin gan y BBC yn y lle cyntaf. Yn yr haf, fe ddywedon ni wrth y BBC ein bod ni'n disgwyl iddi wella'r ffordd y mae'n ymdrin â chwynion gan wylwyr a gwrandawyr. Ac roeddem yn falch o'i gweld yn cyhoeddi'n ddiweddar y bydd yn newid ei phrosesau er mwyn ei gwneud hi'n haws i gwyno.

Mae pobl yn cwyno wrthym am lu o resymau gwahanol, ac, i Ofcom, mae cwynion yn faromedr hanfodol o sut mae cynulleidfaoedd yn meddwl ac yn teimlo.

Mae rhestr 2022 o'r raglenni y cwynwyd fwyaf amdanynt wedi'i dominyddu unwaith eto gan deledu realiti - yn enwedig Love Island ac I'm a Celebrity Get Me Out of Here! ar ITV. O ystyried y ffigurau gwylio sylweddol, a'r penawdau a'r sgyrsiau a grëwyd gan y sioeau hyn – ar-lein ac oddi ar-lein – nid yw'n syndod eu gweld ar frig ein siart.

Efallai y bydd pobl yn meddwl o reidrwydd i nifer uchel o gwynion olygu bod rhaglen wedi torri ein rheolau'n awtomatig. Ond nid felly y mae hi. Fe wnaethon ni asesu cwynion am y ddwy raglen hyn yn ofalus a chanfod nad oedd yr un ohonynt yn gwarantu ymchwiliad pellach o dan ein rheolau. Felly pam na wnaeth y rhaglenni hyn ein hysgogi i ymyrryd?

Gadewch i ni ddechrau gyda'r bennod o Love Island, sydd yn y safle uchaf fel y rhaglen y cwynwyd fwyaf amdani eleni.  Roedd y cwynion yn ymwneud â honiadau o ymddygiad misogynistaidd a bwlio gan rai cystadleuwyr yn y fila, ac fe gafodd pob un ohonynt eu hasesu'n ofalus. Yn y pen draw, daethom i'r casgliad nad oedd y rhaglen yn gwarantu ymchwiliad ffurfiol o ganlyniad i sut y rhoddwyd yr ymddygiad hwn yn ei gyd-destun ar y rhaglen.

Yr ail fater mwyaf fu'n sbardun i gwynion eleni oedd gwrthwynebiad gwylwyr i bresenoldeb Matt Hancock yn y jyngl. Mae'n ddiddorol nodi i bron yr un nifer o achwynwyr wrthwynebu'r hyn yr oedden nhw'n ei ystyried i fod yn driniaeth negyddol ohono ar y sioe.

Ond o dan ein rheolau ni a chan gymryd rhyddid mynegiant i ystyriaeth, ni ellir gwahardd rhywun penodol rhag cymryd rhan mewn rhaglenni. Fodd bynnag, os bydd cynnwys person mewn rhaglen yn debygol o achosi tramgwydd, rydym yn disgwyl i ddarlledwyr gymryd camau i liniaru neu gyfiawnhau'r tramgwydd hwnnw. Nhw sy'n gwneud y penderfyniadau golygyddol am sut i wneud hynny.

Wrth ystyried cwynion am y ddwy raglen hyn, rydym hefyd yn cymryd i ystyriaeth y ffaith mai sioeau hirhoedlog yw'r rhain, â fformat sydd wedi hen ennill ei blwyf. Felly, byddai gwylwyr sy'n tiwnio i mewn yn disgwyl gweld perthynas cwpl yn cael ei phrofi yn ystod y gyfres Love Island ac enwogion yn destun pleidleisiau cyhoeddus ailadroddus i gyflawni treialon ar I'm a Celebrity…!.

Efallai bod y rhai â llygad barcud yn eich plith wedi sylwi bod niferoedd y cwynion i ni'n is eleni nag yn y ddwy flynedd ddiwethaf. Mewn gwirionedd, maen nhw'n agosach at y niferoedd a gawsom yn 2018 a 2019. Gellid mentro, efallai, bod effaith y pandemig ar ein harferion gwylio ac ar yr anian genedlaethol yn ffactor. Efallai y bydd eraill yn nodi nad oes un raglen unigol wedi sbarduno'r trafodaethau llosg a welwyd mewn blynyddoedd blaenorol.

Ond a yw llai o gwynion yn golygu y bu ein gwaith yn llai pwysig eleni? Na yw'r ateb pendant, mae wedi bod yn flwyddyn brysur i dîm safonau darlledu Ofcom.

Yn 2022, fe wnaethom asesu 9,744 o faterion - dau draean y nifer yn 2021, a oedd yn flwyddyn heb ei hail i ni o ran cwynion.

Complaints-of-the-Year-2022_Last-5-years-complaints-CYM

Ymhlith y rhain roedd 9,744 yn faterion arwyddocaol a difrifol. Fydda i ddim yn rhestru pob asesiad a phenderfyniad yr ydym wedi'i wneud eleni, ond mae ambell un yn sefyll allan.

Bu i ni ymchwilio i Channel 4 a chanfod ei bod wedi torri amodau ei thrwydded mewn perthynas â phroblemau isdeitlo - gwasanaeth y mae miliynau o bobl yn dibynnu arno.

Daethom â'n hymchwiliad i ymdriniaeth y BBC o ymosodiad gwrth-semitig i ben, gan gyhoeddi Barn y bu ei hymdriniaeth ar-lein yn fethiant sylweddol i lynu wrth ei chanllawiau golygyddol i adrodd newyddion gyda chywirdeb dyladwy a didueddrwydd dyladwy.

Fe wnaethom barhau â'n gwaith o ddiogelu cynulleidfaoedd rhag niwed, gan osod sancsiynau ar chwe darlledwr am dorri rheolau'n ymwneud â chynnwys, gan gynnwys atal trwydded KTV yn sgil tor rheolau darlledu difrifol.

Ym mis Mawrth, bu i ni ddirymu trwydded y darlledwr Rwsiaidd RT i ddarlledu yn y DU. Roedd hynny ar ôl i ni ddod i'r casgliad nad oedd yn addas ac yn briodol i ddal trwydded yn y DU.

Bu i ni hefyd gynnal 29 ymchwiliad i raglenni ar RT y nodwyd eu bod yn groes i'n rheolau didueddrwydd dyladwy.

Nid  ar chwarae bach nac yn aml yr ydym yn dirymu trwydded. Rydym yn gwarchod rhyddid mynegiant yn frwd yn y wlad hon, ac mae'r trothwy ar gyfer cymryd camau ynghylch darlledwyr wrth reswm wedi'i osod yn uchel iawn.

Bydd gwylwyr a gwrandawyr bob amser wrth wraidd yr hyn a wnawn, ac rydym yn ystyried pob cwyn a dderbyniwn yn ofalus. Rydym yn edrych ymlaen at flwyddyn arall o ddiogelu cynulleidfaoedd rhag niwed a chynnal rhyddid mynegiant ar eich sgriniau a'ch tonfeddi.

.

Complaints-of-the-Year-2022_Complaints-of-the-year-CYM

Y deg cwyn uchaf:

  1. Love Island, ITV2, 17 Gorffennaf - cwynion mewn perthynas â honiadau o ymddygiad misogynistaidd a bwlio gan rai cystadleuwyr yn y fila.
  2. I’m a Celebrity.... Get me out of here!, ITV, 6-27 Tachwedd - gwylwyr yn gwrthwynebu cynnwys Matt Hancock yn y gyfres.
  3. Friday Night Live, Channel 4, 21 Hydref - cwynion mewn perthynas â pherfformiad gan Jordan Gray.
  4. Love Island, ITV2, 19 Gorffennaf - cwynion mewn perthynas â honiadau o ymddygiad misogynistaidd a bwlio gan rai cystadleuwyr yn y fila.
  5. Good Morning Britain, ITV, 15 Chwefror - cwynion mewn perthynas â sylwadau a wnaed gan Richard Madeley ynghylch bygythiadau i ladd Keir Starmer.
  6. Jeremy Vine, Channel 5, 24 Ionawr - gwylwyr yn cwyno am ddatganiad anghywir ymgynghorydd iechyd ynghylch nifer y bobl heb eu brechu yn yr ysbyty gyda Covid-19.
  7. Love Island, ITV2, 18 Gorffennaf - cwynion mewn perthynas â honiadau o ymddygiad misogynistaidd a bwlio gan rai cystadleuwyr yn y fila.
  8. I’m a Celebrity.... Get me out of here!, ITV, 13 Tachwedd - gwylwyr yn gwrthwynebu ymddygiad bwlio yn erbyn Matt Hancock.
  9. FIFA World Cup Final 2022: Argentina v France, ITV, 18 Rhagfyr - cwynion yn ymwneud â sylwadau â naws wleidyddol gan Gary Neville.
  10. Sky News, Sky News, 10 Medi - adroddwyd bod gorymdaith Cyfiawnder dros Chris Kaba fel pobl ar eu ffordd i dalu teyrnged i'r diweddar Frenhines. Mae Ofcom yn ymchwilio a fu i hyn dorri ein rheolau ar gywirdeb dyladwy.

Cofnodwyd ffigurau'r cwynion dros y cyfnod 1 Ionawr - 19 Rhagfyr 2022.

Cyhoeddir pob cwyn i Ofcom yn ein Bwletinau Darlledu.

Yn ôl i'r brig