Adolygiad o BBC Studios

Cyhoeddwyd: 30 Tachwedd 2023

Mae’r BBC yn ymgymryd â gweithgareddau masnachol i gynhyrchu elw, y gellir ei ail-fuddsoddi yn rhaglenni a gwasanaethau’r BBC ac ategu incwm o ffi’r drwydded. Bydd angen i’r gweithgareddau hyn ymaddasu i’r amgylchedd newidiol ac ymateb i gyfleoedd wrth iddynt godi. Ein rôl ni fel rheoleiddiwr yw sicrhau nad yw’r berthynas rhwng y rhan o’r BBC sy’n cael ei hariannu gan ffi’r drwydded (y Gwasanaeth Cyhoeddus) a’r gweithgareddau masnachol yn aflunio'r farchnad nac yn creu mantais gystadleuol annheg. Rydym yn cefnogi’r angen i’r BBC arloesi, tyfu a newid cyn belled â bod hyn yn cael ei wneud yn deg.

Crëwyd BBC Studios yn 2017 wrth i’r rhan fwyaf o weithgareddau cynhyrchu (comedi, drama, adloniant, cerddoriaeth a digwyddiadau a ffeithiol) gael eu symud o’r rhan o’r BBC sy’n cael ei hariannu gan ffi’r drwydded (y Gwasanaeth Cyhoeddus). Ers hynny, bu rhai newidiadau sylweddol.

Yn 2018, fe wnaeth BBC Studios uno â BBC Worldwide, yr is-gwmni dosbarthu. Ar adeg yr uno hwn, ymrwymodd y BBC (ymysg pethau eraill) i gynnal y llinellau busnes yn y BBC Studios newydd fel eu bod yn gyson â’r llinellau busnes a oedd ar waith cyn yr uno. Yn 2019, lleihaodd y BBC ei linellau busnes yn BBC Studios o bump i ddau – ‘Cynhyrchu a dosbarthu’ a ‘Gwasanaethau wedi’u Brandio’ (ei fusnes sianeli) – ac wedi hynny fe dynnodd ei ymrwymiad cynharach yn ôl. Yn 2019 hefyd, cymerodd BBC Studios berchnogaeth lwyr ar saith o’r deg sianel UKTV a chytunwyd ar fargeinion cynnwys sylweddol, gan gynnwys gyda Discovery, Sky a BritBox UK.

O ystyried datblygiadau yn nhirwedd y cyfryngau ac yn BBC Studios dros y blynyddoedd diwethaf, mae’n bwysig i ni wella ein dealltwriaeth o sut mae BBC Studios wedi rhoi ein rheolau (PDF, 767.2 KB) ar waith ac i ni fod yn fwy tryloyw ar hyn o beth gyda rhanddeiliaid.

Yn ein hadolygiad, byddwn yn ystyried pryderon ynghylch y berthynas rhwng y Gwasanaeth Cyhoeddus a BBC Studios. Bydd hyn yn ein galluogi i asesu a yw ein gwaith rheoleiddio yn effeithiol o hyd ac a oes angen gwneud rhagor o waith, gan gynnwys diwygio ein rheolau.

In November 2023, the BBC updated us (PDF, 98.1 KB) on the action it is taking on its approach to secondary content sales where the Public Service owns the intellectual property to ensure that its co-production arrangements with BBC Studios are at arm’s length and on commercial terms.

We have now published a further consultation on how we regulate the BBC’s impact on competition. Our consultation sets out the changes that the BBC is making to its processes to address the concerns raised in our review of BBC Studios. The consultation also proposes some small changes to the Trading and Separation requirements and guidance, to ensure that they are clear. The consultation is open for responses and closes on 6 February 2023.

Yn ein cais am dystiolaeth, rydym yn gwahodd barn rhanddeiliaid ar dri maes allweddol yn cynnwys: y gwahanu gweithredol rhwng BBC Studios a'r Gwasanaeth cyhoeddus, cyflenwi a phrisio nwyddau a gwasanaethau rhwng BBC Studios a'r Gwasanaeth Cyhoeddus; a'r gyfradd enillion masnachol mae  BBC Studios yn ennill.

Rydyn ni hefyd wedi cyhoeddi adroddiad gan Mediatique sy'n nodi sut mae'r sectorau mae BBC Studios yn gweithredu ynddynt wedi datblygu ac yn ystyried sut gallen nhw esblygu. Mae'r dyddiad cau ar gyfer ymateb i'r cais hwn am dystiolaeth ar 4 Rhagfyr 2020. Gallwch ymateb drwy ebost at: bbc.studiosreview@ofcom.org.uk. Byddwn yn ystyried holl ymatebion rhanddeiliaid, ac yn bwriadu cyhoeddi ein canfyddiadau o'r adolygiad hwn yn ystod Gwanwyn 2021.

Fel rhan o'n hadolygiad, gwnaethom asesu'r newidiadau y mae BBC Studios wedi'u gwneud i'w linellau busnes.

Rydym yn ystyried bod gostyngiad BBC Studios o'i linellau busnes o bump i ddau - a fu'n ymwneud â chyfuno ei weithgareddau cynhyrchu a dosbarthu - yn gydnaws â chwmnïau cynhyrchu eraill o faint a chwmpas tebyg. Daethom i'r casgliad felly fod y llinellau busnes diwygiedig yn briodol.

Yn ôl i'r brig