
Cyhoeddwyd:
1 Medi 2021
Diweddarwyd diwethaf:
16 Mawrth 2023
Mae gwaith Ofcom ar safonau darlledu yn un o'r agweddau mwy adnabyddus o’r hyn a wnawn. Ond mae llawer o gamddealltwriaeth o hyd ynglŷn â'r broses a ddilynwn wrth ddelio â chwynion am raglenni teledu a radio.
Rydym wedi derbyn y nifer uchaf erioed o gwynion am raglenni teledu a radio eleni, ac mae pob un yn cael ei drin yn ofalus gan ein tîm o arbenigwyr.
Yr wythnos hon rydym hefyd yn cyhoeddi ein penderfyniadau ar gwynion a gawsom am rai rhaglenni teledu proffil uchel.
Rydym wedi creu’r fideo yma i esbonio’r broses pan fyddwn yn derbyn un o'r cwynion hyn.
Gwyliwch i gael gwybod beth sy'n digwydd.