Datganiad wedi'i gyhoeddi 18 Ebrill 2023
Ym mis Tachwedd, fe wnaethom ni gyhoeddi ymgynghoriad ar sut mae Ofcom yn rheoleiddio effaith y BBC ar gystadleuaeth. Roedd hwn yn nodi cynigion i newid ein canllawiau ynghylch sut mae effaith y BBC ar gystadleuaeth yn cael ei hasesu, ac i osod gofyniad ar y BBC i roi cyhoeddusrwydd i newidiadau arfaethedig i’w wasanaethau cyhoeddus. Roedd yr ymgynghoriad hwn yn dilyn ein hadolygiad o Sut mae Ofcom yn rheoleiddio’r BBC, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2022.
Rydym yn gosod gofyniad newydd i’r BBC roi cyhoeddusrwydd i’r newidiadau i’w wasanaethau cyhoeddus sy’n debygol o fod yn destun asesiad perthnasedd. Bwriad hyn yw annog y BBC i fod yn fwy tryloyw gyda rhanddeiliaid am ei gynlluniau, ac i fod yn fwy cyson ynghylch sut mae’n gwneud y rhain yn gyhoeddus.
Prif ddogfennau
Dogfennau cysylltiedig
Ymatebion
Manylion cyswllt
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA